Mae Karen yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ymunodd Karen ag
Athletes’ Soul, sefydliad dielw sy’n canolbwyntio ar ymddeoliad athletaidd, i gymryd rhan mewn trafodaeth banel nodedig a gynhaliwyd yn ystod y Gemau Olympaidd ym Mharis 2024.
Rwyf wedi bod i Baris unwaith o’r blaen, ond roedd y tro hwn yn wahanol. Y tro hwn, roedd y ddinas yn fwrlwm o gyffro’r Gemau Olympaidd. Roedd fy ymweliad yn un broffesiynol ar ôl cael gwahoddiad gan Athletes’ Soul i ddigwyddiad a ddarparwyd yn ail wythnos y Gemau i’r Olympiaid, eu teuluoedd, a staff cymorth. Mae Athletes’ Soul yn sefydliad dielw ymroddedig a phroffesiynol a sefydlwyd ac a weithredir gan gyn-athletwyr sy’n darparu cefnogaeth i athletwyr wrth iddynt drosglwyddo i ffwrdd o chwaraeon. Mae’r sefydliad yn codi ymwybyddiaeth am heriau ymddeoliad athletaidd ac yn grymuso athletwyr i ddatblygu y tu hwnt i chwaraeon.
Yn nyddiau olaf Gemau Olympaidd Paris, yng nghysgod y Bercy Arena – lleoliad y digwyddiadau gymnasteg – darparodd Athletes’ Soul encil i’r Olympiaid oedd yn cystadlu a’r cyfle iddynt gymryd rhan mewn dwy ‘sgwrs wrth ymyl y tân’. Roedd y sgwrs gyntaf yn cynnwys trafodaeth am iechyd meddwl mewn Olympiaid sy’n ymddeol, tra bod yr ail sgwrs yn cynnwys trafodaeth am y sgiliau trosglwyddadwy y gall athletwyr eu cymhwyso i graffter busnes.
Fel ymchwilydd ac ymarferydd seicoleg chwaraeon gyda diddordeb mewn iechyd meddwl, yn benodol, ffenomenau a adwaenir fel y ‘felan ôl-olympaidd’, cefais y fraint o ymuno â’r sgwrs gyntaf wrth ymyl tân gyda’r Olympiaid
Anthony Ervin (nofio; 4 medal aur, 1 arian; 2000; 2016),
Erin Cafaro (rhwyfo; 2 fedal aur; 2008, 2012), a
Mikel Thomas (Athletau; Olympiad tair gwaith; 2008, 2012, 2016). Mae’r straeon y mae athletwyr yn eu hadrodd am eu profiad o adfyd, twf, a’r profiadau iselder y mae llawer yn eu dioddef ar ôl dychwelyd adref o’r Gemau Olympaidd wedi fy nghyfareddu i.
Wedi fy swyno gan siwrneiau’r athletwyr, roedd fy hediad o Fryste i Baris yn cynnwys darllen hunangofiant “coming of age” (ei eiriau pan drafodwyd y peth) y pencampwr nofio Olympaidd, Anthony Ervin. Fel rhan o’r panel, clywais o’r dyn ei hun am ei brofiadau; ei golli hunaniaeth, ei seibiant nofio 14 mlynedd, a’r ansicrwydd a deimlai ynghylch yr hyn yr oedd am ei wneud â’i fywyd ar ôl ymddeol. Siaradodd Mikel Thomas am yr heriau a brofodd wrth drosglwyddo i ffwrdd o chwaraeon cystadleuol, gan gynnwys ei golli hunaniaeth, pwrpas, a chefnogaeth cymuned.
Soniodd pob un o’r panelwyr am y stigma parhaus ynghylch materion iechyd meddwl o fewn chwaraeon. Ar sail fy ymchwil ac ymchwil eraill, trafodais yr angen i greu amgylchedd mwy agored a chefnogol i athletwyr. Yn olaf, buom yn trafod yr angen i hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr, teuluoedd, a sefydliadau chwaraeon ddysgu adnabod yr heriau hyn a chefnogi athletwyr.
Yn y digwyddiad rhwydweithio a ddilynodd, cefais fy syfrdanu gan y straeon a ddywedodd unigolion am eu profiadau. Y tu hwnt i’r straeon am lwyddiant medal aur Olympaidd, cefais fy synnu’n arbennig gan aelodau o’r
Tîm Olympaidd Ffoaduriaid a sut yr oedd eu perfformiadau yn y Gemau wedi yn cuddio eu profiadau o drawma a cholled.
Roedd fy nhaith i Baris yn un na fyddaf yn ei anghofio’n fuan ...