Hafan>Newyddion>Dim dyfarnwr, dim gêm! A oes angen ymateb mwy tosturiol i’r dyfarnwr yn y canol?

Dim dyfarnwr, dim gêm! A oes angen ymateb mwy tosturiol i’r dyfarnwr yn y canol?

Hydref 28, 2019

Cardiff Metropolitan University
Nigel Owens, dyfarnwr

 

Wrth i ni symud y tu hwnt i gyfnod y grwpiau yng Nghwpan y Byd ac i mewn i gemau 'rhaid ennill' y rowndiau terfynol, mae'r pwysau ar y chwaraewyr a'r hyfforddwyr wedi cael llawer o sylw. Gadawodd Michael Cheika, hyfforddwr y Walabîs, ei swydd bum mlynedd o fewn 24 awr i'w dîm golli yn y chwarteri i dîm disgybledig Cymru. Mae bos y Walabîs, yn debyg i bob hyfforddwr, yn gorfod wynebu myrdd o bobl y cyfryngau wedi'r gêm a bod yn agored i graffu manwl yn syth ynglŷn â rhinweddau a gwendidau perfformiad eu tîm. Fe wnaeth Cheika ac, fel y dywed hanes Cwpan Rygbi'r Byd wrthym, lawer o bobl eraill o'i flaen yn y cyfnod yma yn y rowndiau terfynol, wynebu cwestiwn tywyll 'ymddiswyddo' hefyd! Bydd rygbi a phob camp yn sôn am hyfforddwyr yn 'marw ar eu cleddyf' ac nid yw hyn yn bell o'r gwir. Dywed ymchwil wrthym fod y symud allan o fyd rygbi rhyngwladol i lawer hyfforddwr yn un heriol, gan fagu cyfnodau o hwyliau isel ac iselder ysbryd hyd yn oed a fydd yn seiliedig ar fethiant. Testun syndod ynglŷn ag ymateb Cheika, fodd bynnag, i'r cwestiwn 'ymddiswyddo' oedd iddo ofyn am 'dosturi'.

Nid yw 'tosturi' yn air a gysylltir fel arfer â chwaraeon, er bod Cwpan y Byd eleni wedi amlygu pethau da a phethau gwael y ddynoliaeth rygbi. Roedd gweld tîm rygbi Canada yn helpu'r gymuned leol yn Kamaishi i ddod dros teiffŵn Hagibis wedi i'w gêm olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Namibia gael ei ganslo, yn ein helpu i wneud synnwyr o'r rôl a allai fod gan dosturi ym maes chwaraeon. Roedd eu hymateb emosiynol wrth weld pobl yn dioddef a'u hawydd gwirioneddol i helpu dinasyddion Kamaishi yn dangos awydd sylfaenol am fod â dynoliaeth gyffredin a fydd yn seiliedig ar garedigrwydd, allgaredd ac empathi.   

Er hynny, mae'n ymddangos y bydd ein hymdeimlad o dosturi yn ein gadael wrth i ni fynd drwy'r gatiau neu wrth i ni droi'r teledu neu'r radio ymlaen, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth i ni ystyried y dyfarnwr yn y canol. Mae penawdau Cwpan Rygbi'r Byd yr wythnos hon wedi troi o gwmpas 'dad-ddewis' Jaco Peyper, y dyfarnwr o Dde Affrica a fu'n dyfarnu gornest Cymru yn erbyn Ffrainc yn y rownd gogynderfynol. Fe wnaeth Peyper ei waith yn iawn bron bob tro yn ystod y gêm yma a bu'n un o ddyfarnwyr gorau'r twrnamaint, ond eto, yn ôl y sôn, cafodd ei 'ddiswyddo' o'r gemau cynderfynol oherwydd 'llun' gyda chefnogwyr Cymru mewn gorsaf drenau. Heb drafod a oedd bod yn y llun yn iawn neu beidio, dylai wneud i ni ystyried ein safbwynt ar y dyn yn y canol.    

Ar draws chwaraeon, mae'n ymddangos ein bod wedi caniatáu i rôl y dyfarnwr gael ei difrïo, gan roi lle i safbwynt annosturiol yn seiliedig ar ddiffyg goddefgarwch tuag at ddim sy'n brin o fod yn 'berffaith'. Amlygwyd hyn ymhellach yr wythnos hon wrth i gefnogwyr De Affrica geisio mynnu na chaiff y dyfarnwr Jerome Garces fod yn gyfrifol am eu gêm gynderfynol yn erbyn Cymru. Mae deiseb ar-lein wedi'i dechrau yn galw am i Brett Gosper, prif weithredwr Rygbi'r Byd a rheolwr-gyfarwyddwr Cwpan y Byd fynd â'r gêm oddi wrth y swyddog uchel ei barch hwn o Ffrainc; y rheswm yw bod ystadegau'n dangos bod De Affrica wedi colli mwy o'u gemau pan fydd e'n dyfarnu.  

Ar ei fwyaf aneffeithiol, mae ein hymateb syth ninnau i weiddi ar y dyfarnwr am yr hyn a fydd yn benderfyniad gwael yn ein barn ni, yn diflannu yn sŵn byddarol arall y stadiwm. Ar ei eithaf, caiff y dyfarnwr a'i deulu eu trolio drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'u bygwth y cân nhw eu niweidio'n gorfforol. Mae dyfarnwyr yn haeddu ein trugaredd: mae ymchwil i ddyfarnu yn amlygu galwadau dwys y rôl a'r pwysau seicolegol trwm y byddan nhw'n eu hwynebu sy'n golygu y bydd eu lles seicolegol yn wael ac y cân nhw brofiadau gwael o ran eu hiechyd meddwl. Mae dyfarnwyr yn troi eu cefn (yn ei gwadnu hi) o'r gêm ar bob lefel gan mai dyna'r unig ffordd ddilys i ddiogelu eu hiechyd meddwl. Heb ymateb mwy tosturiol oddi wrth y gymuned rygbi, mae'n bosib y gallai'r gêm ei hun gael ei niweidio. Dylai Cwpan Rygbi'r Byd fod yn dangos y gymuned rygbi ehangach ar ei gorau, gan gynnwys dyfarnwyr; ei ddiben pennaf yw hyrwyddo rygbi i gynulleidfa ehangach yn gêm i bawb. Bydd yn drueni os cofir Cwpan y Byd eleni am fethu diogelu iechyd meddwl a lles y dyfarnwyr.  

Mae Dr Mikel Mellick yn Uwch-Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl Athletwyr ac mae'n ymchwilio ar hyn o bryd i brofiadau afiechyd meddwl dyfarnwyr elît.