Hafan>Newyddion>Gwasanaeth iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghaerdydd

Gwasanaeth iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghaerdydd

Newyddion | 22 Mehefin 2022​

Mae gwasanaeth iechyd meddwl newydd gan y GIG ar gyfer pob myfyriwr sy'n byw yng Nghaerdydd ac sy'n astudio yn un o brifysgolion y ddinas yn cael ei lansio’n swyddogol yn y Senedd heddiw.

Mae Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Prifysgolion (MHULS), sydd wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2022, yn ceisio rhoi atebion i'r galw a'r risg gynyddol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl myfyrwyr. Anelir y gwasanaeth at fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl cymedrol neu faterion iechyd meddwl mwy cymhleth a hirsefydlog.

Mae'r MHULS yn mynd i'r afael yn benodol â bwlch a nodwyd rhwng mandad y brifysgol i gefnogi myfyrwyr a'r trothwy i gyrchu gwasanaethau’r GIG pan fydd angen atgyfeiriad neu asesiad y GIG ar fyfyrwyr yn aml.
Mae clinigwyr y GIG yn rhan o dîm MHULS ac yn gweithio ar y cyd â’r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gampysau’r brifysgol i helpu i bontio'r bwlch hwn drwy sicrhau y gall myfyrwyr gael eu hasesu, eu hatgyfeirio a'u harwain drwy wasanaethau'r GIG, tra'n sicrhau bod y prifysgolion ynghlwm wrth y cynlluniau cymorth parhaus.

Mae'r cymorth yn cynnwys asesiadau iechyd meddwl manwl, cwblhau cynlluniau diogelwch ar gyfer myfyrwyr, atgyfeirio ymlaen a chyfeirio at wasanaethau eraill, yn ogystal â mynd i gyfarfodydd adolygu gyda’r rhanddeiliaid perthnasol.

Ar ôl defnyddio gwasanaeth y MUHLS, dyma a ddywedodd un myfyriwr: "Dwi wedi bod yn ôl ac ymlaen heb ddim byd yn digwydd tan nawr. Doedd neb erioed wedi deall y darlun cyfan yn y ffordd rydych chi [MHULS] yn ei ddeall."

Dywedodd myfyriwr arall ei fod yn helpu bod "pobl yno sy’n gwrando arnoch chi".

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn drwy gael eu hatgyfeirio ato gan adran Gwasanaethau Myfyrwyr eu Prifysgol, Seiciatreg Cyswllt Oedolion, neu eu meddyg teulu.

Datblygwyd y cynllun peilot gan Bartneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru, a’r aelodau yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae cam un y cynllun peilot ar gael i fyfyrwyr dros 18 oed sy'n astudio yn un o'r sefydliadau hyn ac sy'n byw yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n byw y tu allan i ardal Caerdydd mae'r prosiect yn gwella’i gysylltiadau â byrddau iechyd cyfagos gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a’r nod yw gwella’r gallu i atgyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau iechyd meddwl priodol yn ôl eu hanghenion.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n ariannu cam un y rhaglen beilot tan fis Rhagfyr 2022. Mae cynlluniau i barhau â'r gwaith yn cael eu datblygu gan y bartneriaeth.

Dyma a ddywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhan o brosiect mor bwysig sy'n gwella gallu ein myfyrwyr i gyrchu cymorth ar gyfer iechyd meddwl.

"Gan weithio gyda darparwyr iechyd a phrifysgolion eraill ledled rhanbarth Caerdydd, rydyn ni eisiau sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cymorth gorau bosibl ar gyfer pa anawsterau bynnag y maen nhw’n eu hwynebu, a bod y gwasanaeth yn un di-dor ac mor ddi-straen â phosibl.

"Braf iawn yw gweld bod ein myfyrwyr eisoes yn sôn yn gadarnhaol am eu defnydd o’r gwasanaeth hwn a'u bod yn teimlo eu bod yn cael eu deall a'u cefnogi."

Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “"Mae gan bawb yr hawl i brofiad addysg hapus. Rwyf yn falch o weld lansiad swyddogol Gwasanaeth Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae cefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael addysg dda, ac mae'n wych gweld partneriaid yn cydweithio i gyflawni hynny."

Cynhelir digwyddiad y Senedd ddydd Mawrth 21 Mehefin am 6:15pm a bydd yn cynnwys sgyrsiau gan: Carolyn Donoghue, Cadeirydd, Partneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru; Rob Humphreys, Cadeirydd Cyngor CCAUC; Becky Ricketts, Llywydd NUS Cymru; Yr Athro Ceri Phillips, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Katie Hill, Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Prifysgolion; Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.