Hafan>Newyddion>Prosiect ymchwil newydd Met Caerdydd yn gobeithio gwella triniaeth niwmonia

Prosiect ymchwil newydd Met Caerdydd yn gobeithio gwella triniaeth niwmonia

Newyddion | 23 Mawrth, 2021

Mae gwyddonwyr ym Met Caerdydd yn cychwyn ar brosiect ymchwil sy’n gobeithio dod â dealltwriaeth newydd o heintiau’r ysgyfaint a helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i ddarogan difrifoldeb achosion a theilwra’u triniaeth yn unol â hynny.

Gwobrwywyd yr ymchwilwyr yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd â grant o 30,000 Ewro i astudio ‘Mycoplasma pneumoniae’ mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bordeaux ac Ysbyty Athrofaol Antwerp.

Mae Mycoplasma pneumoniae yn facteriwm sy’n achosi heintiau yn y corff dynol, heintiau’r ysgyfaint yn enwedig, megis niwmonia a gafwyd yn y gymuned.

Yn achos niwmonia a gafwyd yn y gymuned, mae’r unigolyn yn cael ei heintio mewn lleoliad cymunedol yn hytrach nac ysbyty, cartref nyrsio, neu leoliad gofal iechyd arall.

Cydnabyddir fod Mycoplasma pneumoniae yn un o brif achosion niwmonia a gafwyd yn y gymuned sy’n rhoi cyfrif am rhwng 15 ac 20 y cant o achosion. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd y llynedd y’i harweiniwyd gan Met Caerdydd, daethpwyd o hyd i’r bacteriwm mewn 95,000 o samplau o bobl â heintiau tybiedig o 11 gwlad ledled Ewrop ac Israel rhwng 2011 a 2016.

Yn achos heintiau mwy difrifol, megis y rhai sy’n effeithio ar yr ymennydd, gellir darganfod Mycoplasma pneumoniae mewn 6 i 13 y cant o gleifion a anfonwyd i’r ysbyty. Mae heintiau y’u hachosir gan Mycoplasma pneumoniae yn effeithio ar bobl o bob oedran, ond fe’u gwelir yn bennaf mewn plant oedran ysgol.

Fel rhan o’r astudiaeth ar y cyd, a fydd yn para tua blwyddyn, bydd academyddion o Met Caerdydd yn archwilio 200 sampl o’r bacteriwm – yr oll wedi’u cymryd o gleifion yn Lloegr, Ffrainc a Gwlad Belg.
Wrth archwilio’r bacteriwm hwn, bydd yr academyddion yn edrych ar y cod genetig i ddarganfod sut mae’r cod genetig yn effeithio ar ddifrifoldeb yr haint.

Bydd y tîm bychan o wyddonwyr biofeddygol hefyd yn ail-greu haint yn y labordy er mwyn gweld sut mae celloedd ag imiwnedd yn ymateb i’r 200 sampl o Mycoplasma pneumoniae.

Bydd y prosiect ymchwil hefyd yn archwilio ymwrthedd gwrthfiotig y bacteriwm, a allai helpu meddygon i deilwra triniaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n dioddef o niwmonia a heintiau cysylltiedig eraill.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y Prif Ymchwilydd, Dr Mike Beeton, o Grŵp Ymchwil Microbioleg a Heintiau Met Caerdydd:

"Mae hwn yn brosiect cyffrous, â chydweithredwyr ledled y DU ac Ewrop, y gobeithiwn a fydd yn troi’n ddealltwriaeth well o’r rhesymau pam fod rhai heintiau â Mycoplasma pneumoniae yn fwy difrifol nac eraill.
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Gymdeithas Ewropeaidd Microbioleg Glinigol ac Afiechydon Heintus am eu cefnogaeth ariannol amhrisiadwy – mae’n hollol hanfodol i’r prosiect hwn."
Ychwanegodd Yr Athro Philip James, Deon Cyswllt (Ymchwil) yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd:

"Rydw i wrth fy modd i weld Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn cydweithredu â sefydliadau mawreddog yn y DU ac Ewrop ar fater mor bwysig.

"Mae hwn yn enghraifft arall eto o'r gwaith o ansawdd uchel ac sy’n gwella bywyd a gychwynnwyd gan yr Ysgol sy’n targedu cyflyrau iechyd cyffredin."

Gwobrwywyd y grant ymchwil gan Gymdeithas Ewropeaidd Microbioleg Glinigol ac Afiechydon Heintus (ESCMID), cymdeithas arweiniol Ewrop mewn microbioleg glinigol ac afiechydon heintus.