Hafan>Newyddion>Bydd ymchwil newydd yn ceisio canfod firws cwsg mewn cleifion trawsblaniad aren

Bydd ymchwil meddygol newydd yn ceisio canfod firws cwsg mewn cleifion trawsblaniad aren a thorri i lawr ar arhosiad cleifion yn yr ysbyty

Mawrth 12, 2020

Cardiff Metropolitan University
Lauren Jones a Nic Clarke

 

Mae Aren Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i fynd i’r afael â firws sy’n fygythiad sylweddol i iechyd cleifion trawsblaniad aren.
 
Bydd Lauren Jones, myfyriwr PhD ym Met Caerdydd, yn gweithio ar brosiect â chefnogaeth Aren Cymru i ymchwilio i’r HCMV (Cytomegalofirws Dynol), firws sydd ar gael yn eang a fydd yn effeithio ar tua 60-70% o bobl yn y byd datblygedig. Wedi heintio person â HCMV, bydd y firws yn aros yn gwsg yn y corff ond gallai gael ei ailfywiogi mewn unigolion rywbryd yn ystod eu hoes; bydd hyn yn arbennig o beryglus i gleifion trawsblaniad aren.
 
Bydd tua 50% o’r bobl a fydd yn cael trawsblaniad aren yng Nghymru yn cael aren oddi wrth roddwr a fydd yn HCMV positif, a gall yr haint dilynol arwain at fod yn gorfod aros am fwy o amser yn yr ysbyty a chostau uchel i’r GIG, a amcangyfrifir yn £1.1 miliwn yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf (yn seiliedig ar yr £8,400 a amcangyfrifir am gyfnod o dair wythnos yn aros yn yr ysbyty). Bydd yr ymchwil hwn yn archwilio sut y gellir canfod yn gynt bod y firws wedi ailfywiogi, ac yn gobeithio gwella canlyniadau clinigol ac ansawdd bywyd cleifion trawsblaniad aren.
 
Aren Cymru a KESS2 (Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth) sy’n ariannu Lauren Jones a fydd yn adeiladu ar gydweithrediad parhaus rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, GIG Cymru ac Aren Cymru.
 
Meddai hi am y prosiect: “Gobeithio y bydd fy ymchwil yn rhoi mwy o fewnwelediad i HCMV a’i effaith ar gleifion trawsblaniad. Dros y tair blynedd nesaf, rwy’n gobeithio y gallwn ddatblygu offer diagnostig newydd a gwell. Drwy ddefnyddio protein IL-10 y bydd y firws yn ei secretu, mae’n bosib y gallwn ganfod bod y firws wedi ailfywiogi yn gynt na’r dulliau cyfredol, gan arwain at driniaeth gynnar ac atal arosiadau hir yn yr ysbyty, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU.
 
“Rwyf mor ddiolchgar am yr arian rwyf wedi’i dderbyn, ac rwyf wedi dechrau gweithio eisoes ar ran gyntaf yr ymchwil.”
 
Mae HCMV yn firws herpes cyffredin, ond fydd llawer o bobl ddim yn ymwybodol eu bod â fe, gan na fydd dim symptomau ganddyn nhw. Bydd yr ataliad imiwnedd y bydd cleifion trawsblaniadau yn ei dderbyn yn golygu bod mwy o risg iddyn nhw y gallai’r firws ailfywiogi ac achosi haint difrifol.
 
Caiff Lauren ei chefnogi yn yr ymchwil gan Dr. Rebecca Aicheler, uwch-ddarlithydd imiwnoleg ym Met Caerdydd, sydd ers sawl blwyddyn yn ymgymryd â’i hymchwil ei hunan i gelloedd NK (celloedd sy’n lladd yn naturiol) a HCMV. Ychwanegodd: “Cyllid KESS2 oedd y cylch olaf a oedd ar gael, felly rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu gweithio gyda Chronfa Gymdeithasol Ewrop ac Aren Cymru i gael datblygu’r ymchwil hwn.
 
“Roedd Lauren yn ymgeisydd gwych, gan ei bod yn llysgennad gwych ar ran menywod mewn gwyddoniaeth – sy’n amgylchedd cystadleuol – a hefyd mae’r sgiliau ganddi i fod yn gallu rhannu ei hymchwil gydag eraill.”
 
Meddai Nic Clarke, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chodi Arian ar gyfer Aren Cymru: “Gydag 1 o bob 2 o gleifion trawsblaniadau arennau yng Nghymru yn dal HCMV a fydd yn peryglu eu hiechyd hyd yn oed mwy, mae’r ymchwil hwn yn hollbwysig er mwyn effeithio’n bositif ar dderbynwyr trawsblaniadau yn y dyfodol. Mae’n dda gennym gael cefnogi Lauren yn ei hymchwil, sy’n parhau ein perthynas sydd eisoes wedi’i sefydlu â Met Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at gael gweld beth ddaw o’r ymchwil dros y tair blynedd nesaf”.
 
Bydd tair rhan i’r prosiect:

  • Sefydlu dull i ganfod y protein IL-10 y bydd y firws yn ei secretu yng ngwaed cleifion trawsblaniad aren

  • Deall sut bydd amrywiad yr IL-10 firol o glaf i glaf yn effeithio ar eu canlyniadau clinigol

  • Deall sut bydd IL-10 firol yn dylanwadu ar gelloedd y system imiwnedd (celloedd NK yn enwedig) pan fyddan nhw’n wynebu heintiad HCMV

Meddai’r Athro Philip E. James, Deon Cysylltiol Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd: “Mae’n gyffrous i ni gael dod yn bartneriaid gydag Aren Cymru ar y prosiect KESS2 yma sy’n ymchwilio i faes sydd mor bwysig i gleifion trawsblaniad aren a’r GIG. Mae hanes cryf gennym mewn ymchwil biofeddygol a fydd yn effeithiol iawn ym Met Caerdydd a byddwn yn cefnogi Lauren dros y tair blynedd nesaf yn natblygiad offer diagnostig newydd a gwell.”
 
Bydd yr ymchwil yn cynnwys samplau clinigol oddi wrth gleifion trawsblaniad aren o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a bydd Lauren yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil cyflawn yn 2022.
 
Mae perthynas gryf gan Aren Cymru a Met Caerdydd eisoes, â phartneriaeth Met Caerdydd / ras 10K Caerdydd yn mynd i mewn i’r drydedd flwyddyn. Mae’r ras yn un o’r deg prif ras ar yr heolydd yn y DU ac, yn 2019, cymerodd mwy na 9,500 o redwyr ran ar strydoedd y brifddinas.