Hafan>Newyddion>Cydnabyddiaeth Genedlaethol i Addysgu Rhagorol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Cydnabyddiaeth Genedlaethol i Addysgu Rhagorol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Newyddion | 8 Awst 2024

Mae dau aelod o staff academaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael eu cydnabod am ddangos rhagoriaeth ym maes dysgu ac addysgu.

Dr Fiona Carroll and Dr Esyin Chew
Dr Fiona Carroll a Dr Esyin Chew


Cafodd Dr Fiona Carroll, Darllenydd mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, Dr Esyin Chew, Darllenydd mewn Roboteg a Thechnolegau Addysgol, eu cydnabod fel Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol gan Advance HE.

Mae Advance HE yn elusen a arweinir gan ei haelodau o’r sector Addysg Uwch (AU) ac mae’n derbyn enwebiadau ar gyfer dyfarnu Cymrawd Addysgu Cenedlaethol gan brifysgolion ledled y DU bob blwyddyn. Fe wnaeth Fiona ac Esyin, aelodau o staff addysgu o Ysgol Dechnolegau Caerdydd (YDC), un o bum ysgol academaidd y Brifysgol, gyflwyno eu cais am Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ym mis Mawrth.

Gyda chefnogaeth cydweithwyr o’r Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd (CGA) a thimau gweinyddu’r Ysgol, llwyddodd Dr Carroll a Dr Chew i ddarparu tystiolaeth amlwg o’u rhagoriaeth ym maes dysgu ac addysgu. Wedi’u mesur yn erbyn meini prawf effaith, gwerth a chyrhaeddiad, cydnabyddir Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol llwyddiannus am eu gwaith yn gwella profiad y myfyrwyr o ddysgu ac addysgu, datblygu rhagoriaeth mewn eraill, ac am ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus eu hunain.

Mae gan Dr Carroll, arbenigwr mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, lwyddiant blaenorol o ragoriaeth addysgu ac ymchwil sy’n rhychwantu dros ugain mlynedd yn y sector. Cafodd Dr Carroll ganmoliaeth gan Advance HE am ei hymrwymiad i ddatblygu ymdeimlad myfyrwyr o berthyn trwy ei dulliau addysgeg sy’n canolbwyntio ar feddylfryd dylunio, ond fe’i dathlwyd hefyd am ei chefnogaeth barhaus i fenywod ym maes STEM. Wrth siarad am wobr CAG, dywedodd Fiona, “Mae derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol 2024 yn anrhydedd anhygoel sy’n tynnu sylw at fy ymroddiad i feithrin creadigrwydd, cynwysoldeb ac addysgu ar sail ymchwil mewn addysg uwch. Rwy’n hynod ddiolchgar i Mike Castle a Laura West-Burnham (CGA), yr Athro Jon Platts, Deon YDC, a’r tîm YDC cyfan am eu cefnogaeth ddi-baid, sydd wedi bod yn allweddol i’r cyflawniad hwn.

“Diolch i Met Caerdydd am alluogi fy ngweledigaeth ac am gyfrannu at ein llwyddiant wrth wella’r profiad addysgol i’n myfyrwyr yn barhaus.”

Cafodd Dr Esyin Chew, arbenigwr mewn roboteg a thechnolegau addysgol, ei chydnabod hefyd am ei gwaith mentora myfyrwyr ac aelodau eraill o staff, yn enwedig menywod ym maes STEM. Mae Gwobr CAG yn dilyn llwyddiant diweddar arall i Dr Chew, a enillodd wobr ‘Goruchwyliwr Rhagorol y Flwyddyn’ am ei rhagoriaeth mewn goruchwyliaeth ddoethurol. Cafodd Dr Chew hefyd ei enwebu’n ddiweddar am y Gwobrau Times Higher Education yng nghategori Athro Mwyaf Arloesol y Flwyddyn.

Wrth siarad am ei chydnabyddiaeth fel CAG, dywedodd Dr Chew: “Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i dderbyn y wobr hon. Hoffwn ddiolch o waelod calon i fy nwy ferch, sydd wedi fy nysgu am hanfod bywyd. Diolch i fy nghydweithwyr, hyfforddwyr a myfyrwyr sydd wedi cefnogi fy ngwaith. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i uwch arweinwyr Met Caerdydd sy’n fenywod a’r Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd a welod gwerth fy ngwaith caled ac a gefnogodd y cais ar gyfer CAG.”

Mae llwyddiant y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol eleni yn cyrraedd yn fuan wedi i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gael ei henwi ymysg y 4 Prifysgol gorau yng Nghymru am Foddhad Myfyrwyr Cenedlaethol, ac wedi cyrraedd cyfradd boddhad cyffredinol o 81 y cant, cynnydd o 8 y cant ar ganlyniad blaenorol yr arolwg.

Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Met Caerdydd, yr Athro Rachael Langford: “Rwy’n hynod falch o’n cydweithwyr yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, Fiona ac Esyin, sy’n derbyn y gwobrau CAG mawreddog hyn am eu hymrwymiad diffuant i lwyddiant myfyrwyr ac arloesedd addysgeg.

“Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn ceisio rhoi llwyddiant myfyrwyr wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, ac mae gwobrau’r Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol i Fiona ac Esyin yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith i ddod â’r dyhead hwn yn fyw trwy ymarfer addysgu a dysgu.”