Hafan>Newyddion>Rhagor o lwyddiant i Met Caerdydd â rhagolygon swyddi graddedigion

Rhagor o lwyddiant i Met Caerdydd â rhagolygon swyddi graddedigion

Newyddion | 18 Hydref 2022

Ar ôl cael ein rhestru fel y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion yn gynharach eleni, mae Met Caerdydd nawr wedi’i rhestru fel yr 16eg brifysgol orau yn y DU o gyfanswm o 143 o brifysgolion, ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion.

Mae’r Brifysgol ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU ar gyfer rhagolygon swyddi – 2il yng Nghymru ar ôl Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn ôl StudentCrowd, sy’n creu tablau cynghrair y DU yn seiliedig ar adolygiadau myfyrwyr wedi’u dilysu. Mae tabl cynghrair cyflogadwyedd diweddaraf StudentCrowd yn seiliedig ar 15,871 o adolygiadau myfyrwyr a gyflwynwyd rhwng mis Mehefin a Mai 2022 ar draws 10 maes gwahanol o fywyd myfyriwr.

Disgrifia StudentCrowd Met Caerdydd fel a ganlyn: “Gyda chysylltiadau gwych â chwmnïau uchel eu parch a gwasanaeth gyrfaoedd penodedig, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi llwyddo i gyrraedd statws cyflogaeth neu addysg bellach o bron i 95% i’w graddedigion. Priodolir canmoliaeth fawr gan y myfyrwyr i’r rhwydwaith gyrfaoedd, sydd â staff sydd am weld y myfyrwyr yn llwyddo a chael eu rhyddhau i fannau lle maen nhw’n gwireddu eu potensial.”

Yn gynharach eleni, cafodd Met Caerdydd ei rhestru fel y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer cyflogadwyedd gan Hynt Graddedigion 19/20, gyda 95.6% o’i graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl gadael y brifysgol. Mae’r ffigwr hwn i fyny o 2.3% o’r llynedd, er gwaethaf blwyddyn heriol i’r economi.

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd: “Mae Met Caerdydd yn brifysgol sy’n canolbwyntio’n fawr ar yrfaoedd ac mae’n cynnig casgliad enfawr o gymorth o adeg cofrestru i raddio a thu hwnt.

"Mae ein myfyrwyr yn elwa o gyrsiau o ansawdd uchel sydd â phartneriaethau cryf â phroffesiynau a diwydiannau a gwasanaeth gyrfaoedd o’r radd flaenaf – y mae hyn oll yn creu’r casgliad perffaith ar gyfer datblygiad personol a gyrfa.

“Hoffwn gydnabod a llongyfarch y staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i greu stori lwyddiant gref iawn yn y maes hanfodol hwn.”