Hafan>Newyddion>Myfyriwr aeddfed yn cael ei swydd delfrydol ar ôl sicrhau lle prifysgol drwy Glirio

Myfyriwr aeddfed yn cael ei swydd delfrydol ar ôl sicrhau lle prifysgol drwy Glirio

Newyddion | 16 Awst ​2023

Mae myfyriwr aeddfed a sicrhaodd ei lle yn y brifysgol drwy Glirio wedi graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg ochr yn ochr â bod yn fam i ddau fab ifanc.

Lauren Reilly
Lauren Reilly


Dywedodd Lauren Reilly, ​34 o Drelái yng Nghaerdydd, myfyriwr gradd BA Cyfrifeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, fod mynd trwy Glirio yn foment ‘lle iawn, amser iawn’ ar ôl gwneud cais yn ystod dyddiau olaf y ffenestr Clirio.

Rhwng ffenestr benodol bob blwyddyn (5 Gorffennaf – 17 Hydref 2023), gall myfyrwyr ddefnyddio Clirio i wneud cais am gyrsiau os ydynt yn derbyn graddau uwch neu is na’r disgwyl neu os gwnaethant fethu dyddiad gwneud cais UCAS cyn hyn. Cyflwynodd Lauren ei chais i Met Caerdydd ddyddiau’n unig cyn i’r ffenestr gau a llwyddodd tîm derbyn y Brifysgol i brosesu ei chais yn gyflym felly doedd dim rhaid iddi aros blwyddyn arall i ddechrau ei hastudiaethau.

Dywedodd Lauren: “Mae clirio yn opsiwn gwych os ydych yn colli’r ffenestr ymgeisio arferol fel y gwnes i. Ni allai tîm derbyn Met Caerdydd fod wedi bod yn fwy deallgar a chymwynasgar. Aeth fy nghais i mewn ar y dydd Iau a mynychais fy narlith gyntaf y dydd Llun canlynol. Roedd mor gyflym, ac er fy mod i’n gwybod ei bod hi’n well peidio â gadael eich cais tan yn hwyr yn y dydd, roeddwn yn ddiolchgar iawn o allu cychwyn yn syth tra roedd gen i gymhelliant i fynd i’r brifysgol.”

Denwyd Lauren i Met Caerdydd gan fod ei chwrs Cyfrifeg yn ACCA (Cymdeithas Cyfrifon Siartredig Ardystiedig), ac ar adeg gwneud cais, roedd yn cael ei dysgu’n rhithiol oherwydd pandemig Covid-19 a oedd yn addas i’w ffordd o fyw fel rhiant. Ond pan ddaeth yr addysgu yn ôl yn bersonol unwaith eto, sylweddolodd Lauren gymaint yr oedd hi’n caru bod ar y campws ac ni fethodd un ddarlith na seminar yn ei thair blynedd o astudio.

Wrth gydbwyso bywyd fel myfyriwr llawn amser a mam i ddau, dywedodd Lauren: “Roedd yn heriol ar adegau ond roeddwn i bob amser yn rhoi’r plant yn gyntaf ac yn ffitio fy astudiaethau o’u cwmpas. Oherwydd hynny, a chan fy mod yn fyfyriwr aeddfed, fe wnes i’r gorau o fy amser yn y brifysgol gan fy mod i’n gwybod mai hwn oedd fy un cyfle i gael fy ngradd a mynd ymlaen i yrfa rydw i wedi bod eisiau gweithio ynddi ers amser maith.”

Nawr mae Lauren wedi sicrhau ei swydd ddelfrydol yn y GIG fel Cyfrifydd Rheoli Ariannol lle bydd yn cael ei noddi drwy gam nesaf ei hachrediad ACCA fel gweithiwr cyfrifeg.

Dywedodd Lauren: “Efallai na fyddwn i wedi mynd i’r brifysgol oni bai am Glirio. Byddwn i wir yn annog pobl i edrych ar eu hopsiynau drwy Glirio os ydyn nhw am astudio. Nid dim ond i bobl na chawsant y graddau yr oeddent yn eu disgwyl, mae yna ystod eang o amgylchiadau sy’n golygu y gallai Clirio weithio i chi. Gyda’r gefnogaeth a’r penderfyniad cywir, ni waeth pa gyfnod o fywyd rydych ynddo, mae unrhyw beth yn bosibl.”​