Hafan>Newyddion>Y mwyafrif o gwmnïau Cymru heb gynllun strategol ar gyfer eu busnesau

Y mwyafrif o gwmnïau Cymru heb gynllun strategol ar gyfer eu busnesau

​Mawrth 09, 2020

 
Selyf Morgan


Canfu astudiaeth gan academyddion blaenllaw Prifysgol Metropolitan Caerdydd bod llawer o fusnesau Cymru yn tangyflawni oherwydd eu methiant i fabwysiadu mesurau i wella perfformiad eu sefydliadau.

O'r rhai a arolygwyd ar gyfer yr Adroddiad ar Gynhyrchiant, sydd wedi ei ariannu gan Sefydliad Hodge, cafwyd y canlynol:

  • bod elw 60 y cant ohonyn nhw yn is na'r gymhareb gyfartalog gyfer eu sector

  • dim ond 37 y cant ohonyn nhw  sydd a chynllun strategol

  • nad oes gan 75 y cant ohonyn nhw gynllun ffurfiol i wobrwyo staff ac annog blaengaredd.

Cyhoeddir yr adroddiad wrth i ffigurau newydd ONS (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol) ddangos bod Cymru unwaith eto ar waelod y tabl cynghrair cynhyrchiant a'r rhanbarth lleiaf cynhyrchiol yn y DU.

Datblygwyd yr Adroddiad ar Gynhyrchiant gan academyddion Met Caerdydd – Yr Athro Brian Morgan a'r Athro Gerry Holtham, ac aelodau eraill o Brosiect Ymchwil Hodge.

Ceisiodd yr astudiaeth gynnig gwell dealltwriaeth o'r modd y mae arferion rheoli cwmnïau yn effeithio ar gynhyrchiant. Casglwyd tystiolaeth gyfer yr adroddiad ar ôl cynnal cyfweliadau gyda 74 o gwmnïau ar draws Cymru.

Un o'r canfyddiadau allweddol oedd mai dull ad-hoc oedd gan lawer o gwmnïau o fynd ati i gynllunio'n strategol a dim ond ychydig ohonyn nhw oedd â chynllun strategol. Roedd tuedd hefyd mai systemau gwybodaeth reoli cyfyngedig oedd ar gael i'r cwmnïau hyn ar gyfer mesur perfformiad. Gyda'i gilydd, mae'r diffygion hyn yn help i egluro dosbarthiad cynhyrchiant yng Nghymru sy'n amlygu mynychder y cwmnïau sy'n tangyflawni.

O ganlyniad i'r canfyddiadau, mae'r academyddion wedi llunio cyfres o argymhellion y maen nhw'n awgrymu allai ddod yn rhan o gynllun gweithredu ar gyfer gwella cynhyrchiant ymhlith busnesau Cymru:

1.     Galluedd Rheolwyr: Sut gellir gwella safonau rheolwyr mewn cwmnïau?
Dangosodd yr ymchwil fod cysylltiad agos rhwng arferion rheoli mwy strwythuredig a gwell cynhyrchiant. Er enghraifft, byddai dull 'Cerdyn Sgorio Cytbwys' eang o fynd ati i fesur perfformiad yn help i sefydlu set gynhwysfawr o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a fyddai'n cynorthwyo i godi cynhyrchiant. Hefyd, mae diffyg cyfeiriad strategol cadarn busnesau Cymru yn amlygu'r angen am arweinyddiaeth fwy effeithiol yn y busnesau.  

2.     Hyfforddiant Sgiliau   
Pan ofynnwyd: beth oedd y prif beth oedd yn llyffetheirio twf, yr ateb mwyaf cyffredin oedd dod o hyd i'r bobl sy'n meddu ar y sgiliau priodol. Cwynai cwmnïau bach, oedd yn hyfforddi eu gweithwyr drwy brentisiaethau, yn aml, y byddai'r gweithwyr hynny, ar ôl cael eu hyfforddi, yn cael eu dwyn gan gwmnïau eraill. I oresgyn y broblem hon, cyflwynwyd yr ardoll hyfforddiant yn y DU i gymell cwmnïau i gynnig eu hyfforddiant eu hunain. Fodd bynnag, o ran uwch brentisiaethau, mae system Cymru yn diystyru cymwysterau galwedigaethol lefel 7. Mae hyn yn wrth-gynhyrchiol o gofio pwysigrwydd gwella rheolaeth broffesiynol cwmnïau Cymru.

3.     Hybu Atebion Diwydiannol ar gyfer Rhwydweithio Effeithiol
Mae nifer o gymdeithasau masnach a chlybiau busnes yn cynnig gwahanol wasanaethau i'w haelodau megis cyfarwyddyd busnes a help arbenigol.  Fodd bynnag, dydy cwmnïau Cymru ddim yn gwneud digon o ddefnydd o'r cymdeithasau hyn a cheir diffyg gwerthfawrogiad o fanteision sylweddol rhwydweithio effeithiol – megis gweithio ar y cyd a rhannu gwybodaeth. Dylai gwasanaethau cymorth i fusnesau hwyluso rhwydweithio effeithiol a gweithgareddau cydweithrediadol er mwyn delio â phroblemau cynhyrchiant a pherfformiad.

4.     Cysondeb Polisi'r Llywodraeth  
Mae angen mwy o gysondeb yn null y Llywodraeth o fynd ati i gynorthwyo diwydiant. Daw gormod o raglenni i ben yn ddisymwth heb ddim byd yn cael ei drefnu yn eu lle. Yn aml gwelir diffyg gwerthuso a chysondeb. Mae anghysondeb fel hyn mewn polisi yn cynyddu'r ansicrwydd y mae busnesau yn ei wynebu. Mae'n lleihau buddsoddiad ac yn cyfyngu ar welliannau mewn darpar gynhyrchiant.

5.     Strwythurau Cyflenwi Rhanbarthol
Mae angen i'r Llywodraeth greu strwythur rhanbarthol hyd-braich a'i integreiddio gyda'r Bargeinion Dinesig gyda'r bwriad o godi Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) a chynyddu cynhyrchiant cwmnïau Cymru. Dylid datblygu bas data ymhob rhanbarth o bob cwmni sydd yn uwch na throthwy penodol o ran perfformiad er mwyn nodi cwmnïau twf posibl â'r galluedd i godi eu cynhyrchiant. Gallai'r asiantaethau hyn hefyd annog cydweithredu rhwng cwmnïau a hefyd y cydweithredu rhwng busnesau a phrifysgol

6.     Y Diffyg Digidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae'n ymddangos bod diffyg adnabyddiaeth ymhlith nifer o gwmnïau bod buddsoddi mewn TGCh, yn enwedig gwasanaethau bandiau eang cyflym iawn, yn debygol o wella'u cynhyrchiant. Dylai'r sector cyhoeddus barhau i flaenoriaethu buddsoddi mewn band eang er mwyn lleihau'r Diffyg Digidol ac i annog cwmnïau i fuddsoddi rhagor mewn technoleg ddigidol a ffurfiau eraill o gyfalaf anniriaethol. Darpar her i gwmnïau fydd integreiddio AI mewn prosesau cynhyrchu mewn modd a all wella effeithlonrwydd.

Dywedodd yr Athro Brian Morgan: "Er bod llawer o gwmnïau yng Nghymru yn ystyried bod cynhyrchiant yn ffactor pwysig wrth lunio eu perfformiad yn gyffredinol, yn aml maen nhw'n methu â nodi a mesur ei wahanol agweddau, ac felly heb fod mewn sefyllfa i roi gwelliannau ar waith.

"Mae ein hadroddiad newydd ar gynhyrchiant yn cynnig argymhellion allweddol i ddatrys y problemau y mae busnesau yn eu hwynebu a helpu i hybu cynhyrchiant yng Nghymru. Dydy hyn ddim yn ymwneud â'r problemau macro na all busnesau mo'i reoli, megis ffordd liniaru'r M4. Ond mae a wnelo â phroblemau megis datblygiadau technolegol a chynllunio strategol y gallan nhw eu rheoli.  

"Mae'n glir mai un o achosion sylfaenol y bwlch cynhyrchiant yng Nghymru ydy sgiliau rheoli. Mae manteision posibl codi cynhyrchiant yn sylweddol ynghyd â'r effaith ddilynol enfawr y gallai hyn ei olygu i safonau byw yng Nghymru. Felly, dylai gwella perfformiad rheolwyr fod yn elfen bwysig ar gyfer ymyrraeth polisi economaidd yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf."

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru: "Mae'r Adroddiad ar Gynhyrchiant yn ddarn o waith hanfodol bwysig a all helpu i yrru cynhyrchiant yma yng Nghymru. Fodd bynnag, er bod yr argymhellion yn dda, mae'n hollbwysig ein bod yn gweithio'n agos gydag arweinwyr busnes i gynorthwyo i yrru hyn yn ei flaen.

"Er bod rhai sefydliadau da yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith gwych ac yn cyfrannu at gynhyrchiant cyffredinol, boed hynny o fewn GIG Cymru, yn ein systemau addysgu neu mewn busnes, mae galw taer am arweinyddiaeth nodedig i yrru'r newid sydd ei angen ac mae'r ymchwil hwn yn cadarnhau'r angen am ragor o hyfforddi arweinyddiaeth."

Aeth yr Athro Morgan yn ei flaen i ddweud "Mae'r prosiect ymchwil hwn a ariannwyd gan Hodge yn dangos cydberthynas rhwng ymglymiad cyflogai a chynhyrchiant (ac felly proffidioldeb). Mae cynyddu ymglymiad y cyflogai yn un o'r dulliau gorau i wella cynhyrchiant. Er mwyn helpu i weithredu argymhellion yr adroddiad, dylai Busnesau a Llywodraeth Cymru greu oes newydd o bartneriaeth i gynorthwyo'r economi a chreu cyfleoedd i fusnesau dyfu."

Dadlennir Managing Productivity in Welsh Firms yn ffurfiol yn yr Uwchgynhadledd Cynhyrchiant ar 12 Mawrth 2020 yng Ngwesty Radisson Blu Caerdydd. Bydd y digwyddiad yn hwyluso trafodaeth ar broblemau cynhyrchiant a bydd yn cynnwys nifer o siaradwyr gwadd megis Stephen Phipson CBE, Prif Weithredwr Make UK; Caroline Thompson, Pennaeth Partneriaethau Sefydliad Alacrity; Mike Moran, Prif Weithredwr Proton PLC; a Maireadh Pedersen, Prif Weithredwr Quay Pharma.