Hafan>Newyddion>Prifysgol yn penodi John Taylor CBE yn Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn penodi John Taylor CBE yn Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr

​Newyddion | 12 Gorffennaf 2021

Mae John Taylor CBE wedi ei benodi'n Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau llywodraethiant effeithiol y Brifysgol ac am gynnal cenhadaeth a gwerthoedd y Brifysgol.

Penodwyd Mr Taylor yn llywodraethwr annibynnol a Chadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr yn unfrydol gan y Bwrdd ar 8fed Gorffennaf, yn dilyn proses recriwtio a dethol helaeth.

Gan ddechrau ei yrfa ym maes Adnoddau Dynol, aeth Mr Taylor ymlaen i arwain cwmnïau yn y sectorau cyflogaeth, hyfforddiant a datblygu economaidd, gan gynnwys y Cyngor Hyfforddiant a Menter (De-ddwyrain Cymru), Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ac yn fwyaf diweddar, Acas, lle cafodd ei benodi'n Brif Weithredwr cyntaf y sefydliad a chael y dasg o ymestyn ei gylch gwaith i gynnwys gwella'r gweithle.

Mae Mr Taylor hefyd yn Gyfarwyddwr anweithredol hynod brofiadol ar ystod o sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac nid-er-elw, ac mewn addysg bellach ac addysg uwch. Mae ganddo angerdd dros gyflogaeth, addysg a datblygu sefydliadol a bu'n aelod o Fwrdd Prifysgol Gorllewin Llundain am chwe blynedd cyn gwasanaethu am dair arall fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr. Mae Mr Taylor hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o fwrdd Prifysgol Reading a Choleg Caerdydd a'r Fro.

Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2013 am ei wasanaethau i gysylltiadau cyflogaeth, mae Mr Taylor hefyd wedi derbyn Doethur mewn Llenyddiaeth (Prifysgol Gorllewin Llundain) ac mae'n Gymrawd yr Institute of Association Management.

Yn dilyn cadarnhad o'i benodiad, dywedodd John Taylor: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr ar gyfer prifysgol mor aruthrol a blaengar â hon - un a enwyd yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan y Times a'r Sunday Times.

"Nid yw'r gwytnwch a'r arloesedd a ddangoswyd gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ystod yr amseroedd digynsail hyn yn ddim llai na rhyfeddol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Is-Ganghellor a'i Thîm Gweithredol wrth inni ddechrau dod allan o'r pandemig a mynd i mewn i fyd ôl-Covid."

Dywedodd y Llywydd a'r Is-Ganghellor, yr Athro Cara Aitchison: "Rwy'n falch iawn o groesawu John Taylor i'r Brifysgol ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag ef yn ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol.

"Rwy'n hyderus y bydd y Cadeirydd newydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau presennol ac, wrth inni ddod allan o'r pandemig, bydd hefyd yn darparu arolygiaeth a chefnogaeth strategol amhrisiadwy wrth inni barhau â'n datblygiad fel prifysgol perfformiad uchel, effeithiol, cydweithredol a thosturiol."