Hafan>Newyddion>Rhaglen ‘Cymorth i Dyfu’ rheolaeth

Rhaglen ‘Cymorth i Dyfu’ rheolaeth newydd a gefnogir gan y llywodraeth â chymhorthdal o 90%

​Mae’r Ganolfan Menter ac Arweinyddiaeth Greadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi defnyddio’u harbenigedd a’u profiad o’r Rhaglen 20Twenty enwog i ddatblygu cynllun newydd a gefnogir gan y llywodraeth sy'n agored i fusnesau ledled y DU.

Rhaglen 12 wythnos o hyd yw’r Cwrs Cymorth i Dyfu: Rheolaeth sydd â chymhorthdal o 90% gan y llywodraeth ac sydd wedi’i anelu at uwch arweinwyr busnesau bach a chanolig. Gellir ei ddefnyddio fel llwybr at ein cwrs Twf ac Arweinyddiaeth Busnes 20Twenty enwog sydd ag achrediad CMI.

Beth yw’r Rhaglen Cymorth i Dyfu: Rheolaeth?

Mae’r rhaglen yn darparu mentora 1-1 a hyfforddiant o safon fyd-eang i arweinwyr busnesau bach a chanolig ledled y DU a bydd yn agor y drws i dwf ar gyfer miloedd o arweinwyr busnes.

Mae Cymorth i Dyfu: Rheolaeth, a gyflwynir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac sydd ag achrediad y Siarter Busnesau Bach, yn cynnwys 50 awr o hyfforddiant manwl, mentora busnes 1:1, a’r cyfle i dyfu eich busnes yn gyflym.

Dim ond £750 yw cost y rhaglen 12 wythnos o hyd ac mae’r llywodraeth yn rhoi cymhorthdal o 90% ar ei chyfer.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn hawdd ei gwblhau ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a gallwch gymryd rhan o gwmpas eich ymrwymiadau gwaith presennol a chael mynediad at ddysgu trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb byr.

Mae’r Cwrs yn Cynnwys:

  • Mabwysiadu ac arferion digidol
  • Mentora Busnes 1:1
  • Rheolaeth ariannol
  • Arweinwyr busnes ysbrydoledig
  • Rhwydwaith genedlaethol o gyd-gyfranogwyr

Camwch drwy’r drws at dwf heddiw a chofrestrwch ar gyfer cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
I ymuno â’r Cwrs Cymorth i Dyfu: Rheolaeth, rhaid i’ch busnes:

  • Fod yn Fusnes Bach neu Ganolig (BBaCh) sydd wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig
  • Fod o unrhyw sector busnes, yn cyflogi rhwng 5 a 249 o bobl
  • Fod yn weithredol ers blwyddyn o leiaf
  • Beidio â bod yn elusen

Mae’r garfan nesaf yn Dechrau ym mis Chwefror 2022 – ac mae nifer gyfyngedig o leoedd wedi’u hariannu ar gael.

Rydyn ni’n derbyn ceisiadau ar gyfer ein carfan newydd sy’n dechrau ym mis Chwefror 2022 ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mynegwch ddiddordeb neu dysgwch ragor yma.