Newyddion | 17 Mai 2021
Mae'n bleser gan Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru gyhoeddi lansiad eu prosiect newydd ar y cyd, ‘Camu i Chwaraeon’.
Elusen yw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, sy'n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy'n cynnig llwybr amgen i bobl ifanc yn lle cael eu denu i droseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau. Ei nod yw rhoi cyfle i'r bobl ifanc hynny sydd wedi cael rhywfaint o brofiad o'r system cyfiawnder troseddol adeiladu'r sylfeini i wneud penderfyniadau bywyd mwy cadarnhaol, meithrin cydberthnasau gwell, a gwella eu lles meddyliol a chorfforol.
Mae ‘Camu i Chwaraeon’ yn brosiect gyda'r nod o ddefnyddio gwerth chwaraeon ar gyfer newid cymdeithasol a gweithgarwch ymgysylltu â chymunedau cryf i sicrhau dulliau ymyrryd yn gynnar ar gyfer troseddau a gyflawnir gan bobl ifanc. Drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, y gobaith yw y bydd pobl ifanc yn cadw draw oddi wrth ymddygiad troseddol.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi sicrhau bod £20,000 are gael, ac mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyfrannu swm cyfatebol o arian.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
"Mae'r prosiect mor bwysig wrth sicrhau lle diogel i bobl ifanc Caerdydd ddatblygu a thyfu. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cyfle iddynt ddod o hyd i lwybr sy'n eu tywys oddi ar lwybr o droseddu posibl, gan eu galluogi i fyw bywyd iach, diogel a llwyddiannus.
"Rwy'n gobeithio nad y prosiect hwn fydd yr unig enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni mewn partneriaeth, ond y bydd yn gweithredu fel catalydd ledled ardal De Cymru, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i ddatblygu a chynnig cyfleoedd arloesol, hirdymor i'n pobl ifanc."
Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth i swyddog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Hwn fydd y grant mwyaf a roddwyd erioed gan yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid, ac mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod mor hael â chyfrannu swm cyfatebol o arian.
Ychwanegodd Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison:
"Mae Met Caerdydd yn rhoi pwyslais mawr ar newid addysgol a chymdeithasol ac rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd ar brosiect fydd yn gwella iechyd corfforol a meddyliol y rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid yn y brifddinas.
"Mae hanes heb ei ail gennym o feithrin dawn chwaraeon ar draws ein campysau a’n cymunedau lleol ac rydym yn deall yn iawn fod gan chwaraeon y grym i hyrwyddo cyfleoedd fydd yn arwain at fagu hyder, cymhwysedd a chysylltedd."
Bydd y prosiect wedi'i leoli yng Nghaerdydd gyda nifer o glybiau yn cael budd o'r adnoddau a'r profiad:
- Clwb Rygbi Trelái a Chaerau a Chlwb Pêl-droed Trelái a Chaerau
- Clwb Tennis Bwrdd Dinas Caerdydd
- GLL Leisure
- Hangar Human Performance Centre
- Clwb Bocsio Llanrumney Phoenix
- Tiger Bay ABC
Bydd partneriaid yn Chwaraeon Caerdydd, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd hefyd yn cyfrannu adnoddau, a byddant yn cydweithio i rymuso pobl ifanc i fagu hyder a chymhelliant, a gwireddu eu potensial ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.
Bydd y prosiect yn fyw o heddiw (dydd Llun 17 Mai) ymlaen, a byddwn yn dechrau derbyn pobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio i'r rhaglen.