Hafan>Newyddion>Technegau golchi dwylo yn dal heb gyrraedd y safon yn ôl ymchwil Met Caerdydd

Technegau golchi dwylo yn dal heb gyrraedd y safon yn ôl ymchwil Met Caerdydd

​Hydref 15, 2019

Cardiff Metropolitan University
Golchi dwylo


Mae ymchwil gan Ganolfan Diwydiant Bwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ZERO2FIVE, wedi canfod, er gwaethaf ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd golchi dwylo, nad yw pobl yn dal i ddefnyddio technegau digonol. Yn destun pryder, dywedir bod technegau golchi dwylo hefyd yn wael ymhlith y rhai sy'n derbyn gofal canser, yn ogystal â'r rhai sy'n rhoi gofal.

Canfu'r ymchwil, a amlygwyd cyn Diwrnod Byd-eang Golchi Dwylo ar Hydref 15fed, allan o grŵp o 100 o gyfranogwyr:

  • dim ond 30% o'r rhai a arsylwyd a weithredodd golchi dwylo a sychu'n ddigonol cyn paratoi bwyd

  • gwelwyd 90% yn methu â gweithredu golchi dwylo a sychu'n ddigonol yn syth ar ôl trin cyw iâr amrwd

  • methodd 62% â rhwbio'u dwylo, cledrau a rhwng eu bysedd wrth olchi dwylo

  • methodd 47% â defnyddio sebon yn ystod un neu fwy o ymdrechion golchi dwylo

Mae golchi dwylo yn arbennig o bwysig i bobl sydd â llai o swyddogaeth imiwnedd i leihau'r risg o haint. Mewn astudiaeth arall gan y Brifysgol, "Gwybodaeth Diogelwch Bwyd ac Arferion Trin Bwyd Hunan-Adroddedig mewn Triniaeth Canser" a gyhoeddwyd yn 2018 yn y Fforwm Nyrsio Oncoleg, canfuwyd mai dim ond 58% o gleifion a'u gofalwyr a nododd eu bod yn rhwbio eu dwylo gyda'i gilydd a rhwng eu bysedd â sebon am yr 20 eiliad a argymhellir wrth olchi dwylo.

Dywedodd Dr Ellen Evans, Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n arbenigo mewn ymchwil ymddygiadol diogelwch bwyd: "Mae golchi dwylo yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer atal croeshalogi a'n hamddiffyn rhag salwch. Adroddir yn aml fod methu â golchi dwylo'n iawn yn gysylltiedig â lledaeniad salwch a gludir gan fwyd.

"Mae sychu dwylo hefyd yn bwysig iawn i atal halogiad o ddwylo i fwyd, arwynebau ac offer. Mae sychu dwylo yn cael gwared ar nifer sylweddol o facteria ar ôl golchi dwylo gan fod defnyddio tywel yn cael gwared ar bathogenau trwy ffrithiant.

"Mae'n arbennig o bryderus y gallai pobl fethu â gweithredu technegau golchi dwylo digonol i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd rhag salwch a gludir gan fwyd a chlefydau trosglwyddadwy. Mae'n hanfodol bod dwylo'n cael eu golchi a'u sychu'n drylwyr er mwyn atal bacteria pathogenig rhag lledaenu "

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cefnogaeth dechnegol, weithredol a masnachol i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru i'w galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol.

Sut dylen ni fod yn golchi dwylo?
Mae angen i olchi dwylo gynnwys dŵr glân a sebon, gan rwbio holl arwynebau'r dwylo i greu ewynnu (gan gynnwys y cledrau, rhwng y bysedd a chefnau'r dwylo) ac yna rinsio. Rhaid sychu dwylo hefyd gan ddefnyddio naill ai papur cegin tafladwy, tywel llaw glân neu sychwr dwylo.
Mae golchi dwylo yn cael gwared â bacteria o'r dwylo i helpu i atal heintiau rhag lledaenu. Felly mae'n hanfodol golchi dwylo ar adegau pan fydd dwylo wedi'u halogi fel:

  • Cyn, yn ystod, ac ar ôl paratoi bwyd, yn enwedig ar ôl trin cig a dofednod amrwd

  • Ar ôl defnyddio'r toiled

  • Ar ôl chwythu'ch trwyn, pesychu neu disian

  • Ar ôl cyffwrdd ag anifail

Fe ddylen ni dreulio 20-30 eiliad yn golchi a sychu ein dwylo:

1. Gwlychwch eich dwylo â dŵr glân
2. Defnyddiwch sebon
3. Rhwbiwch gledr i gledr
4. Cefn eich dwylo
5. Cydgroeswch eich bysedd
6. Rhwbiwch yr ewinedd
7. Gwaelod y bodiau
8. Rhwbiwch eich garddyrnau
9. Rinsiwch eich dwylo
10. Sychwch eich dwylo gan ddefnyddio tywel glân neu bapur cegin