Hafan>Newyddion>Guardian University Guide 2022

Met Caerdydd yn dringo’r Guardian Uni Guide

Newyddion | 11 Medi 2021

 

Cardiff Metropolitan University

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu perfformiad cryf arall yn y Guardian University Guide eleni.

Mae'r brifysgol wedi dringo 10 safle, a bellach yn safle 62 o 121 yn y DU, ac yn y drydydd safle yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ei chynnydd gorau erioed - 41 safle – yng nghanllaw’r llynedd.

Mae tabl cynghrair blynyddol y Guardian yn tynnu ar sawl ffon mesur a gydnabyddir yn genedlaethol megis yr Arolwg Hynt Graddedigion a'r Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr yn ogystal â chyfartaledd tariff mynediad. Mae'r Guardian University Guide yn un o'r tri phrif dabl cynghrair israddedig yn y DU a ddefnyddir gan fyfyrwyr a'u rhieni wrth ystyried eu dewis o brifysgol. 

Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: “Mae llwyddiant eleni yn y Guardian University Guide yn dyst i werthoedd ac ymdrechion ein cymuned Un Met Caerdydd sydd, o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol, wedi sicrhau amgylchedd ffyniannus i’n holl fyfyrwyr a staff.

“Rwy’n falch iawn bod y newyddion yma’n dilyn rhagor o newyddion da i’r Brifysgol. Yr wythnos hon roeddem ar restr fer gwobr Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau mawreddog Times Higher Education 2021.

“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y prif dablau cynghrair eraill gyda’r ail gynnydd mwyaf yn y DU yn The Complete University Guide 2022 a chynnydd gorau erioed y sefydliad yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2021 yn ogystal â chael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan y Times a'r Sunday Times.

“Hoffwn ddiolch i bob aelod o’n staff ar draws y brifysgol am eu cyfraniad at lwyddiant rhagorol heddiw.”