Hafan>Newyddion>Seremonïau Graddio yn Dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru

Seremonïau Graddio yn Dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru

​Newyddion | 23 Gorffennaf 2021

Pedwar mewn gwn graddio yn cerdded i ffwrdd o'r camera


Ar ôl gwneud y penderfyniad anodd, ond angenrheidiol, i ohirio Seremonïau Graddio yn ystod pandemig y coronafeirws, heddiw [dydd Gwener Gorffennaf 23], mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyhoeddi dychweliad at draddodiad y brifysgol, gan nodi llwyddiannau graddedigion 2020, 2021 a 2022 yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru o fis Ebrill 2022.

Oedwyd y seremonïau Graddio traddodiadol yn ystod y pandemig, ac am y tro cyntaf yn hanes 155 blynedd Met Caerdydd, gan fod cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn golygu na ellid cynnal y seremonïau'n ddiogel.

Gan ymateb i adborth myfyrwyr pan fu'n rhaid canslo seremonïau'r llynedd, ymrwymodd y Brifysgol i ddychwelyd at y seremonïau traddodiadol cyn gynted â phosibl.  Er bod rhai prifysgolion wedi dewis seremonïau graddio rhithiol yn ystod y pandemig, roedd cymuned glòs myfyrwyr Met Caerdydd yn teimlo y byddai hynny'n ormod o gyfaddawd.

Gan weithio â phartneriaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae'r Brifysgol bellach wedi gallu cadarnhau'r dyddiadau y bydd yr holl seremonïau a fyddai wedi digwydd ym mis Gorffennaf 2020 a Gorffennaf 2021 nawr yn digwydd ym mis Ebrill 2022. Bydd y Brifysgol wedyn yn dychwelyd i'r amserlen arferol ym mis Gorffennaf 2022, pan fydd graddedigion y flwyddyn nesaf yn croesi'r llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar y dyddiadau a amserlennwyd yn wreiddiol ar gyfer wythnos 18fed Gorffennaf 2022, yn amodol ar fod holl gyfyngiadau Llywodraeth Cymru'n ymwneud â Covid wedi eu codi ar y pryd.

Gan sôn am y dychweliad a fwriedir, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Cara Aitchison: "Mae myfyrwyr Met Caerdydd wedi bod yn croesi'r llwyfan Graddio am fwy na 150 o flynyddoedd, ac ni fydd y rhai a gwblhaodd eu gradd yn 2020 a 2021 yn wahanol.

"Fe wnaethom ymrwymiad ar anterth y pandemig y byddai pob myfyriwr a fyddai'n cwblhau yn ystod 2020 a 2021 yn cael eu gwahodd i Seremoni Raddio lawn yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru gyda theulu, ffrindiau a'u carfan cyn gynted ag y byddai'n ddiogel gwneud hynny, ac rydw i'n falch iawn y gallwn fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cyfres o ddathliadau prysur, ond llawen, yn ystod 2022.

"Mae Diwrnod Graddio'n ddigwyddiad bywyd arwyddocaol iawn, ac mae ein myfyrwyr wedi colli allan ar gymaint o ddigwyddiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, felly roeddem eisiau gwneud hyn yn ddiwrnod arbennig ar eu cyfer nhw a'u teuluoedd.

"Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r diwrnodau arbennig hynny gyda'n graddedigion ac â'n staff, lle byddaf yn ogystal eisiau cydnabod a thalu teyrnged i'w hymdrechion enfawr nhw hefyd ar hyd y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf. Bu'n ddwy flynedd anodd i bawb ac mae'n bwysig ein bod ni'n nodi cyflawniadau niferus iawn myfyrwyr a staff yn y seremonïau hyn yn 2022."   

Dywedodd Sian Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu a Phartneriaethau Canolfan Mileniwm Cymru: "Rydym yn falch iawn o groesawu seremonïau graddio Met Caerdydd yn ôl i'n hadeilad, gan ddathlu llwyddiannau pobl ifanc. Bydd yn wych gweld y graddedigion yn dathlu eu llwyddiant gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd tu mewn a thu allan i ein hadeilad eiconig.

"Mae cefnogaeth Met Caerdydd fel ein partner yn parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau ledled Cymru, wrth i ni barhau â'n gwaith fel y ganolfan gelfyddydau genedlaethol, gan danio dychymyg a meithrin creadigrwydd gyda chymunedau, pobl greadigol a phobl ifanc."


Dyddiadau a manylion archebu Seremonïau Graddio

Dosbarth Graddio 2020

Ebrill 11, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Ebrill 11, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Ebrill 11, Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Ebrill 12, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Ebrill 13, Ysgol Reoli Caerdydd

Archebu'n agor, Medi 2021: www.metcaerdydd.ac.uk/graddio

Dosbarth Graddio 2021

Ebrill 25, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Ebrill 26, Ysgol Reoli Caerdydd
Ebrill 27, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Ebrill 29, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Ebrill 29, Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Archebu'n agor, Medi 202: www.metcaerdydd.ac.uk/graddio

Dosbarth Graddio 2022

Gorffennaf 18-22 gyda manylion y seremonïau unigol i'w cadarnhau.  

Archebu'n agor, yn gynnar yn 2022: www.metcaerdydd.ac.uk/graddio