Newyddion | 17 Rhagfyr 2024
Mae Criced Morgannwg yn lansio Academi Merched Morgannwg newydd ar gyfer 2025 mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Bydd tîm Merched Morgannwg, sydd newydd ei ffurfio yn cystadlu yng nghystadlaethau Haen 2 o 2025 ymlaen ond byddant yn dod yn dîm Haen 1 yn 2027, gyda’r Academi safonol Haen 1 ar waith o 2025.
Mae Met Caerdydd wedi cefnogi Academi Bechgyn Morgannwg ers 2013, a bydd y bartneriaeth estynedig hon yn cynnwys logo’r Brifysgol yn falch ar draws blaen crysau Academïau Bechgyn a Merched fel partner Addysg Uwch swyddogol y clwb.
Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn nodi cydweithrediad cyffrous gyda Chlwb Criced Swydd Gaerloyw a Chriced Wiltshire i feithrin talent criced elitaidd.
Fel rhan o’r bartneriaeth strategol hon, bydd chwaraewyr ifanc Swydd Gaerloyw a Wiltshire yn bwydo i strwythur academi Morgannwg, gan ddechrau ar eu taith i griced proffesiynol trwy lwybr cynhwysfawr a gynlluniwyd i ddyrchafu a chefnogi eu twf yn y gamp.
Gydag Academi Morgannwg eisoes ar waith yn llawn a chriced Haen 1 ar y gorwel yn 2027, bydd sêr sy’n codi o’r tri chlwb nid yn unig yn cael sylw i hyfforddiant lefel Academi Haen 1 ond hefyd yn elwa o weithio gyda rhai o staff ac adnoddau hyfforddi gorau’r rhanbarth.
Dywedodd Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon ym Met Caerdydd: “Rydym yn gweld cyfleoedd enfawr i ehangu a datblygu criced Menywod a Merched yng Nghymru – drwy ein cynnig chwaraeon academaidd a pherfformio ein hunain ym Met Caerdydd ac mewn partneriaeth â Morgannwg, sydd ar flaen y gad o ran mentrau cyffrous yn y maes hwn.
“Mae cymaint o botensial yn yr Academïau Merched a Bechgyn ac rydym yn falch o fod yn ehangu ein partneriaeth gyda Morgannwg, gan chwarae rôl allweddol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o gricedwyr elitaidd.”
Mae’r fenter hon yn rhan o ymdrech ehangach i gynyddu gwelededd a chefnogaeth i griced menywod yn y rhanbarth gyda Morgannwg, Swydd Gaerloyw a Wiltshire wedi ymrwymo i greu’r cyfle i chwaraewyr benywaidd ifanc symud ymlaen o fod ar lawr gwlad i griced proffesiynol gyda’r hyfforddiant, yr arweiniad a’r fentoriaeth orau sydd ar gael, gan eu sefydlu ar gyfer llwyddiant hirdymor yn y gamp.
Mynegodd Aimee Rees, Pennaeth Menywod a Merched Morgannwg ei chyffro am lansiad yr Academi a’r partneriaethau gyda Met Caerdydd, a Chriced Swydd Gaerloyw a Wiltshire:
“Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio’n agos gyda Met Caerdydd ar yr adeg gyffrous hon i Griced Menywod a Merched yng Nghymru!
“Mae’r bartneriaeth hon yn golygu cymaint mwy na’r logo sydd ar y cit ar gyfer Academïau Merched a Bechgyn. Mae’n golygu y gallwn gynnig amgylchedd perfformiad uchel lle gall chwaraewyr ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfa mewn criced proffesiynol tra hefyd yn gallu gwella eu hastudiaethau gyda Met Caerdydd.
“Ein nod yw helpu’r holl ferched ar ein hacademi i ddatblygu i fod y bobl fwyaf cyflawn y gallant fod, a bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i gyflawni hynny.
“Rydym hefyd yn hynod falch o fod yn gweithio’n agos gyda Chlwb Criced Swydd Gaerloyw a Chriced Wiltshire i wella cyfleoedd i gricedwyr benywaidd ifanc trwy gynnwys nifer o’u chwaraewyr talentog yn Academi Morgannwg.
“Mae’r cydweithio hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y tri Chlwb i gynnig amgylchedd perfformiad uchel le gall chwaraewyr ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfa mewn criced proffesiynol. Rydym yn edrych ymlaen at y daith sydd o’n blaenau ac at wylio’r grŵp talentog hwn o chwaraewyr yn tyfu ac yn llwyddo.”