Hafan>Newyddion>O ardderchog i eithriadol: Met Caerdydd yn lansio strategaeth newydd

O ardderchog i eithriadol: Met Caerdydd yn lansio strategaeth newydd

Newyddion | 7 Rhagfyr 2022

 
Met Caerdydd yn lansio strategaeth newydd


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansio ei strategaeth newydd a fydd yn siapio a chryfhau’r sefydliad dros y saith mlynedd nesaf.

Bydd Strategaeth 2030 yn adeiladu ar y cyraeddiadau sylweddol a sefydlwyd dros y pum mlynedd diwethaf, cyfnod lle cyflwynwyd mwy na 40 o raglenni gradd newydd gan arwain at dwf sylweddol yn nifer y myfyrwyr, trosiant a buddsoddiad mawr mewn cyfleusterau newydd a staff. Bydd y ffocws ar wella enw da Met Caerdydd ymhellach fel prifysgol nodedig a blaengar sy’n perfformio’n dda, sy’n cael ei gyrru gan werthoedd ac sydd ag enw da, cyllid cynaliadwy, partneriaethau proffesiynol arloesol a chyrhaeddiad ac effaith leol, genedlaethol a byd-eang sylweddol.

Mae Met Caerdydd wedi gweld llwyddiant mawr yn ddiweddar, ar ôl ennill teitl Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 y Times Higher Education yn ogystal â Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide. Barnwyd hefyd mai’r Brifysgol oedd y Brifysgol Fwyaf Cynaliadwy’n Ariannol yng Nghymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn 2020 a, dim ond yr wythnos hon, mae hi hefyd wedi’i chydnabod fel y brifysgol orau yn y DU yng Nghynghrair Werdd People and Planet 2022/23, sy’n asesu perfformiad cynaliadwyedd, amgylcheddol a moesegol mwy na 150 o brifysgolion y DU.

Caiff Strategaeth 2030 ei chyflwyno gyda phwrpas, effaith a thosturi, gan ganolbwyntio ar ‘Berthyn a Datblygu’, wrth gyfoethogi ymhellach ei hymdeimlad o fod yn gymuned ffyniannus drwy fynd i’r afael â phedair blaenoriaeth thematig: dysgu, addysgu ac ennyn diddordeb myfyrwyr; ymchwil ac arloesi; cenhadaeth ddinesig; ac ymgysylltu byd-eang.

Gwna hynny drwy weithio mewn partneriaeth â’i myfyrwyr, ei staff a’i phartneriaid i wireddu eu cyfleoedd bywyd a rhai’r cymunedau a’r economïau y maen nhw’n perthyn iddynt.

Bydd Met Caerdydd yn cyflawni pum blaenoriaeth strategol: gwella’r diwylliant; trawsnewid campysau; creu llwyfan dyfodol carbon isel; atgyfnerthu ei safle fel prifysgol chwaraeon Cymru; a chryfhau ei hacademïau byd-eang ymhellach, sy’n cyflawni ymchwil ac addysg ôl-raddedig ryngddisgyblaethol er mwyn mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf sefydledig y byd ym meysydd iechyd a pherfformiad dynol, gwyddor bwyd, diogelwch a diogelu, a dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl.

Meddai’r Athro Cara Aitchison, y Llywydd ac Is-Ganghellor: “Mae hon yn adeg hollbwysig i Met Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at arwain staff a myfyrwyr wrth wneud Strategaeth 2030 yn llwyddiant.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cynnal y momentwm a sefydlwyd dros y pum mlynedd diwethaf drwy barhau â’n gwaith fel prifysgol nodedig a blaengar sy’n perfformio’n dda.

“Rwy’n ffodus i fod ynghanol staff ymroddedig sy’n dod i’r gwaith bob dydd â phwrpas ac sy’n cyflawni ein heffaith gyda phroffesiynoldeb a thosturi.

“Gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau bod Strategaeth 2030 yn llwyddiant ac yn cyflawni ein huchelgeisiau strategol yn llawn, sef sefydlu Met Caerdydd fel prifysgol arweiniol a blaengar.”

Fe wnaeth ein cynllun strategol ar gyfer 2017/18 i 2022/23 gryfhau ein hymrwymiad i addysg, ymchwil, arloesi a chenhadaeth ddinesig ac ymroddwyd iddo mewn partneriaeth â’n myfyrwyr, llywodraethau, busnesau a’r byd diwydiant.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, John Taylor: “Bydd Strategaeth 2030 yn datblygu’r ymdeimlad o bwrpas, proffesiynoldeb, dyhead a gwir gyraeddiadau a gyflawnwyd gan y strategaeth a lansiwyd yn 2017.

“Bydd ein Strategaeth 2030 newydd yn dwysáu ein ffocws ar werthoedd a chreu profiadau dysgu rhagorol sy’n cymhwyso myfyrwyr ar gyfer bywyd, ac ymchwil ac arloesi ag effaith bwrpasol a chyrhaeddiad byd-eang.

“Bydd ein ffocws strategol newydd yn gwella ein gallu i ymateb i alw myfyrwyr ac angen cyflogwyr er mwyn mynd i’r afael â heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang mawr, wrth i ni ailadeiladu ein heconomi a’n cymdeithas yn dilyn y pandemig, gan wella enw da a sefydlogrwydd ariannol y Brifysgol a chryfhau ein cyrhaeddiad a’n heffaith.”