Hafan>Newyddion>Aelodaeth beicio am ddim ar gael i weithwyr allweddol Caerdydd

Aelodaeth beicio am ddim ar gael i weithwyr allweddol Caerdydd

​Mai 11, 2020

Cardiff Metropolitan University

Bydd modd i weithwyr rheng flaen Caerdydd ddefnyddio cynllun nextbike y ddinas am ddim o ganlyniad i fenter ar y cyd rhwng y darparwr a dwy o brifysgolion Caerdydd.

Mae nextbike, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyd-ariannu'r cynllun er mwyn galluogi gweithwyr y gwasanaeth iechyd a'r rhai sy'n darparu cefnogaeth hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws i ddefnyddio'r beiciau am ddim.

Mae'n dilyn cynlluniau tebyg yn Glasgow, Stirling a Hillingdon yn Llundain, lle mae gweithwyr allweddol sy'n gorfod parhau i deithio i'r gwaith yn ystod y pandemig wedi cael cynnig aelodaeth am ddim.

Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr nextbike, Krysia Solheim, i'r prifysgolion, ac i Pedal Power, sy'n parhau i weithredu'r system yn lleol ac sydd wedi dod yn weithwyr hanfodol eu hunain. 

"Mae pawb dw i wedi siarad â nhw wedi bod yn hynod gefnogol gyda'r hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni," meddai Ms Solheim.

"Dod at ein gilydd yn wyneb trallod yw hyn, a helpu ein gweithwyr rheng flaen i ddarparu gwasanaeth gyda chymaint o ddiogelwch â phosib ar eu taith i'r gwaith.

"Cwmni bach ydyn ni, ac allen ni ddim fod wedi gwneud hyn heb gefnogaeth ein partneriaid."

Galwodd hefyd ar y gymuned fusnes yn y rhanbarth i gefnogi parhad y cyllid, fel bod modd i fwy o weithwyr allweddol ddefnyddio nextbike i deithio'n ddiogel i'r gwaith. 

"Os oes busnesau eraill yng Nghaerdydd a hoffai ymuno â ni i ymestyn y rhaglen yma y tu hwnt i fis, cysylltwch â ni."

Bydd y cynllun yn cynnig 500 aelodaeth am ddim i staff y gwasanaeth iechyd a gweithwyr allweddol eraill, sy'n golygu y bydd 30 munud cyntaf pob taith am ddim. Bydd yr aelodaeth yn ddilys am fis ar ôl ei dechrau, a bydd ar sail y cyntaf i'r felin.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "Yn ystod y cyfnod digynsail yma, dydy hi ond yn iawn ein bod ni'n gwneud popeth allwn ni i gefnogi'r ymdrech genedlaethol i oresgyn y clefyd yma. Mae cefnogi gweithwyr allweddol gan gynnwys staff y gwasanaeth iechyd yn y ffordd fechan yma yn golygu, gobeithio, bod un peth yn llai i boeni amdano gan y rhai sy'n gorfod teithio i'r gwaith er mwyn helpu i'n cadw ni'n ddiogel ac yn iach."

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild: "Gyda chyfyngiadau symud ar waith ers chwe wythnos erbyn hyn, mae'n ymddangos fel pe bai cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n beicio ar ffyrdd Caerdydd. P'un a yw hyn yn weithwyr allweddol yn mynd i'r gwaith, neu bobl yn gwneud eu hymarfer corff dyddiol. Mae'n galonogol gweld hyn, ac rydyn ni'n gofyn i holl ddefnyddwyr nextbike lynu at y cyngor sy'n cael ei roi ar ap nextbike ynghylch glendid a hylendid wrth ddefnyddio'r beiciau yn ystod y cyfnod anodd yma."

Dywedodd Dr Tom Porter, ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd Teithio Llesol Cymru, bod aros yn heini yn ystod y cyfyngiadau symud presennol yn bwysig iawn i iechyd corfforol ac i iechyd meddwl.

"Mae llawer o bobl eisoes wedi sylwi ar welliant yn ansawdd yr aer yn ein trefi a'n dinasoedd, wrth i fwy o bobl fynd am dro ac i feicio, yn lle defnyddio'u ceir. Mae'n wych felly gweld bod nextbike yn cynnig aelodaeth am ddim i holl staff y gwasanaeth iechyd sy'n gweithio yng Nghaerdydd, fel bod modd i staff wneud eu teithiau hanfodol gan helpu eu hunain a'r amgylchedd ar yr un pryd."

Er mai beicio yw'r ffordd orau o gadw pellter diogel oddi wrth deithwyr eraill yn ystod y pandemig, meddai Ms Solheim, dylai beicwyr gymryd camau rhagofal synhwyrol o ran eu hiechyd.

"Arhoswch gartre. Os oes angen i chi wneud taith hanfodol, rydyn ni yma. Rydyn ni'n annog ein holl gwsmeriaid i gymryd camau synhwyrol a chyfrifol wrth ddefnyddio'r beiciau, gan gynnwys dilyn rheolau swyddogol cadw pellter cymdeithasol, gan ystyried canllawiau golchi dwylo a hylendid, a pheidio â defnyddio ein beiciau os ydyn nhw'n dangos symptomau'r Coronafeirws. 

"Rydyn ni'n glanhau dolenni a chyfrifiaduron yr holl feiciau, yn y maes ac yn y gweithdy. Rydyn ni hefyd yn argymell bod cwsmeriaid yn defnyddio menig wrth ddefnyddio'r beiciau, ac yn golchi eu dwylo cyn ac ar ôl eu defnyddio."

Mae'r beiciau'n dal i fod yn weithredol i gwsmeriaid rheolaidd, a gallant ddefnyddio'r beiciau i gael eu hymarfer corff dyddiol ac i wneud teithiau hanfodol.