Newyddion | 9 Awst 2024
Mae un o arwyr Undeb Rygbi Cymru, Elinor Snowsill, wedi cael ei hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 sy’n amlygu’r effaith y mae hi wedi’i chael wrth gyfuno rhagoriaeth chwaraeon ag eiriolaeth ddiwylliannol.
Mae Gorsedd y Beirdd yn gymdeithas sy’n cynnwys beirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid a phobl eraill sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r genedl, yr iaith, a’i diwylliant. Cafodd Elinor, sydd bellach yn Arweinydd Datblygu Chwaraewyr yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ei chydnabod am ei chyfraniadau eithriadol i hyrwyddo cydraddoldeb i ferched ym myd rygbi ac am gyflwyno’r gêm yn Gymraeg, ar y cae ac yn y cyfryngau.
Wedi’i geni yn Berkshire i fam Gymreig a thad o Loegr, symudodd Elinor i Bont-y-clun yn saith oed, lle cofleidiodd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Wedi’i magu ar aelwyd ddwyieithog, mae’n defnyddio’r Gymraeg fel arf pwerus yn ei bywyd proffesiynol a phersonol.
Yn ystod gyrfa rygbi Snowsill, enillodd 76 o gapiau dros Gymru, cymerodd ran mewn pedwar Cwpan y Byd (2010, 2014, 2017, a 2021), Gemau’r Gymanwlad 2018 yn Awstralia, a bu ar daith i UDA a Lloegr gyda’r Barbariaid.
Yn ffigwr allweddol yn y broses o bontio rygbi merched o lefel amatur i lefel broffesiynol, roedd Elinor ymhlith y 12 chwaraewr cyntaf i dderbyn cytundeb proffesiynol llawn amser gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022. Ei hymroddiad i’r gamp a’i heiriolaeth dros gydraddoldeb merched mewn rygbi wedi ei gwneud hi’n fodel rôl ac yn arloeswr.
Yn ystod y seremoni awyr agored a groesawodd aelodau newydd i’r Orsedd ym Mharc Coffa Ynysangharad, dywedodd Elinor: “Rhaid i mi gyfaddef, rwy’n teimlo’n fwy cartrefol ar y cae rygbi neu yng Nghwpan y Byd nag yng ngwisg seremonïol yr Orsedd, ond mae’n anrhydedd i allu rhannu’r profiad yma gyda Mam a chael Dad a Modrybedd yn bresennol ar y Maes. Rwy’n teimlo fy mod yn cymryd yn nigwyddiad sy’n ymgorffori diwylliant Cymru.”
Meddai Daniel Tiplady, Pennaeth yr Uned Gymraeg ym Met Caerdydd: “Mae taith Elinor yn ysbrydoliaeth, ac yn dangos effaith ddofn cyfuno rhagoriaeth chwaraeon ag eiriolaeth ddiwylliannol.
“Mae cael aelod arall o gymuned y Brifysgol yn cael ei hurddo i’r Orsedd yn dangos pwysigrwydd y Gymraeg i Met Caerdydd a sut rydyn ni’n meithrin y Gymraeg ac yn denu staff sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg a’i diwylliant.”
Mae urddo Elinor i’r Orsedd yn ddathliad teuluol, gyda’i mam, yr arbenigwraig bwyd Cymreig, Nerys Howell, y ‘Mary Berry Gymreig’ i lawer, a gafodd ei hurddo yn ystod y seremoni ar 9fed o Awst ym Mhontypridd. Mae’r cydanrhydedd hwn yn ychwanegu dimensiwn arbennig i’r achlysur, gan danlinellu gwreiddiau dwfn y teulu yn niwylliant Cymru.