Hafan>Newyddion>Y Gweinidog Addysg yn egluro wrth fyfyrwyr yng Nghaerdydd pam fod gyrfa mewn addysgu’n syniad gwych

Y Gweinidog Addysg yn egluro wrth fyfyrwyr yng Nghaerdydd pam fod gyrfa mewn addysgu’n syniad gwych

​Tachwedd 07, 2019

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymweld â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i siarad â myfyrwyr ynghylch pam mai nawr yw'r amser perffaith i ddechrau gyrfa mewn addysgu yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn datblygu gweithlu addysgu wych er mwyn helpu gwireddu'r cwricwlwm newydd, sydd i fod i gael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi 2022. Mae hyn yn cynnwys recriwtio athrawon newydd a gwella datblygiad proffesiynol, yn ogystal â gweithio gydag undebau a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â phroblemau llwyth gwaith athrawon.

Dywedodd y Gweinidog: "Roedd yn bleser ymweld â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a chwrdd â myfyrwyr a allai fod yn athrawon yng Nghymru yn y dyfodol agos iawn.

"Mae plant ledled Cymru yn cael budd o ymroddiad ein hathrawon ffyddlon bob dydd ac rydyn ni'n chwilio am bobl o bob cefndir sydd â dawn ac uchelgais, sy'n barod i ymuno â'n gweithlu llwyddiannus.

"Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn athro yng Nghymru wrth inni baratoi i gyflwyno cwricwlwm newydd, wedi ei ddylunio gan athrawon, sy'n eu galluogi nhw i fod yn greadigol yn y ffordd maen nhw'n cyflwyno eu gwersi.

"Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n meddwl am yrfa mewn addysgu i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael ac ystyried a allen nhw lwyddo yn yr yrfa werth chweil hon."

Ymweliad y Gweinidog â Met Caerdydd yw lleoliad cyntaf ei thaith o gwmpas pedair Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) bresennol Cymru, ac mae hi hefyd yn ymweld â Phartneriaeth AGA Prifysgol De Cymru sydd newydd gael ei hachredu. 

Yng Nghaerdydd gwrandawodd ar athrawon dan hyfforddiant yn trafod yr hyn a'u denodd nhw at yrfa o flaen dosbarth, a siaradodd â myfyrwyr israddedig ynghylch manteision addysgu fel opsiwn gyrfa.

Siaradodd Beau Fryer, myfyriwr BA Anrh. Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, â'r Gweinidog yn ystod y digwyddiad. Dywedodd: "Rydw i'n 28 felly rydw i wedi cael peth amser i feddwl beth rydw i eisiau ei wneud fel gyrfa. Mae addysgu yn sicr yn alwedigaeth sy'n gofyn am lawer o frwdfrydedd ac rydw i wir yn mwynhau fy mhrofiad hyd yn hyn.

"Mae fy lleoliad ymarfer dysgu cyntaf wedi bod yn werthfawr iawn yn barod ac rydw i'n gwybod na fyddaf i byth, fel athro, yn stopio dysgu. Rydw i'n teimlo'n gyffrous ynglŷn â pharhau â fy nhaith ddysgu drwy gydol fy ngyrfa.

"Mae'r ffordd rydyn ni'n addysgu'n mynd i fod yn wahanol oherwydd y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill, ond rydw i'n meddwl bod hynny'n gyfle i fod yn rhan o rhywbeth newydd, sy'n gyffrous iawn."

Ychwanegodd Jen Davies, myfyrwraig TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Roeddwn i wastad eisiau hyfforddi fel athrawes ond arhosais tan roedd fy mhlant yn hŷn fel y gallwn ymrwymo'n llwyr i'r proffesiwn. Roedd fy mhrofiad personol o addysg gynradd yn bositif iawn ac mae'n fraint bod mewn sefyllfa ble y gallaf i nawr ddylanwadu ar brofiad addysg gynradd pobl ifanc yng Nghymru.

"Mae gweithio gyda phobl ifanc yn werth chweil ac rydw i'n teimlo'n gyffrous iawn am fy ngyrfa fel athrawes yn y dyfodol."

Ychwanegodd Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: "Gan fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, mae byd addysg Cymru yn newid ac felly mae addysgu'n cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen i ddylanwadu ar y newid hwnnw a chwarae rhan go iawn wrth ddatblygu beth, a sut, mae ein plant yn ei ddysgu. Yn Met Caerdydd rydyn ni'n cynnig cyrsiau cynradd ac uwchradd, drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg – hoffen ni siarad â chi ynghylch gyrfa mewn addysgu, felly cysylltwch â ni os hoffech drafod unrhyw agwedd ar hyfforddi i addysgu neu am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais."

Er mwyn cymhwyso fel athro, mae'n rhaid i fyfyrwywr presennol ennill Tysygrif Addysg i Raddedigion (TAR). Mae cyrsiau TAR fel arfer yn para am flwyddyn, ac yn cynnwys elfennau damcaniaethol yn ogystal â rhai ymarferol, gan gynnwys treulio amser yn ymarfer dysgu mewn ysgolion. Mae llwybr rhan-amser newydd sbon yn cael ei ddatblygu fydd yn cael ei ddarparu gan y Brifysgol Agored, ar gyfer unrhyw un nad yw'n gallu ymrwymo i'r cwrs TAR llawn-amser.

Os ydych chi'n frwd dros eich pwnc neu eich maes arbenigol ac eisiau ysbrydoli pobl ifanc, ni fu erioed amser mwy cyffrous i fod yn athro yng Nghymru. Mae sawl ffordd o ddechrau eich gyrfa mewn addysgu – p'un ai ydych chi'n camu i fyd gwaith am y tro cyntaf, yn dychwelyd at addysgu neu'n dechrau gyrfa newydd sbon.

Am ragor o wybodaeth ac am wybodaeth ynghylch y cymelliadau ariannol sydd ar gael i helpu pobl i hyfforddi, ewch i

www.darganfodaddysgu.cymru