Hafan>Newyddion>Labordy Roboteg EUREKA yn treialu profion Covid-19

Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn treialu profion Covid-19 (coronafeirws) newydd mewn meddygfa

​Ebrill 23, 2020

Cardiff Metropolitan University
Robot yn labordy EUREKA

Mae academyddion yn Labordy Roboteg Eureka Met Caerdydd yn ymuno â’r ymdrech i arafu lledaeniad Covid-19 (coronafeirws) trwy ddefnyddio’r dechnoleg roboteg ddiweddaraf i dreialu system ar gyfer adnabod symptomau feirws. Wedi'i leoli yn Ysgol Dechnolegau'r Brifysgol, bydd y tîm roboteg yn defnyddio tri robot Canbot U03S i helpu meddygon teulu ar y rheng flaen. 

Diolch i grant cyflym gan gronfa Ymchwil ac Arloesi prifysgol ‘Get ‘ cychwynnwyd y prosiect ar ôl arsylwi defnyddiau tebyg o dechnoleg yn America a China, gyda robotiaid yn cael eu defnyddio i drin cleifion a chefnogi pobl sy'n cysgodi. Bydd academyddion yn Labordy EUREKA yn defnyddio technoleg iechyd o'r radd flaenaf i ddylunio a rhaglennu ystod o sgiliau i gynorthwyo profion ar bellter diogel tra hefyd yn cynllunio ymgyrch iechyd cyhoeddus i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mesurau y gall pobl eu cymryd i amddiffyn eu hunain.

Daeth y syniad o sgwrs â staff y GIG, a’r pryder diweddar ynghylch prinder offer Cyfarpar Amddiffyn Personol. Gobaith y tîm yn EUREKA yw defnyddio'r dechnoleg roboteg ddiweddaraf i gynorthwyo staff rheng flaen i weithio'n ddiogel.

Dywedodd Deon Ysgol Dechnolegau Caerdydd, yr Athro Jon Platts: “Mae gwerthoedd moesegol ein Prifysgol yn wir wrth wynebu heriau fel pandemigau byd-eang, a rhaid i ni i gyd edrych am ffyrdd amgen i gefnogi’r ymdrech i arafu lledaeniad Covid-19. Rwy’n falch o weld cydweithwyr yn labordy EUREKA yn camu i’r her ddigynsail hon mewn ffordd mor arloesol.”

Dywedodd yr academydd a sylfaenydd Labordy Roboteg EUREKA, Dr Esyin Chew: “Mae'r pwysau presennol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu yng ngoleuni'r pandemig Covid-19 yn enfawr. Os gall technoleg ein helpu i wella gofal cleifion a gwneud ein meddygfeydd yn lleoedd mwy effeithlon a mwy diogel i staff a chleifion, yna mae'n rhaid i ni achub ar y cyfle. Byddwn yn cysegru ein hamser a'n hadnodd yn ystod y misoedd tyngedfennol i ddod o hyd i atebion sy'n helpu'r rhai ar y rheng flaen i weithio'n ddiogel gan ddefnyddio ein technoleg a'r data sydd ar gael."