Hafan>Newyddion>Complete University Guide – yr 2ail Gynnydd Mwyaf yn y DU i Met Caerdydd

Complete University Guide – yr 2ail Gynnydd Mwyaf yn y DU i Met Caerdydd

Newyddion | 8 Mehefin, 2021​

Mae cynnydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd blwyddyn yn nhablau cynghrair y prifysgolion yn parhau yn sgil cyhoeddi’r Complete University Guide 2022.

Mae Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 wedi dringo 24 safle, sef yr ail gynnydd mwyaf yn y DU. Mae’r Brifysgol nawr yn safle 63 allan o 130 o brifysgolion yn y DU, ei safle uchaf ers 2010, ac yn 4ydd yng Nghymru.

Mae boddhad y myfyrwyr yn parhau i fod yn gryf, a rhagolygon graddedigion yn parhau i ddringo gyda Therapïau Iaith a Lleferydd ar frig bwrdd y DU ar gyfer graddedigion sy'n teimlo eu bod 'ar y trywydd iawn' ac Astudiaethau Twristiaeth, Trafnidiaeth, Teithio a Threftadaeth ar y brig yn gyffredinol yng Nghymru.

Dangosodd canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2020 fod cyfradd boddhad cyffredinol o 85% gan Met Caerdydd, dau bwynt yn uwch na chyfartaledd y DU, sef 83%. Mae myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sy’n cwblhau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol i asesu eu profiad yn y brifysgol mewn meysydd gan gynnwys addysgu, cefnogaeth academaidd, adnoddau dysgu a lleoliadau. Eleni, fe gafod yr arolwg ei gwblhau gan bron i dri chwarter ein myfyrwyr blwyddyn olaf.
  
Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd:  

"Mae profiad y myfyrwyr ac ansawdd ein dysgu ac addysgu wrth wraidd popeth a wnawn ym Met Caerdydd, ac mae canlyniadau'r Complete University Guide eleni yn dyst i ymroddiad cyson ac ymdrechion diflino ein staff sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Undeb Myfyrwyr.  
 
"Mae adborth y Complete University Guide yn bwysig i ni ac rydym wrth ein bodd â chanlyniadau eleni. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau i gefnogi rhaglen strategol o wella, twf ac arallgyfeirio. Mae'n arbennig o braf gweld y brifysgol yn tyfu o ran maint ac ansawdd fel yr adlewyrchir yn y cynnydd yma. Mae canlyniadau eleni yn parhau i ddangos gwelliant y mae'r Brifysgol pherfformiad dros y blynyddoedd diwethaf; gwelliant olygodd fod Met Caerdydd yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021.
  
"Gan edrych tuag at y dyfodol, rydym yn canolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr yn barhaus gan roi’r sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd i’n myfyrwyr sy’n rhoi’r EDGE Met Caerdydd i’n graddedigion yn y farchnad hynod gystadleuol heddiw."

Mae'r Complete University Guide yn seiliedig ar wybodaeth a gasglir gan yr Asiantaeth Safonau Addysg Uwch (HESA), yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) a'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) gyda'r nod o hysbysu darpar fyfyrwyr am statws prifysgolion yn y meysydd pwnc.