Hafan>Newyddion>Dathlu Ymrwymiad Arwrol Myfyriwr i’w Gymuned

Dathlu Ymrwymiad Arwrol Myfyriwr i’w Gymuned

Newyddion | 10 Mawrth, 2021

Floyd yn dal ei Plac Porffor yn falch

Enwyd myfyriwr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwr fel rhan o ymgyrch Cyfrifiad 2021, diolch i’w ymrwymiad i’w gymuned. 

Mae Floyd Haughton, myfyriwr yn yr ail flwyddyn yn Ysgol Reoli Caerdydd, wedi ei wobrwyo â Phlac Arwyr Cyfrifiad mewn cydnabyddiaeth am ei ymdrechion yn ystod pandemig y coronafeirws. 

Mae Floyd yn un o 22 person yn unig ar draws y DU i gael eu cydnabod â phlac.

Gohiriwyd cynlluniau Floyd i gychwyn ei fusnes bwyd ei hun yn haf 2020 o ganlyniad i ddyfodiad y pandemig byd-eang, ond er gwaethaf y digwyddiadau a gwyliau a ganslwyd oherwydd y cyfnod clo cenedlaethol, defnyddiodd Floyd y cynilon ar gyfer ei fusnes newydd – busnes bwyd stryd symudol yn gwerthu prydau swmpus Jamaicaidd i fynychwyr gwyliau a digwyddiadau – i ddarparu prydau ar gyfer gweithwyr allweddol a staff y rheng flaen yn ei gymuned leol.

Mae Floyd wedi bod yn cludo ‘Sunshine Suppers’ yng Nghaerdydd, gan ddarparu pryd cartref mawr ei angen i feddygon, nyrsys, parafeddygon, athrawon, glanhawyr, gyrwyr bws a gweithwyr allweddol eraill sy’n parhau i weithio ar y rheng flaen trwy gydol pandemig y coronafeirws.  

Ers mis Mawrth 2020, mae mwy na 800 o brydau Jamaicaidd traddodiadol wedi’u cludo i weithwyr allweddol a henoed ar draws y ddinas, y cyfan wedi’u coginio a’u talu amdanynt gan Floyd. 

Mae poblogrwydd menter Floyd a’r sgiliau entrepreneuraidd a ddysgodd yn y brifysgol wedi arwain ato’n sefydlu cegin gymunedol wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymunedol Butetown lle mae elw o werthiannau’n helpu i ariannu’r swperau rhoddedig. Mae ei benderfyniad yn parhau ac mae wedi galluogi Floyd i recriwtio a hyfforddi tri ffrind i wirfoddoli yn y gegin gydag ef gan ei helpu i gynyddu ei allu cynhyrchu.    

Gan siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Floyd: “Mae’n anrhydedd i dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Pan ddaeth yn amlwg y byddai angen gohirio fy nghynlluniau ar gyfer yr haf oherwydd y cyfnod clo, Sunshine Suppers oedd y peth gorau nesaf. 

“Coginio prydau ar gyfer gweithwyr allweddol a henuriaid yn y gymuned oedd y lleiaf y gallwn ei wneud, rhywbeth bach i helpu pobl yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Mae coginio’n ffordd bleserus o gysylltu ag a rhannu fy niwylliannau Cymreig-Jamaicaidd gan fy helpu i ymlacio rhag gofynion prifysgol hefyd. Fe ddaeth o’r galon, rydw i wedi dysgu llawer, ond dydi e ddim wedi teimlo fel baich o gwbl.”

Dywedodd Laura Wilson, parafeddyg ar y rheng flaen: “Rydw i wedi gweithio trwy gydol y cyfnod clo fel parafeddyg ar y rheng flaen. Mae gweithio 11 awr ar y tro mewn cyfarpar diogelu personol yn llafurus ac roedd cael pryd blasus wedi ei roi i mi ar ddiwedd diwrnod hir yn anhygoel.

“Roedd gweld Floyd yn cludo pryd cartref ar anterth y don gyntaf wedi dod â deigryn i’m llygad. Allai ddim diolch ddigon i Floyd am feddwl amdana i ac eraill ac rydw i wrth fy modd i’w weld yn cael ei gydnabod yn y ffordd hon.”

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Met Caerdydd: “Lle gallai rhai fod wedi oedi a chwyno oherwydd y newid cynlluniau gorfodol, ceisiodd Floyd i fwrw ymlaen gyda’i uchelgeisiau a defnyddiodd ei arian ei hun i helpu eraill mewn amser o angen mawr, gan greu menter gymdeithasol i bob pwrpas.

"Mae'n enghraifft ddisglair o'r ysbryd entrepreneuraidd a chreadigol sy'n cael ei yrru gan werthoedd sy'n crynhoi popeth y mae Met Caerdydd yn sefyll drosto.

“Rydyn yn hynod falch o’r hyn y mae Floyd wedi ei gyflawni yn wyneb cymaint o ansicrwydd ac rydyn wrth ein boddau i’w weld yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol â’r Plac Arwyr Cyfrifiad hwn.”  

Bydd plac Floyd yn cael ei ddadorchuddio yng Nghanolfan Gymunedol Butetown, lle bydd yn cael ei osod.