Newyddion | 9 Rhagfyr 2021
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu ar ôl dringo 63 safle yn nhabl cynghrair cynaliadwyedd annibynnol People & Planet 2021, gan gael ei henwi’n gyd-bumed yn y DU yn y gynghrair werdd flynyddol.
Yn yr unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU a restrir yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol, rhestrwyd Met Caerdydd yn y safle uchaf yng Nghymru yng Nghynghrair Prifysgolion flynyddol People & Planet, y’i gwneir gan rwydwaith ymgyrchu myfyrwyr mwyaf y DU, People & Planet. Mae’r gynghrair yn ymdrin â pholisi lefel uchel, arloesi’r cwricwlwm a datblygu myfyrwyr, yn ogystal ag effeithiau ymarferol fel lleihau carbon, gwastraff a bwyd.
Gyda hanes cryf o fentrau cynaliadwy ledled y brifysgol, mae ymarfer da ym mhob maes o reolaeth amgylcheddol yn sail i naid Met Caerdydd yn y rhestr.
Mae gwelliannau ym mhob maes o ganlyniad uniongyrchol i ddull cynaliadwyedd prifysgol gyfan wedi arwain at y sefydliad yn adeiladu ar yr arfer da a welwyd yn nhabl cynghrair 2019, gyda staff a myfyrwyr yn dod ynghyd i wella rheolaeth amgylcheddol ledled y sefydliad.
Dywedodd Rachel Roberts, y Rheolwr Ymgysylltu â Chynaliadwyedd: “Mae’n galonogol gweld ein gwaith ar hyd y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael cymaint o effaith ar ein safle yn y gynghrair hon.
“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw ein bod ni’n parhau â’r momentwm hwn ac yn adeiladu ar a rhannu ein llwyddiant ag eraill i sicrhau y gallwn leihau ein heffaith yn lleol ac yn fyd-eang a newid ein hymddygiadau am byth.”
Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: “Mae People & Planet yn gweithio o fewn ein dull ehangach a gaiff ei yrru gan werthoedd a arweiniodd atom yn cael ein dyfarnu â theitl Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon THE 2021 yn ddiweddar.
“Rydym wrth ein boddau â’r canlyniad hwn, sy’n benllanw ymdrechion ar y cyd i wella ‘cymwysterau gwyrdd’ y Brifysgol wrth inni geisio datblygu rhaglenni a addysgir yn yr amgylchedd, cynllunio a chynaliadwyedd a datblygu Prif Gynllun ar gyfer ein campysau sy’n cyflawni Sero Net erbyn 2030."