Newyddion | 18 Tachwedd 2024
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yr wythnos hon. Bydd dros fil o fyfyrwyr yn mynychu'r seremoni raddio ddydd Llun 18 a dydd Mawrth 19 Tachwedd.
Dywedodd Yr Athro Rachael Langford, Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd: “Llongyfarchiadau i bob un o'n myfyrwyr sy’n graddio'r wythnos hon yn ein seremonïau ym mis Tachwedd. Graddio yw uchafbwynt ein blwyddyn academaidd ac mae'n nodi penllanw blynyddoedd o waith caled a phenderfyniad; dylai pob myfyriwr sy'n cerdded ar hyd y llwyfan yr wythnos ymfalchïo yn eu cyflawniadau. Rydym yn dymuno'r gorau i chi wrth i chi ddechrau ar bennod nesaf eich bywyd, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n cymuned o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.”
Bydd Seremoni Raddio Met Caerdydd ym mis Tachwedd yn gweld myfyrwyr gradd Israddedig, Ôl-raddedig a Meistr yn graddio o bob un o bum Ysgol Academaidd y Brifysgol, sef Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Dechnolegau Caerdydd, ac Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd.