Newyddion | 12 Tachwedd 2024
Mae myfyriwr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dod yn bencampwr bocsio’r byd yr wythnos hon, ar ôl cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Cystadlodd Dan Pitt, 18, o Aberhonddu, canolbarth Cymru, ym Mhencampwriaethau Bocsio’r Byd dan 19 a gafodd ei gynnal yn Colorado, ar ôl iddo arwyddo yn ddiweddar gan Sgwad Elît Bocsio Cymru.
Cystadlodd Dan yn y dosbarth 85kg gan wynebu dau wrthwynebydd caled, cystadlodd yn erbyn Aryan Aryan, o India, yn gyntaf yn y rownd gynderfynol gan ennill. Aeth ymlaen i gystadlu ac ennill yn erbyn pencampwr cenedlaethol Kazakhstan, Danial Raimbekov – dyma le enillodd teitl y pencampwr.
Ochr yn ochr â’i yrfa focsio lwyddiannus, mae Dan yn ei flwyddyn gyntaf ym Met Caerdydd, lle mae’n astudio’r radd BSc (Anrh) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon, ar ôl cwblhau chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn ddiweddar.
Dywedodd Dan: “Dechreuais focsio am y tro cyntaf pan o’n i’n 12 oed, hobi oedd e yn gyntaf, dilynais fy mrawd oedd wedi ymuno â’n clwb bocsio lleol, The Brecon Phoenix. Ond yn fuan iawn fe wnes i gwympo mewn cariad ag ef, rydw i nawr yn hyfforddi hyd at dair gwaith y dydd. Mae’n gamp wych i ddysgu sgiliau bywyd allweddol, gan gynnwys disgyblaeth. Mae wedi dod yn ffordd o fyw a dyma yw fy mywyd dros y chwe blynedd diwethaf.
“Roeddwn i’n falch iawn o ennill ym Mhencampwriaethau Bocsio’r Byd dan 19. Sefyll yn y cylch ar ddiwedd yr ornest a chael fy llaw wedi’i chodi yw’r rhyddhad mwyaf a ddaeth â llawenydd pur. Mae llawer o waith caled a rhan fawr o fy mywyd wedi ei rhoi i’r gamp hon a dyma fy nghyflawniad uchaf a’r gorau y gallaf fod yn fy ngyrfa bocsio ar hyn o bryd, sy’n deimlad gwych.”
Pencampwriaeth Bocsio’r Byd dan 19 yw’r twrnamaint byd-eang cyntaf erioed ar gyfer bocswyr 17 a 18 oed ac mae’n cynnwys cystadlaethau ar draws 10 categori pwysau ar gyfer dynion a menywod. Daeth y digwyddiad â mwy na 180 o gyfranogwyr ynghyd o 30 ffederasiwn cenedlaethol, ar hyd pum cyfandir.
Yn ddiweddar arwyddwyd Dan gan Sgwad Elît Bocsio Cymru, lle mae’n hyfforddi pedwar diwrnod yr wythnos, o amgylch ei astudiaethau.
Dywedodd Adam Park, Pennaeth Perfformiad Bocsio Cymru: “Roedd perfformiadau Dan Pitt ym Mhencampwriaethau Bocsio’r Byd dan 19 2024 yn rhagorol. Creodd Dan hanes trwy ennill y fedal aur, mae hwn yn gamp aruthrol i Bocsio Cymru. Rwy’n hynod falch o’r holl dîm perfformiad a gefnogodd y bocswyr i gyflwyno’r perfformiadau hyn yn enwedig Zack Davies a Connor Gething, maent wedi dangos yr hyn y mae Bocsio Cymru yn gallu ei wneud ar lwyfan byd-eang. Ni all ein rhaglen berfformiad lwyddo heb ein clybiau gweithgar, mae angen cyfeirio’n arbennig at Brecon Phoenix, mae medal aur pencampwriaeth y byd Dan yn dyst i’w hymroddiad a’u hymrwymiad.”
Wrth drafod bywyd yn y brifysgol, meddai Dan: “Rwy’n mwynhau’r cwrs ym Met Caerdydd, mae’n amrywiol iawn felly mae gen i lawer o opsiynau ar gyfer pan fyddaf yn graddio. Hefyd, mae’r Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi cynnig amrywiaeth o ffyrdd i’m helpu gyda’m hastudio, felly rwyf wedi bod yn lwcus iawn.”
Dywedodd Lucy Kember, Uwch Ddarlithydd Tylino Chwaraeon ac Adfer ym Met Caerdydd: “Mae Dan wedi gwneud dechrau trawiadol i’w flwyddyn gyntaf ar raglen SCRAM, gan gydbwyso ei astudiaethau â gofynion cystadleuaeth ryngwladol. Mae cystadlu ym Mhencampwriaethau Bocsio’r Byd dan 19 wrth drosglwyddo i fywyd prifysgol yn dangos ei ymrwymiad a’i wytnwch. Mae’n ysbrydoledig ei weld yn llwyddo ym myd bocsio ac yn yr ystafell ddosbarth, ac rydym yn gyffrous i’w gefnogi ar y daith hon. Mae ei lwyddiant hyd yn hyn yn dyst i’w ymrwymiad, ac rydym yn gyffrous i weld popeth y mae’n ei gyflawni wrth symud ymlaen.”
“Ers arwyddo gyda Sgwad Elît Bocsio Cymru, rwyf wedi gallu teithio i Rwmania, Lithwania, Hwngari a’r Unol Daleithiau. Ac ymhen ychydig wythnosau, byddaf yn cystadlu yn erbyn Iwerddon ar dywarchen gartref yng Nghaerdydd ac yna’n mynd i Moldofa am dwrnament arall yn fuan ar ôl hynny.
“Mae fy mocsio yn caniatáu i mi deithio’r byd gyda thîm gwych o unigolion sy’n mwynhau’r hyfforddiant a chystadleuaeth bocsio cymaint â fi,” ychwanegodd Dan.