Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn cynnal cyrsiau diwrnod blasu am ddim ym mis Ionawr

Met Caerdydd yn cynnal cyrsiau diwrnod blasu am ddim ym mis Ionawr

Newyddion | 18 Rhagfyr 2024

Gall oedolion sy’n ystyried dychwelyd i ​addysg ac sydd am roi hwb i’r flwyddyn newydd gyda her ffres elwa ar gyrsiau diwrnod blasu am ddim sydd ar gael ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Ionawr 2025.

Grŵp o fyfyrwyr ehangu mynediad mewn dosbarth


Bydd y cyrsiau Diwrnod Blasu Dysgu a Thyfu yn cael eu cynnal rhwng 14 – 16 Ionawr ac wedi’u cynllunio i helpu i feithrin hyder dysgwyr sydd efallai’n edrych i uwchsgilio, newid gyrfa neu ddysgu rhywbeth newydd.

Mae tri chwrs yn cael eu cynnal, gan gynnwys:

  • Plant yn eu Harddegau: Gweithio gyda Phobl Ifanc
  • Datblygiad Plant
  • Rhagarweiniad i Baratoi i Addysgu Oedolion

Nod Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod pobl o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i gael mynediad i Addysg Uwch.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael ar dudalen we​ Prifysgol Metropolitan Caerdydd.