Hafan>Newyddion>Athro Met Caerdydd wedi ennill medal fawreddog am ymchwil addysgol eithriadol

Athro Met Caerdydd wedi ennill medal fawreddog am ymchwil addysgol eithriadol

Newyddion | 13 Tachwedd 2024

Mae’r Athro Gary Beauchamp o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn Medal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru – yn dathlu ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru.

Gary Beauchamp
Yr Athro Gary Beauchamp

Mae’r Athro Beauchamp wedi cael gyrfa hir a nodedig mewn ymchwil i addysg yng Nghymru. Mae ei waith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn, ac yn cael effaith gadarnhaol ar, addysg plant yn y wlad. Mae’n tynnu sylw at lais y dysgwyr, yn enwedig llais plant ysgolion cynradd, gan adlewyrchu ei bwysigrwydd ym mholisi addysg Cymru.

Yn ogystal, mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol, yn enwedig wrth ddefnyddio technolegau rhyngweithiol mewn dysgu ac addysgu. Mae ei ymrwymiad i feithrin gallu ymchwil a chydweithio ag Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr addysg yn sylweddol.

Dywedodd yr Athro Gary Beauchamp: “Mae’n anrhydedd i mi dderbyn Medal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n cynrychioli penllanw’r gefnogaeth, yr her a’r ysbrydoliaeth a gefais gan lawer o gydweithwyr, mewn addysg uwch ac addysg yn ehangach, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cydnabod y gwerth mewn ymchwil o wrando ar ddysgwyr, o bob oed, sydd wedi bod yn ganolbwynt i lawer o’m gwaith.”

Enwir Medal Hugh Owen er anrhydedd i Syr Hugh Owen, addysgwr, dyngarwr ac arloeswr addysg uwch yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd i gydnabod cyfraniadau mawr i ymchwil addysgol.

Dywedodd Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ym Met Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o lwyddiant yr Athro Beauchamp. Mae’r wobr hon yn haeddiannol iawn ac yn cydnabod effaith sylweddol Gary ar ddysgwyr a chydweithwyr ar draws sectorau addysg nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol.”