Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn cyflwyno gradd flaengar i egin entrepreneuriaid

Met Caerdydd yn cyflwyno gradd flaengar i egin entrepreneuriaid

Newyddion | 05 Mawrth, 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cyflwyno cwrs gradd israddedig newydd wedi’i anelu at y rheini sy’n gobeithio cychwyn a rhedeg eu busnes eu hunain.

BA (Anrh) Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Rheoli Arloesedd yw’r unig radd o’i math yn y DU ar hyn o bryd, gyda myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau entrepreneuriaeth a chynllunio’u busnes cyn ei lansio yn ystod eu blwyddyn olaf.

Cynhelir y cwrs tair blynedd, y’i rheolir gan Natasha Hashimi, Darlithydd mewn Addysg Menter, o fis Medi 2021 a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r entrepreneur unigol i fod yn gymwys i lansio busnes cynaliadwy.

Mae ei lansiad yn cydweddu ag EDGE Met Caerdydd – menter a gyflwynwyd gan y Llywydd ac Is-Ganghellor, Yr Athro Cara Aitchison i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd, profiad, gwybodaeth, hyder a gwydnwch.

Fel nifer o gyrsiau poblogaidd Met Caerdydd, darperir y BA (Anrh) Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Rheoli Arloesedd trwy nifer o fodiwlau cymwys-i-gyflogaeth gan gynnwys Yr Entrepreneur Gwerth-Ganolog; Mentora Busnes Newydd; Cyllid i Entrepreneuriaid; Asesu Syniad Busnes; Lansio Busnes Newydd; Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol a Gweithrediadau Busnes ac Arloesi er Twf.

Cyflwynwyd y cwrs yn dilyn ymrwymiad y Brifysgol i gynyddu darpariaeth Addysg Menter, ac yn benodol, llwyddiant Canolfan Entrepreneuriaeth y Brifysgol, a sefydlwyd gan arweinydd y cwrs, Natasha Hashimi. Cynigir lle ar y safle i fyfyrwyr y cwrs i ddatblygu eu busnes ohono gan Ysgol Reoli Caerdydd. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hefyd yn elwa o gael eu haddysgu gan Natasha, sy’n meddu ar doreth o arbenigedd busnes ac Addysg Entrepreneuriaeth.

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd ar gyrsiau amrywiol wedi profi llwyddiant ar ôl defnyddio’r gefnogaeth gan ddarpariaeth Addysg Entrepreneuriaeth y Brifysgol.

Cychwynnodd Dominic Bonaker asiantaeth datblygu gwe Odyssey, gan weithio ochr yn ochr â’i gyd-raddedigion Josh Richards ac Yusef Yarmohamed. Ers graddio, mae Josh Richards wedi dychwelyd i Met Caerdydd i draddodi darlithoedd gwadd ar gyfer modiwlau busnes gyda Natasha Hashimi.

Ochr yn ochr ag addysgu gwybodaeth ddamcaniaethol ynghlwm â rhedeg busnes ac entrepreneuriaeth, caiff myfyrwyr eu paru â mentoriaid o’r gymuned fusnes leol sydd wedi bod drwy’r broses cychwyn busnes ac sy’n rhedeg busnes mewn maes tebyg i’r un y maen nhw’n bwriadu ei lansio.

Dywedodd Mrs Hashimi: "Mae’r rhaglen arloesol hon yn gyfle cyffrous i ddarpar fyfyrwyr-entrepreneuriaid a’r Brifysgol ill dau. Mae gennym entrepreneuriaid gwych yn y DU a bydd y rhaglen hon yn rhoi’r cyfle iddyn nhw i wir weld eu hunain fel entrepreneuriaid y dyfodol ac i lansio eu menter busnes, wrth astudio am radd. Mae gan Met Caerdydd arbenigedd helaeth a gaiff ei ddefnyddio o fewn y rhaglen hon ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ehangu ein rhwydwaith o entrepreneuriaid.

"Mae cymaint o bobl sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain ond nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau. Mae hwn yn rhoi dull cyflawn iddyn nhw ac yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol yn ogystal â chefnogaeth fusnes amhrisiadwy. Erbyn y byddan nhw’n graddio, byddan nhw wedi cychwyn eu busnes eu hunain ac yn gallu canolbwyntio ar dwf cynaliadwy."