Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn Penodi Arweinwyr Academïau Byd-eang i Wneud Newid Ystyrlon

Met Caerdydd yn Penodi Arweinwyr Academïau Byd-eang i Wneud Newid Ystyrlon

​​Newyddion | 08 Mawrth, 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi penodi dau o'i huwch academyddion i arwain ei Academïau Byd-eang.

Fel rhan allweddol o Gynllun Strategol Met Caerdydd mae'r Academïau Byd-eang yn cynnig cyfleoedd addysg ac ymchwil ôl-raddedig o safon uchel sy'n cyfrannu gwahaniaeth cadarnhaol i rai o brif faterion sy'n wynebu cymdeithas heddiw.

Nod yr Academïau Byd-eang yw mynd i'r afael â heriau byd-eang a’i hadnabuwyd yn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a’r blaenoriaethau cenedlaethol a’u hamlygwyd yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Penodwyd yr Athro Diane Crone a'r Athro Andrew Walters i arwain yr Academïau Byd-eang ar gyfer Iechyd a Pherfformiad Dynol a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Bobl.

Mae’r Athro Crone yn darparu arweinyddiaeth academaidd fel Pennaeth yr Academi Fyd-eang mewn Iechyd a Pherfformiad Dynol. Mae'r Academi Fyd-eang hon yn cynnwys ymchwil ac arloesi sy'n canolbwyntio ar wella unigolion er budd y gymdeithas p'un a yw hyn yn mynd i'r afael â materion iechyd a chlefydau, gwella iechyd meddwl neu ddatblygu arweinwyr busnes.

Mae‘r Athro Crone yn Athro Ymarfer Corff ac Iechyd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd lle bu’n lansio'r ganolfan ymchwil CYIGLl yn ddiweddar. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ar y cyd yn y gymuned, gofal iechyd, y llywodraeth, y trydydd sector ac addysg uwch yn y DU, yr UE ac yn rhyngwladol.

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Diane: "Mae gan brifysgolion rôl sylweddol i’w chwaraen mewn cyd-greu atebion, gyda rhanddeiliaid a’r gymuned, i helpu i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf cymdeithas. Mae'r Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu'r cyfrwng perffaith i gyflawni hyn."

Mae’r Athro Walters yn darparu arweinyddiaeth academaidd fel Pennaeth yr Academi Fyd-eang Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Bobl. Mae'r Academi Fyd-eang hon yn cysylltu ein harbenigedd mewn dylunio a meddwl dylunio â thechnoleg, celf, pensaernïaeth a pholisi i fynd i'r afael ag ystod amrywiol o heriau byd-eang.

Mae’r Athro Walters yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn PDR ac wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad PDR i fod yn Ganolfan arobryn a byd enwog dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae hefyd yn arwain Grŵp Ymchwil Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr PDR ac ar hyn o bryd mae'n ymwneud â Rhaglen Clystyrau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau gwerth £5.6 miliwn ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, BBC Cymru, ITV Cymru, S4C a Ffilm Cymru.

Dywedodd yr Athro Walters: "Byddaf yn dod ag ymchwilwyr ac academyddion o bob rhan o’r sefydliad ynghyd i ddatblygu ein darpariaeth ymchwil ac ôl-raddedig mewn ffyrdd newydd.

Rwy’n bwriadu dod ag agwedd ddylunio, er mwyn cysylltu â phobl i ddarganfod beth yw eu hanghenion a sut mae’r anghenion hynny yn cyd-fynd ag anghenion ein rhanddeiliaid allanol. "

Dywedodd Leila Gouran, Cyfarwyddwr yr Academïau Byd-eang: "Rwy’n falch iawn o groesawu Diane ac Andrew i’r rolau newydd hanfodol hyn.

"Maen nhw'n arweinwyr ymchwil blaenllaw sy’n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth ymchwil gyda nhw.

"Rwy’n hyderus y byddant yn gweithio ar y cyd ar draws y Brifysgol a chyda rhanddeiliaid allanol i ddefnyddio ein harbenigedd a datblygu ymchwil, arloesi ac addysg newydd sy’n siŵr o helpu ein Academïau Byd-eang i fynd i’r afael yn llwyddiannus â’r prif faterion sy’n wynebu cymdeithas."