Hafan>Newyddion>Met Caerdydd a'r Adar Gleision yn Cydwiethio ar #DinasYnUn mewn rhaglen iechyd meddwl

Met Caerdydd a'r Adar Gleision yn Cydwiethio ar #DinasYnUn mewn rhaglen iechyd meddwl

​Newyddion | 25 Hydref 2022

Mae Dr Mikel Mellick, Prif Ddarlithydd ac Ymarferydd Seicoleg sy'n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl i athletwyr ym Mhrifysgol Met Caerdydd, wedi bod yn gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar ymgorffori agwedd 'clwb cyfan' at iechyd meddwl a lles. 

Yn gynharach y mis hwn, trefnodd Met Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ddigwyddiad clwb cyfan a oedd yn canolbwyntio ar yr her enbyd o ran sut y gall pob un ohonom reoli’n well iechyd meddwl a lles gweithlu sy’n gweithredu mewn amgylchedd deinamig, sydd o dan bwysau mawr yn aml, ac sy’n nodweddiadol adweithiol. Cyflwynwyd ymchwil ac arloesi ac ymarfer rhagorol ar y diwrnod gan arbenigwyr blaenllaw o Met Caerdydd, gan gynnwys yr Athro Stephen Mellalieu, Dr Charlie Corsby a Dr Huw Wiltshire ynghyd ag Osian Leader a Siân Edwards o bartner cenhadaeth ddinesig Met Caerdydd, School of Hard Knocks.

Roedd y digwyddiad, a oedd â mwy na 200 yn bresennol, hefyd yn cynnwys yr athletwr antur byd-enwog a’r deiliad record byd, Richard Parks, yn cyflwyno ar y ffordd y mae ef wedi dysgu i reoli ei les a’i iechyd meddwl gan ddefnyddio sgiliau ymdopi a ddatblygwyd ganddo o ganlyniad i sefyllfaoedd hynod heriol yn ei alldeithiau antur amrywiol. Roedd cynrychiolwyr partner cenhadaeth ddinesig Met Caerdydd hefyd yn bresennol o’r elusen Iechyd Meddwl mewn Pêl-droed GoAgain, ADAMAS, Platfform, School of Hard Knocks, LooseHeadz, The-You-Movement, Adran Swyddogion Gêm Elît Rygbi Lloegr, The Real Birth Organisation, Athletau Cymru ac Antarctic Fire Angels.

Dechreuodd y cydweithrediad arwyddocaol hwn ym mis Chwefror 2022, ac roedd gwaith cychwynnol Dr Mellick yn canolbwyntio ar gyfweld â chwaraewyr, rheolwyr, hyfforddwyr, a staff cymorth y chwaraewyr ar bob lefel o’r Clwb am y parodrwydd presennol i drafod anawsterau iechyd meddwl a’r strwythurau cymorth presennol sydd ar gael. Nododd gwaith cynnar Dr Mellick ddiwylliant chwaraewyr a oedd am allu siarad yn agored am heriau iechyd meddwl mewn pêl-droed ond efallai nad oedd ganddo’r geiriau i wneud hynny'n hyderus. Pan ddaeth heriau iechyd meddwl i'r amlwg, roedd hi’n glir mai'r ffisiotherapyddion neu'r staff meddygol y ceisiwyd amdanynt ar gyfer y datgelu cychwynnol. Amlygodd y gwaith cynnar hwn hefyd y rôl hanfodol a fabwysiadwyd gan uwch chwaraewyr wrth gefnogi cyd-chwaraewyr yn ystod cyfnodau anodd. 

Gan gydweithio’n agos â Chyfarwyddwr Meddygol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yr Athro Len Nokes, a’r Swyddog Gweithredol Cymorth Pêl-droed, Lee Southernwood, rhoddodd y Clwb, mewn cydweithrediad pellach â staff Met Caerdydd, raglen hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar waith ar gyfer y clwb cyfan a phroses ymgysylltu ac atgyfeirio i ymarferwyr iechyd meddwl. Wrth ddilyn cwrs hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl deuddydd o hyd, dan arweiniad Dr Mellick, cafodd y chwaraewyr, y rheolwyr a’r staff meddygol y sgiliau sylfaenol i adnabod chwaraewyr a chydweithwyr a allai fod yn profi anawsterau iechyd meddwl, ac i ymateb yn briodol iddynt.

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant hwn, dywedodd Rheolwr Dros Dro Dinas Caerdydd, Mark Hudson, am y digwyddiad: “Mae ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl yn hynod bwysig, ac mae'n rhywbeth y mae fy nheulu a minnau'n ei werthfawrogi. Mae'n hynod bwysig bod y Clwb wedi cynnal y digwyddiad hwn gyda Met Caerdydd ac rydym am barhau â'r mudiad.

“Mae’n siŵr yr oedd cefnogaeth ar gael pan oeddwn i’n chwaraewr, ond roedd yn anodd iawn dod o hyd iddo. Mae pêl-droed, a'n clwb ni’n arbennig, yn ceisio agor llwybrau ar gyfer cymorth hygyrch; mae ar gael pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Mae Len a Mikel wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth wthio'r digwyddiad hwn ac rydw i wedi bod yn hapus iawn i'w gefnogi. Mae wedi fy helpu i adnabod yr arwyddion a’r symptomau i chwilio amdanynt, a ble i arwain pobl; cerddais i mewn a gweld bron pob aelod o staff ar draws y clwb, a dyna beth mae’n rhaid i ymwybyddiaeth a chefnogaeth iechyd meddwl fod: agwedd clwb cyfan.”

Dywedodd Dr Mikel Mellick: “Mae Met Caerdydd yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i ddarparu hyfforddiant iechyd meddwl, ymarferwyr iechyd meddwl a rhwydwaith atgyfeirio clinigol. 

Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n cynyddu dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl mewn pêl-droed ac yn rhoi’r adnoddau i staff cymorth y chwaraewyr helpu chwaraewyr mewn trallod yn fwy hyderus a’u cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl proffesiynol priodol mewn modd amserol. Y ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy ddull clwb cyfan, ac rwy’n croesawu ymrwymiad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i’r ymdrech hon.” 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Meddygol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yr Athro Len Nokes: “Mae pêl-droedwyr proffesiynol yn profi set unigryw o bwysau: o bwysau ymdrechu am lwyddiant i anawsterau perfformiad ac anafiadau, i wynebu sylw gan y cyfryngau a pharatoi ar gyfer ymddeol. Drwy helpu rheolwyr a staff cymorth y chwaraewyr i ddeall y sbardunau’n well ac adnabod arwyddion cynnar y pwysau hwn, mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn datblygu rhwydwaith cymorth cryfach a chynharach o gwmpas ein chwaraewyr.” 

Ychwanegodd yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Chwaraeon ym Met Caerdydd: “Fel prifysgol, rydym yn ymroddedig i gydweithio’n dosturiol i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol o wella iechyd meddwl a lles mewn chwaraeon ac ar draws ystod eang o amgylcheddau heriol. Mae’n wych bod Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn cymryd y llyw yn y maes hollbwysig hwn.”

O ran datblygu’r cydweithio hwn ymhellach, mae Met Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd nawr yn gobeithio cynnig mynediad amserol at gymorth iechyd meddwl a lles ar draws pob lefel chwarae gan gynnwys cynnig clinigau iechyd meddwl ar y safle. Maen nhw hefyd yn datblygu rhaglen lles ac iechyd meddwl chwaraewyr 'newydd' ac yn cyflwyno ymyriadau seicoleg cadarnhaol ar draws y Clwb cyfan ar gyfer yr holl staff sydd ei angen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Ken Choo: “Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Dr Mellick, Len a phawb a fu’n rhan o’r cydweithio hwn, ac yn wir am yr ymdrechion ar y diwrnod er lles a budd ein holl staff. Hoffwn hefyd ddiolch i Brifysgol Met Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at gryfhau ein partneriaeth gyda’n gilydd yn y maes gwaith a datblygu pwysig hwn er mwyn gwella lles ein pobl.”

Os yw unrhyw un o’r materion a godwyd yn y stori hon yn effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael: 

  • Mae Llinell Wybodaeth Mind ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb a 6yp; i gysylltu â nhw ffoniwch 0300 123 3393.
  • Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando sydd ar agor 24 awr y dydd ar 116 123 (yn y DU ac Iwerddon mae’r rhif hwn yn rhad ac am ddim i’w ffonio ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil).
  • Mae CALL (Llinell Cyngor Cymunedol a Gwrando) yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru a gallwch gysylltu â nhw ar 0800 132 737 neu drwy www.callhelpline.org.uk
  • Mae'r GIG yn cynnig cymorth a chyngor drwy ei wasanaeth 111.