Newyddion | 22 Tachwedd 2024
Mae tîm CEIC Met Caerdydd wedi cael canmoliaeth uchel fel Arweinydd Meddwl Arloesi yng Ngwobrau Arloesi 2024.
Mae’r Gwobrau
The Innovation Awards yn cydnabod, dathlu a gwobrwyo’r cwmnïau a’r sefydliadau hynny sy’n ymroddedig i arloesi. Ers ei seremoni agoriadol yn 2021, mae’r gwobrau wedi gwerthu allan bob blwyddyn, gyda nifer o enwebiadau yn torri record ar gyfer 2024.
Mae’r categori Arweinyddiaeth Meddwl yn gwobrwyo busnesau a sefydliadau sy’n cefnogi eraill i arloesi drwy gyllid, cyfleusterau a llwyfannau ysbrydoledig.
Canmolwyd CEIC yn fawr am ei waith yn cefnogi 191 o ymarferwyr ar draws 81 o sefydliadau i gyd-gynhyrchu atebion ar gyfer sero net a’r economi gylchol. Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi creu 28 o arloesiadau sydd wedi arbed mwy na £100,000 a dros 2,600kg o allyriadau CO2.
Mae
CEIC yn brosiect cydweithredol rhwng Met Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, a’n cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) ac mae’n dwyn ynghyd sefydliadau o bob sector ledled Cymru i greu rhwydweithiau arloesi cydweithredol sy’n gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Ers ei lansio yn 2020, mae CEIC wedi cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae i ddatblygu atebion gwasanaeth newydd a chyflwyno manteision economi gylchol. Mae effaith y prosiect wedi cael ei ddathlu gan Lywodraeth Cymru a’i ddogfennu o fewn 10 papur a adolygwyd gan gymheiriaid, gyda’i lwyddiant yn arwain at gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac
UKSPF.
Wrth sôn am y gymeradwyaeth, dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Dr Gary Walpole: “Roeddem yn hynod falch o gael ein cydnabod fel Arweinydd Meddwl Arloesi yng Ngwobrau Arloesi 2024 gan ein bod yn cystadlu yn erbyn sefydliadau o bob rhan o’r DU. Mae’n wych bod yr effaith gadarnhaol rydym yn ei chael ar sefydliadau yng Nghymru bellach yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol.”
Dysgwch fwy am CEIC a’r gwaith y mae’n ei wneud drwy gefnogi sefydliadau i symud tuag at net sero, cynyddu effeithlonrwydd, costau gweithredol is ac annog meddwl arloesol.