Medi 02, 2019
Mae rhaglen uchelgeisiol i ysgogi arloesedd yn y sector creadigol wedi dyfarnu cyfanswm o £1m mewn grantiau i 23 o fusnesau yn ne Cymru.
Mae Clwstwr – o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd – yn rhaglen ymchwil a datblygu pum mlynedd o hyd sydd â'r nod o feithrin canolfan gynhyrchu'r cyfryngau o amgylch prifddinas Cymru. Mae wedi'i hariannu drwy Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ac arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, a galwodd am ymgeiswyr am y tro cyntaf yn gynharach eleni. Yn dilyn proses hynod gystadleuol, dewiswyd y garfan gyntaf.
Mae cwmnïau ffilm a theledu, busnesau technoleg, sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd ymysg y rhai fydd yn derbyn arian ac yn gweithio gydag academyddion i ddatblygu eu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd.
Mae'r prosiectau cychwynnol yn cynnwys gwasanaeth newyddion ar gyfer ysgolion, cyfleusterau golygu o bell i dyfu'r sector ôl-gynhyrchu yn y rhanbarth, a defnyddio technoleg i drawsnewid y ffyrdd y mae pobl yn creu a phrofi dawns. Bydd cyfranogwyr yn ymchwilio i fformatau newydd ar gyfer adrodd storïau gan gynnwys dogfennau rhyngweithiol, gemau afliniol a hybrid rhwng ffilm, teledu, theatr a gemau realiti amgen. Bydd y garfan yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau sy'n cynnwys deallusrwydd artiffisial yn yr ystafell newyddion, canolfan ar gyfer cynnwys pêl-droed menywod a stiwdio ffilmiau realiti rhithwir.
Yn ôl cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: "Mae ein carfan Clwstwr gyntaf yn cynnig amrywiaeth gyffrous o brosiectau ac mae safon y ceisiadau a ddaeth i law yn brawf o'r sector cyfryngau lewyrchus sydd yma yn ne Cymru. Yn ogystal â gwella'r diwydiannau sgrîn a newyddion, mae gan y prosiectau a ddewisir hefyd y potensial i wella sectorau eraill fel addysg, gofal iechyd a busnes.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r garfan wrth iddynt droi eu syniadau'n gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau cyffrous fydd yn rhoi gwell cyfleoedd iddynt dyfu ac y byddant, yn eu tro, yn helpu i sicrhau enw da cynyddol de Cymru fel canolfan cynhyrchu ac arloesedd ar gyfer y cyfryngau."
Meddai'r Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru: "Mae'r diwydiannau creadigol yn werth bron i £1 biliwn i Gymru bob blwyddyn ac mae'n un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae Cymru wedi mwynhau mwy o lwyddiant nag erioed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu i ddenu a chynhyrchu dramâu teledu llwyddiannus, ffilmiau a llwyth o bethau eraill. Mae'n arddangos Cymru i'r byd ac yn cefnogi swyddi lleol a rhoi hwb i'r economi ar yr un pryd.
"Rydym ar adeg dyngedfennol pan mae sawl cyfle yn dod ynghyd. Os bydd y gefnogaeth gywir ar gael dros y blynyddoedd nesaf, gall y diwydiant fynd o nerth i nerth gan gynnig hyd yn oed yn fwy o fanteision i Gymru.
"Rydym yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn Ymchwil a Datblygu yn y Diwydiannau Creadigol ac yn falch o allu cynnig yr arian cyfatebol a helpodd i sicrhau'r rhaglen i Gymru."
Mae'r Clwstwr yn dod â holl brif ddarlledwyr Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru ynghyd â chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu annibynnol, cwmnïau cenedlaethol a chyrff creadigol Cymru, mannau cydweithio creadigol, cwmnïau technegol newydd, asiantaethau strategol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Caerdydd a'r llywodraeth at ei gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y garfan gyntaf, ewch i
www.clwstwr.org.uk
Dyma'r prosiectau Clwstwr sydd wedi eu hariannu gyntaf:
Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion (AMPYFI)
Bombastic Digi Platform (Bombastic)
CaseFinder (Caerphilly Media)
Creu Platfform Newydd ar gyfer Rheoli Cynyrchiadau (Stiwdio Bait)
Prosiect Ffilm a Gemau (Severn Screen)
FutureNews Labs (Tinint)
Dweud Storïau'n Dameidiog, wedi'u Geoleoli (Yello Brick)
Canolfan Pêl-droed Menywod Ryngwladol (Nimble Productions)
Image Vision (Object Matrix)
Fformat Rhaglenni Dogfen Rhyngweithiol (Hidden Narratives)
Life Lab (Martha Stone Productions)
Gwnaed yng Nghymru (Film Hub Cymru)
Moving Layers (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru)
Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd (Monnow Media)
Ffurfweddu 3D mewn Amser Real (Bomper Studio)
Rendro mewn Amser Real / Hyrwyddo Rhyngweithiol (Good Gate Media)