Hafan>Newyddion>'Blychau Potensial' yn cyflwyno ffordd hwyliog o ailgysylltu â dysgu

'Blychau Potensial' yn cyflwyno ffordd hwyliog o ailgysylltu â dysgu

Newyddion | 7 Mehefin 2021

 
Blychau o Botensial


Mae Campws Cyntaf, Ymgyrraedd yn Ehangach yn rhoi creadigrwydd a hwb i iechyd meddwl yn rhodd i blant yn ne-ddwyrain Cymru, diolch i ddosbarthiad ei 'Blwch Potensial' diweddaraf.

Pecynnau gweithgaredd â thema yw’r Blychau Potensial a gaiff eu creu a’u dosbarthu gan dîm Campws Cyntaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i blant Cyfnod Allweddol 2 mewn ysgolion a lleoliadau addysgol/gofal eraill yn y gymuned. Maen nhw’n cynnig gweithgareddau gwahanol, hwyliog ac addysgol i helpu plant rhwng 7-11 oed ymgysylltu â'r byd go iawn yn hytrach na thrwy sgrin, a mynd i'r afael â rhywfaint o'r amharu addysgol a chymdeithasol a achoswyd gan Covid.

Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach CCAUC ar gyfer De Ddwyrain Cymru yw Campws Cyntaf; partneriaeth rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nod y Bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth, lleihau rhwystrau a chreu llwybrau i Addysg Uwch ar gyfer grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ne-ddwyrain Cymru, trwy ddarparu cyfleoedd dysgu cynaliadwy, hirdymor.

Datblygwyd yr holl weithgareddau yn y blychau ochr yn ochr ag academyddion a myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, er mwyn bod y plant yn medru dysgu pethau sy’n uniongyrchol drosglwyddadwy i fywyd Prifysgol.

Eglura Ellie Bevan, Rheolwr Campws Cyntaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Pan darodd y pandemig fis Mawrth diwethaf, fe wnaethom archwilio’r ffordd orau o ennyn diddordeb plant a phobl ifanc a effeithiwyd arnynt gan unigedd a dysgu o bell ar ein rhaglenni.

"Ein syniad cyntaf oedd symud rhaglenni ar-lein, ond gwelsom fod plant yn cael eu gorlethu’n llwyr gan gynnwys digidol gan fod bron popeth yn eu bywydau wedi symud ar-lein - ysgol, gweithgareddau allgyrsiol, a chymdeithasu hyd yn oed. Felly roeddem eisiau darparu gweithgareddau gwahanol, hwyliog ac addysgol y gallent ymwneud â nhw yn y byd go iawn, yn hytrach na thrwy sgrin.

"Fe gynhaliom raglen haf gyda nifer o ysgolion cynradd lleol ar raddfa lai fel rhan o Garfan Haf Cyngor Caerdydd, a chawsom adborth gwych gan staff a phlant yr ysgol. Fe’n hysbrydolwyd gan hynny i ddatblygu rhaglen ymgysylltu tymor hwy, ac felly ganed y rhaglen Blychau Potensial.

"Rydym wedi dosbarthu bron i 4,000 o flychau yn gyfan gwbl ar draws y tri Blwch Potensial hyd yn hyn, gan dyfu’n esbonyddol o 700 ar gyfer Blwch 1, i 1,200 ar gyfer Blwch 2, a nawr 2,000 ar gyfer Blwch 3."

Â’i thema ar gynaliadwyedd, mae'r Blwch Potensial diweddaraf hwn yn cynnwys y llyfr newydd gan yr ymgyrchydd hinsawdd ifanc a'r model rôl Greta Thunberg, wedi’i ddylunio i ysbrydoli pobl ifanc i gredu y gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.

Ymysg y cynhwysion eraill y mae hadau blodau gwyllt a chlai i wneud 'bomiau gwenyn' (peli hadau blodau gwyllt brodorol), bingo cynaliadwyedd, a gweithgareddau 'tynnu llun eich taith' a 'fy nghymuned' i helpu'r plant i deimlo cysylltiad â'u hamgylchedd lleol.

Gan nad oes gan lawer o blant fynediad at yr adnoddau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, mae pob Blwch Potensial yn cynnwys yr holl offer a chyfarwyddiadau angenrheidiol, ynghyd â dwy astudiaeth achos gan israddedigion cyfredol neu raddedigion diweddar sy'n astudio maes pwnc perthnasol. Yna gall y plant gadw unrhyw adnoddau nas defnyddiwyd i'w defnyddio yn y dyfodol.

Dyma'r trydydd Blwch Potensial a gafodd eu dosbarthu ar hyd y flwyddyn ddiwethaf hyd yma, pob un yn gysylltiedig ag ysgol neu adran academaidd, neu faes ffocws allweddol, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae'r rhain wedi cynnwys celf a dylunio, lle anogwyd plant i greu ac argraffu eu papur lapio eu hunain, a chwaraeon, iechyd a lles, gyda gweithgareddau’n cynnwys aromatherapi ac adweitheg a her i ddylunio eu cit eu hunain ar gyfer camp o’u dewis.

Mae'r rhaglen Blychau Potensial yn cyd-fynd â nodau ehangach y rhaglen Campws Cyntaf, sef cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu i helpu agor llygaid plant i'r posibilrwydd o addysg brifysgol, lle mae rhwystrau, go iawn neu ganfyddedig, yn bodoli. Fe'i cynlluniwyd hefyd i roi gwell dealltwriaeth iddynt o ehangder a manylder y meysydd pwnc y gallent o bosibl eu hastudio.

Er bod mwyafrif y plant sy'n cymryd rhan yn y rhaglen Blychau Potensial yn gwneud hynny yn ystod amser dosbarth yn eu hysgolion, gall pobl ifanc â phrofiad gofalu a gofalwyr ifanc hefyd gofrestru i dderbyn blwch - naill ai'n unigol neu trwy sefydliadau partner Campws Cyntaf fel yr YMCA, Barnardo's ac Awdurdodau Lleol - er mwyn cymryd rhan gartref. Golyga hyn y gall y prosiect estyn allan yn ehangach i grwpiau o bobl ifanc a effeithiwyd yn andwyol arnynt yn sylweddol gan Covid a darparu profiad dysgu cadarnhaol.

Roedd Ysgol Gynradd Parc Ninian yng Nghaerdydd ymhlith 16 o ysgolion cynradd a bron i 2,000 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 i dderbyn y Blwch Potensial diweddaraf. Dywedodd y Pennaeth Jenny Scott: "Mae'r Blychau Potensial wedi caniatáu inni wella ein cwricwlwm lles ymhellach ar adeg pan mae hyn ar flaen ein meddyliau. Maent wedi cefnogi ein plant trwy gyfnod clo a dysgu o bell, i'r pontio’n ôl i'r ysgol a thu hwnt. 

"Mae pob blwch â thema wedi caniatáu inni helpu ein disgyblion i fynegi eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd dyfeisgar, canolbwyntio ar eu lles corfforol a meddyliol a deall sut mae'r ddau wedi'u cysylltu. Mae'r cyfle i rannu'r gweithgareddau gyda threfnwyr prosiect Campws Cyntaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi rhoi hyd yn oed yn fwy o bwrpas a phwysigrwydd i dasgau a gweithgareddau."   

Wrth sôn am Flychau Potensial blaenorol a ddosbarthwyd i'w disgyblion, dywedodd Karen Brown, Pennaeth Ysgol Gynradd Millbank: "Rydyn ni wedi’n cyffroi i fod yn rhan o'r prosiect hwn. Roedd y Blychau lles wedi'u hamseru'n berffaith i gyrraedd y plant yn fuan ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ysgol wedi’r cyfnod clo. Roeddent yn hoff iawn o'r adnoddau a'r syniadau i helpu gyda ffitrwydd, fel conau a bagiau ffa, a chydag ymwybyddiaeth ofalgar, fel olewau naws a bagiau bach o berlysiau. Golyga hyn y gellir ailadrodd gartref y pethau rydyn ni'n eu gwneud yn yr ysgol i ddysgu iechyd da a lles, i'r plant a'u rhieni."

Dywedodd Kyle Boddy, athro yn Ysgol Gynradd Meadowlane: "Mae'r Blychau Potensial rydyn ni wedi'u derbyn hyd yn hyn wedi bod yn hollol wych. Mae mwy na 130 o blant wedi gallu archwilio adnoddau newydd a phrofiadau dysgu anhygoel newydd, ac fe wnaethant fwynhau argraffu eu papur lapio Nadolig eu hunain yn nhymor yr hydref yn arbennig. Maent wedi mwynhau cymryd rhan yn fawr ac yn edrych ymlaen at flychau’r dyfodol." 

Disgwylir i'r pedwerydd Blwch Potensial gael ei ddosbarthu yn ystod ail hanner tymor yr haf.