Hafan>Newyddion>Teithio bacpacio yn rhoi’r hyder i fyfyrwyr wneud cais i’r Brifysgol

Teithio bacpacio yn rhoi’r hyder i fyfyrwyr wneud cais i’r Brifysgol

Newyddion | 15 Awst 2024

Doedd gan Sophie Bowen-Evans, 21, ddim unrhyw gynlluniau i fynd i’r brifysgol pan orffennodd y chweched dosbarth yn 2021. Roedd ganddi docyn un ffordd wedi’i archebu i deithio’r byd ac aeth yn syth ar ôl gorffen ei chyrsiau Safon Uwch.

Fodd bynnag, tair blynedd wedi hynny, mae Sophie ar fin gorffen ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle mae’n astudio Gradd BA (Anrh) – Rheoli Twristiaeth Ryngwladol – wedi iddi wneud cais drwy Clirio.

Sophie Bowen-Evans 

“Es i ysgol ramadeg lle’r oedd tipyn o bwysau ar fynychu’r brifysgol, a phrin anogaeth i wneud rhywbeth gwahanol,” dywedodd Sophie. “Roedd hyd yn oed fy athrawon yn yr ysgol wedi cytuno na fyddai bywyd prifysgol yn addas i mi, felly roedd yn rhywbeth nad oeddwn hyd yn oed yn ei ystyried. Cyn gynted ag y gorffennais yn y coleg, arbedais ychydig o arian a fy nghynllun oedd mynd i deithio.

“Roeddwn yn bacpacio pan newidiais fy meddwl am fynd i’r brifysgol. Rydych chi’n cwrdd â chymaint o bobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd tra byddwch i ffwrdd, ac mae’n agor eich llygaid. Trwy hyn a siarad â phobl eraill y cefais fy hun yn myfyrio ar yr hyn yr hoffwn ei wneud yn y tymor hwy – ar y pwynt hwn, doedd gen i ddim cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Mae Clirio yn ddull arall o wneud cais drwy UCAS, sy’n dechrau ar 5 Gorffennaf 2024, ac yn parhau hyd ddiwedd mis Medi. Mae’n caniatáu i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto drwy UCAS, efallai na chawsant y graddau yr oeddent yn eu disgwyl neu sydd wedi newid eu meddwl ac wedi penderfynu mynd i’r brifysgol yn ddiweddarach, i allu gwneud cais.

“Es i deithio ym mis Ionawr ar ôl gorffen yn yr ysgol ac ar ôl tua chwe mis o deithio penderfynais fy mod am wneud cais i’r brifysgol. Fe wnes i gais ym mis Gorffennaf, felly yn hwyrach na’r rhan fwyaf o fyfyrwyr chweched dosbarth, ond cyn diwrnod canlyniadau Safon Uwch, ac roedd y broses gyfan yn gyflym ac yn hawdd iawn.”

Roedd Sophie, sy’n wreiddiol o Marlow, Sir Buckinham, wedi gwirioni ar deithio a gweld y byd ers iddi fod yn ifanc – ar ôl teithio am chwe mis yn 10 oed gyda’i rhieni a’i brodyr a’i chwiorydd. Mae rhieni Sophie, yn wreiddiol o Ddinbych-y-pysgod, ac felly mae Cymru wastad wedi bod yn agos at ei chalon.

“Roedd Met Caerdydd yn teimlo fel y dewis cywir i mi am lawer o resymau. Mae fy rhieni yn wreiddiol o Ddinbych-y-pysgod, felly roeddwn wedi treulio llawer o amser yn Ne Cymru fel plentyn. Mae Caerdydd yn ddinas gwych, ac roedd y cwrs twristiaeth ym Met Caerdydd yn cynnig popeth roeddwn eisiau.”

I fyfyrwyr eraill sydd ddim yn siŵr am fynd i’r brifysgol, dyma gyngor gan Sophie: “Beth sydd gennych i golli? Taflwch eich hun yn syth ynddo. Hyd yn oed os ydych yn rhoi cynnig arni, a ddim yn ei hoffi, mae hynny’n iawn. Ond efallai, byddwch yn dod i ddeall eich bod yn ei hoffi, mae’n agor eich llygaid a byddwch yn cael profiadau newydd ar hyd y ffordd. Ni fyddwch byth yn gwneud unrhyw beth fel profiad yn y brifysgol eto, felly rhowch gynnig arni.”

Mae rhagor o gyngor ar Clirio a sut i wneud cais ar gael ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.