Hafan>Newyddion>Penodi llywodraethwyr annibynnol newydd

Penodi llywodraethwyr annibynnol newydd

Datganiad | 1 Tachwedd 2021

Mae Met Caerdydd wedi penodi chwe Aelod Annibynnol newydd i Fwrdd y Llywodraethwyr yn ddiweddar.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol yn gyfrifol am lywodraethu da a chyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad.

Wrth sôn am y penodiadau, dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd: "Mae'r llywodraethwyr annibynnol newydd hyn yn ymuno â Bwrdd cryf a phrifysgol sy'n cael ei gyrru gan berfformiad ac sy'n dosturiol wrth wasanaethu Cymru a'r byd ehangach. Mae llywodraethwyr yn allweddol wrth sicrhau y caf innau a’m tîm ein craffu arnom a’n herio ac wrth gefnogi'r brifysgol i gyflawni ei huchelgeisiau, sef twf, arallgyfeirio a gwelliannau, gyda’n sefyllfa ariannol gadarn yn sail iddynt.

"Dathlwyd llawer o lwyddiannau gennym dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys gwelliannau sylweddol yn y tablau cynghrair a chael ein gwobrwyo â’r teitl ‘Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan The Times a The Sunday Times’. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi derbyn myfyrwyr i fwy na 40 o raglenni gradd newydd gan gynnwys Pensaernïaeth, y Gyfraith, Astudiaethau Plismona a'n BA Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig newydd, sydd bellach yn golygu mai ni yw darparwr addysg gychwynnol i athrawon mwyaf Cymru.

"Mae ein Hysgol Dechnolegau Caerdydd newydd yn ymateb i angen cyflogwyr a galw gan fyfyrwyr mewn meysydd a fydd yn cefnogi adferiad economaidd rhag y pandemig, tra bo’n meysydd sefydledig, sef y Proffesiynau Iechyd a Biowyddorau, y barnwyd eu bod ar y brig yng Nghymru yn ddiweddar yn y Guardian League Table, yn parhau i gyfrannu at yr ymdrechion rheng flaen i frwydro yn erbyn Covid.

"Mae ein gallu parhaus i gael effaith pellgyrhaeddol ar y gymdeithas a'r economi’n dibynnu ar lywodraethu da, arweinyddiaeth strategol a rheolaeth dosturiol a hoffwn estyn croeso cynnes iawn i aelodau newydd ein Bwrdd gan yr holl staff a chorff y myfyrwyr."

Ychwanegodd John Taylor, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: "Mae Bwrdd y Llywodraethwyr yn rhan hanfodol o lywodraethu strategol Met Caerdydd ac rydym yn falch iawn o groesawu'r unigolion hynod fedrus a phrofiadol hyn.

"Rwy'n sicr y byddant i gyd yn darparu cyngor, arweiniad a beirniadaeth unigryw i'r corff Llywodraethu dros y blynyddoedd academaidd nesaf."

Y chwe llywodraethwr annibynnol newydd yw:

Roisin Connolly
Yn Uwch Ymgynghorydd Rheoli yn Accenture ers 2012, mae Roisin yn rhoi cyfeiriad strategol i uwch reolwyr, a bydd yn aml yn canolbwyntio ar raglenni gwaith anodd gan gynnwys trawsnewid digidol neu gynhwysiant, amrywiaeth a mesurau ymddygiadol i wella a gwneud sefydliad yn fwy effeithiol.
Yn frwd dros gael mwy o fenywod i mewn i fyd technoleg, mae Roisin yn siarad mewn digwyddiadau ac ysgolion yn rheolaidd i ddadlau dros yrfaoedd yn y maes hwn.

Karen Fiagbe
Mae gan Karen brofiad helaeth yn y sector cyhoeddus; mae’n gweithio yng Nghyngor Lewisham ar hyn o bryd fel Pennaeth Dros Dro’r Economi a Phartneriaethau, ac mae ganddi brofiad blaenorol yng Nghyngor Croydon ac mewn rolau cynt fel llywodraethwr mewn ysgol gynradd ac ar fyrddau rhanbarth gwella busnes.

 phrofiad helaeth yn y gymuned ac yn cefnogi'r boblogaeth leol, mae Karen wedi gweithio gydag amrywiaeth o gyrff i arloesi a datblygu dinas-ranbarthau.

Christopher Pilgrim
 phrofiad yn y DU a thramor, mae Chris wedi datblygu sgiliau sylweddol mewn Adnoddau Dynol yn ExxonMobil, Shell ac E.on-Npower. Gan ganolbwyntio ar arwain newid mewn diwylliant ac ymddygiad, mae Chris wedi meithrin perthnasoedd ar sail ymddiriedaeth a hygrededd ar draws y sefydliadau y bu’n rhan ohonynt.

Mae Chris wedi dal nifer o rolau Cyfarwyddwr Anweithredol a Gweithredol. Yn nodedig, ef yw Cadeirydd y Corff Adolygu Cyflogau Meddygon a Deintyddion a’r Prif Swyddog Adnoddau Dynol a Phobl yn E.on-Npower ar hyn o bryd.

David Surdeau
Mae David wedi cael gyrfa fyd-eang sylweddol, gan dreulio amser mewn amryw wledydd, gan gynnwys Hwngari, UDA, a De Korea. Mae’r profiad helaeth hwn wedi rhoi dealltwriaeth ddiwylliannol eang iddo, yn ogystal â'r gallu i feithrin perthnasoedd ledled y byd.

Ar hyn o bryd, mae David yn Brif Swyddog Cyllid dros dro ar gyfer M&S ac mae hefyd wedi dal amrywiaeth o rolau cyllid uwch yn Tesco.

Defnyddiwyd cefndir David mewn cyllid yng Ngholeg Newham ym maes addysg bellach, lle bu’n gweithredu fel Llywodraethwr, Is-gadeirydd, a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.

Alison Thorne
Yn dilyn gyrfa manwerthu masnachol lwyddiannus fel cyfarwyddwr gweithredol mewn cwmnïau rhestredig a phreifat, datblygodd Alison ail yrfa mewn chwilio gweithredol a datblygu busnes fel Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr atconnect. Mae Alison yn frwd am fentora a datblygu pobl, ac mae hi hefyd wedi arwain astudiaethau ôl-raddedig yng Ngholeg Ffasiwn Llundain.  

Mae Alison wedi bod yn ymddiriedolwr gyda Chwarae Teg ers 2016 ac yn Gadeirydd o 2019. Mae hi hefyd yn Aelod Panel Annibynnol Arbennig ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ac yn aelod Bwrdd yn Chwaraeon Cymru. 

Matthew Tossell
Fel Partner Rheoli Hugh James o 1999 i 2011 a Phrif Weithredwr Hugh James Involegal LLP o 2011 hyd heddiw, mae Matthew wedi cael gyrfa gyfreithiol nodedig, gan adeiladu sylfaen sylweddol o gleientiaid, a thrawsnewid y busnes i fod yn fwy digidol.

Ers sefydlu Academi Hyfforddi Hugh James, mae Matthew wedi datblygu perthnasoedd â sefydliadau addysgol amrywiol yn y ddinas i ddarparu hyfforddiant pwrpasol.

Wedi'i benodi'n ddiweddar i Fwrdd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd Matthew yn cynrychioli buddiannau busnes y ddinas wrth i’r rhanbarth gael ei ddatblygu.