Hafan>Newyddion>Penodi'r Athro Rachael Langford i'r uwch dîm reoli

Met Caerdydd yn penodi'r Athro Rachael Langford i'r uwch dîm reoli

Newyddion | 25 Mai, 2021

Cardiff Metropolitan University
Yr Athro Rachael Langford

Mae'n bleser gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyhoeddi penodiad yr Athro Rachael Langford i swydd Dirprwy’r Is-Ganghellor.

Bydd yr Athro Langford yn ymgymryd â'i swydd newydd fel rhan o'r tîm arwain ym Met Caerdydd ar 1 Medi 2021. 

Mae'r Athro Langford yn Ddirprwy Is-Ganghellor Recriwtio Rhyngwladol ac yn Ddeon Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Ffrangeg o Brifysgol Rhydychen, PhD mewn Astudiaethau Diwylliannol Ffrangeg o Brifysgol Caergrawnt ac mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddysgu, addysgu ac ymchwil yn ystod deng mlynedd ar hugain ei gyrfa.

Mae Dirprwy newydd yr Is-Ganghellor ym Met Caerdydd yn hen gyfarwydd â Chaerdydd. O 1996 hyd 2019, fe’i cyflogwyd ym Mhrifysgol Caerdydd fel Darlithydd (1996-2005), Uwch Ddarlithydd (2005-2012) a Darllenydd (2012-2016) mewn Astudiaethau Ffrangeg, ac enillodd ei Chadair mewn Astudiaethau Ffrengig a Ffrangeg yn 2016 cyn dod yn Bennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd yn yr un flwyddyn. 

Yn 2019, symudodd yr Athro Langford i Brifysgol Oxford Brookes lle mae'n aelod o'r uwch dîm arwain a chanddi gyfrifoldeb strategol, cyllidebol a gweithredol am bum Ysgol academaidd (21 maes) ac un ymgynghoriaeth fasnachol yn ogystal â’i dyletswydd prifysgol gyfan am recriwtio rhyngwladol.

Bydd Dirprwy newydd yr Is-Ganghellor yn ymuno ag uwch dîm arwain presennol y Brifysgol o dan arweiniad y Llywydd a’r Is-Ganghellor, yr Athro Cara Aitchison.

Meddai’r Athro Cara Aitchison, wrth drafod y penodiad: “Rwy’n falch iawn o gael croesawu’r Athro Langford i’r tîm arwain yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

“Rwy’n credu ein bod wedi penodi arweinydd profiadol a mawr ei pharch, a rhywun fydd yn cynnal gwerthoedd y Brifysgol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Brifysgol wedi tyfu o ran cwmpas, maint ac effaith wrth i ni ddod allan o effeithiau pandemig Covid-19,  yr Athro Langford fydd yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy ar gyfer ein pum Ysgol wrth i ni barhau i ddatblygu fel cymuned dosturiol, gydweithredol, effeithiol sy’n cyrraedd yr uchelfannau.”

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Langford: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymuno a thîm arwain Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac i weithio mewn partneriaeth a chydweithwyr, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a rhanddeiliaid i gefnogi datblygiad y Brifysgol mewn byd ar ôl y pandemig.”