Hafan>Newyddion>Gweithdy Rheoli Symudedd HEURO blynyddol ym Met Caerdydd

Gweithdy Rheoli Symudedd HEURO blynyddol ym Met Caerdydd

Newyddion | 22 Awst 2024

Cadeirydd HEURO, Yr Athro Michael Rosier gyda Chadeirydd Taith, Kirsty Williams CBE ac Is-gadeirydd HEURO, Rowena Kidger​​

Yr wythnos hon, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi cynnal Gweithdy Rheoli Symudedd HEURO, am y chweched flwyddyn yn olynol, gan groesawu dros 80 o swyddogion symudedd Addysg Uwch o bob rhan o’r DU.

Mae HEURO, cymdeithas sy’n darparu llwyfan i bob gweithiwr proffesiynol, academaidd a gweinyddol, yn hwyluso symudedd i fyfyrwyr, trafod a hyrwyddo materion o ddiddordeb cyffredin a lledaenu arfer da.

Roedd y digwyddiad Rheoli Symudedd, a gynhaliwyd yn Ysgol Reolaeth Caerdydd, yn canolbwyntio ar wella taith symudedd myfyrwyr cartref a thramor, gan ddarparu agenda lawn sy’n canolbwyntio ar arferion gorau, diweddariadau a strategaethau newydd wrth reoli symudedd myfyrwyr rhyngwladol.

Gwahoddwyd y gwesteion i drafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyflawni dyletswydd gofal i fyfyrwyr dramor, hyrwyddo dysgu iaith wrth baratoi ar gyfer astudio dramor, a sut i sicrhau bod myfyrwyr anabl yn rhagori wrth astudio dramor.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau gan Turing Scheme UK, Universities UK International a Student Loans Company, gan gynnwys cyn-arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Chadeirydd Bwrdd Cynghori Taith, Kirsty Williams CBE.

Wrth drafodi’r brif araith yn y digwyddiad, dywedodd Kirsty Williams: “Mae ymrwymiad Cymru i gefnogi a hyrwyddo rhyngwladoldeb a symudedd yn parhau i fod yn elfen allweddol o gytundeb ein cenedl gyda’n pobl ifanc, gyda’i dysgwyr a’i addysgwyr. Roedd fy mhrofiad o astudio dramor wedi newid fy mywyd. Ehangodd fy meddwl, lluniodd fy ngwerthoedd ac adeiladu fy ngwydnwch. Fe wnaeth i’n fwy goddefgar ac yn fwy empathig i brofiadau bywyd pobl eraill.

“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu rhaglen Taith, i sicrhau ei bod yn gweithio’n dda i sectorau addysg ledled Cymru. Mae ein strategaeth yn ffocysu ar ddarparu cyfleoedd i’r rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gymryd rhan mewn cyfnewid rhyngwladol. Ers mis Mawrth 2021, rydym wedi ariannu dros 4,830 o symudiadau i 88 o wledydd, gyda 40% o’n dysgwyr allanol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gyda chyllid Taith, rydym yn creu effeithiau sy’n newid bywydau.”

Mae Met Caerdydd, yn un o 287 o sefydliadau partner Taith, sy’n darparu rhaglen symudedd cynhwysfawr i’r myfyrwyr ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr cymwys astudio, gweithio a gwirfoddoli dramor.

Dywedodd Rowena Kidger, Rheolwr Cyfleoedd Byd-eang ym Met Caerdydd, ac Is-gadeirydd HEURO: “Rwy’n falch iawn o groesawu dros 80 o gynrychiolwyr i weithdy Rheoli Symudedd Byd-eang HEURO eleni. Rwyf wedi cynnal y gweithdy blynyddol ers 2016, a dyma’r gweithdy mwyaf, a’r mwyaf poblogaidd o bell ffordd hyd yma. Rwyf wrth fy modd â neges HEURO wrth gynnig cefnogaeth ac arweiniad ym myd symudedd byd-eang.”

Gwahoddwyd y cynadleddwyr i Gastell Caerdydd am ginio rhwydweithio​

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad yn Gymraeg neu Saesneg cysylltwch â press@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2041 6362

Am Brifysgol Metropolitan Caerdydd

  • Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd bum ysgol academaidd ar draws dau safle yn Llandaf a Cyncoed, Caerdydd: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd; Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd; Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd; Ysgol Reoli Caerdydd, ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd, a thair Academi Fyd-eang (Iechyd a Pherfformiad Dynol; Gwyddor Bwyd, Diogelwch a Diogelu; a Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl) dod ag arbenigedd ymchwil at ei gilydd i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol o ymdrin â rhai o’r heriau mwyaf sefydledig sy’n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Mae gan y Brifysgol dros 31,000 o fyfyrwyr o 130 o wledydd wedi cofrestru ar raglenni yng Nghaerdydd ac mewn 13 o bartneriaid cydweithredol ledled y byd.
  • Diben Met Caerdydd yw darparu addysg, ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac a gydnabyddir yn broffesiynol mewn partneriaeth â’i fyfyrwyr a’i ddiwydiant.
  • Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei rhestru 6ed yn y DU, a’r gorau yng Nghymru, am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Prifysgolion Pobl a’r Blaned 2023/24, yr unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o holl brifysgol y DU sydd wedi’u rhestru yn ôl perfformiad amgylchedd a moesegol.
  • Mae Met Caerdydd yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion a bywyd myfyrwyr yn ôl Rancio Prifysgol Uni Compare 2023.
  • Met Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi’n Brifysgol Noddfa, gan ddarparu ‘Ysgoloriaethau Noddfa’ i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a staff academaidd sydd mewn perygl yn eu gwledydd.
  • Cafodd Met Caerdydd ganlyniad ardderchog yn Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig Uwch (PRES), gyda chyfradd boddhad cyffredinol o 90%. Mae hyn yn gosod y Brifysgol yn ail allan o’r 58 Sefydliad Addysg Uwch (SAU) a gymerodd ran, 10% yn uwch na’r cyfartaledd SAU. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Met Caerdydd gael ei rhestru yn y tri uchaf am foddhad cyffredinol.
  • Y Brifysgol yw’r gyntaf yng Nghymru i dderbyn Siarter Busnesau Bach mawreddog, a’r Marc Menter Gymdeithasol i gydnabod ei gwaith gyda busnes, a’i hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr mewn gweithgareddau menter ac entrepreneuriaeth.​​