Hafan>Newyddion>Dysgwyr mewn Oed yn cael Ysbrydoliaeth yng Nghronfeydd Dŵr Eiconaidd Caerdydd

Dysgwyr mewn Oed yn cael Ysbrydoliaeth yng Nghronfeydd Dŵr Eiconaidd Caerdydd

Newyddion | 15 Tachwedd 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cydweithredu â Dŵr Cymru i roi cefnlen unigryw i ddysgwyr sy’n oedolion.

Trefnodd Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw, ymweliad â Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ar gyfer grŵp o ddysgwyr mewn oed yn ddiweddar er mwyn iddynt gael ysbrydoliaeth ar gyfer eu cwrs Tirwedd Ysgrifennu Cronfa Ddŵr Llanisien .

Cafodd yr ymweliad ei drefnu gan Ddŵr Cymru yn rhan o brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Llywodraeth Cymru. Wrth i Ddŵr Cymru fwrw ymlaen â'i gynlluniau i greu hyb ymwelwyr ar safle'r gronfa, mae grant Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo'r rhaglen ymgysylltu cymunedau sy'n cysylltu pobl â'r ardal boblogaidd hon gan greu hyb ar gyfer iechyd a lles yn y brifddinas at y dyfodol.

Mae'r dysgwyr wedi bod y cymryd rhan mewn cwrs 5 wythnos dan ofal tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd y cwrs, a oedd yn cael ei gyflwyno ar lein, yn cynnig cyflwyniad i ysgrifennu am fyd natur, gan roi cyfle i’r myfyrwyr drafod cerddi am leoedd a darllen darnau ffeithiol am dirweddau lleol. Caniataodd yr ymweliad â Chronfa Ddŵr Llanisien i'r myfyrwyr gysylltu â byd natur mewn amgylchedd diogel, dysgu crefft arsylwi gofalus, ysgrifennu eu darnau eu hunain wedi eu hysbrydoli gan y gronfa, a rhannu eu gwaith mewn amgylchedd cyffyrddus a chefnogol.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae hi'n hyfryd gweld cyw-lenorion Cymru'n sbarduno eu dychymyg trwy ymgolli ym myd natur.

"Trwy gydweithio i amddiffyn, cynnal ac ymestyn ein cynefinoedd naturiol mewn ardaloedd trefol, gall pobl a chymunedau ddod ynghyd i fwynhau ein mannau gwyrdd a glas sy'n darparu amrywiaeth o fuddion i ni, gan gyfoethogi ein bywydau a chynnal ein llesiant.

"Rydw i'n falch dros ben ein bod ni wedi gallu cefnogi ailagoriad cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien trwy ein Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, ac mae'n bleser mawr gweld ein cymuned greadigol yn manteisio ar bopeth sydd gan y lle i'w gynnig."

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Mae gweithio mewn partneriaeth er mwyn galluogi’r gymuned i ddysgu am y safle hoff yma a chysylltu ag ef yn bwysig iawn i ni.

"Mae'r cwrs yma o arwyddocâd penodol am fod ei natur yn gyson â'n cynlluniau amgylcheddol uchelgeisiol ni. Mae dyluniad y ganolfan ymwelwyr yn ymgorffori nodweddion i wella ei natur gwyrdd a lleihau ei ôl troed carbon, a hynny wrth hwyluso mynediad i'r cyhoedd yn y dyfodol trwy osod llwybrau i gerdded o gwmpas y gronfa â'r nod o amddiffyn ecoleg neilltuol yr ardal hon.

"Rydyn ni'n gwybod bod byd natur yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ein llesiant, ac yn cydnabod bod dysgu'n rhywbeth i bobl o bob oedran hefyd."

Mae tiwtor y cwrs, Dr Christina Thatcher, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol a bardd proffesiynol, yn cynnal prosiectau ysgrifennu creadigol rheolaidd ar gyfer ysgolion, orielau celf, canolfannau cymuned a sefydliadau nid-er-elw.

Dywedodd Dr Thatcher: "Breuddwyd oedd cael treulio'r diwrnod yn ysgrifennu wrth y gronfa. Roedd y blodau gwyllt ar hyd y glannau, y gwylanod yn hedfan, y ffwng cap cwyr, a'r dŵr llathraidd yn cynnig ysbrydoliaeth ddi-ben-draw. Roedd hi'n hyfryd cael symud i ffwrdd o’r sgrin ac addysgu yn yr awyr agored eto. Trwy gydol y dydd, cawsom gyfleoedd i brofi byd natur gyda'n gilydd, a dod o hyd i lawer o ffyrdd creadigol i ysgrifennu am y dirwedd brydferth yma."

Defnyddiodd Christina sawl sbardun ysgrifennu yn ystod y dydd er mwyn hwyluso gwaith ysgrifennu'r dysgwyr, fel ysgrifennu o bersbectif aderyn er enghraifft, ac ysgrifennwyd sawl darn rhagorol o brofiad personol. Pan gofynnwyd i'r myfyrwyr feddwl am eu hargraff gyntaf ysgrifennodd Gerri Blundell, ‘Through the big gate and looking at the wide expanse of water in front of us. Quiet landscape unaware of our presence.’ Aeth ymlaen i ysgrifennu An Ode to the Cardiff Reservoirs ‘What will the future bring? - Will you still be here in hundreds of years to give us joy like now?’.

Ysgrifennodd dysgwr arall, Dave Brown, gerdd dan y teitl Years Later I Sit am ei atgofion o dreulio amser ym myd natur gyda'i dad ers lawer dydd, gan ysgrifennu ‘It’s special…this tiny patch of Cardiff…We protect it, respect it, shield it…Avoid the fungi, watch the birds, hope for snakes.’

Daliodd cerdd a ysgrifennwyd gan y dysgwr Rob Blundell, dan y teitl The Essence yr ymdeimlad o lesiant y gall byd natur ei roi i ni; ‘I am mesmerised & transformed, being calmly enhanced with the nourishment from each encounter…. I stroll a changed mortal, invigorated by the good of it.’

Bu modd i'r dysgwyr fynd â'r profiad yma nôl i'r ystafell ddosbarth am 4 wythnos arall o ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu wedi eu hysbrydoli gan y dirwedd o'u cwmpas.

Diolch i gronfa ENRaW Llywodraeth Cymru, gall Dŵr Cymru gynnig gweithgareddau gwirfoddoli a chymunedol cyn i'r safle agor i'r cyhoedd. Bydd y rhaglen hon yn datblygu gallu a dealltwriaeth y gymuned i barhau i ofalu am yr ardal mewn ffyrdd sy'n amgylcheddol briodol, a chaiff unigolion gyfle i ddysgu sgiliau newydd ac i ailgysylltu â phobl eraill a byd natur mewn amgylchedd diogel.

Dylai unrhyw sefydliadau, grwpiau cymunedol neu elusennau sydd am gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd partneriaeth a allai fod ar gael ar y safle gysylltu â Dŵr Cymru.