Skip to main content

Sylvie Beresford

Uwch Ddarlithydd mewn Ffrangeg Busnes

Adran: Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith

Rhif/lleoliad swyddfa: 02.55C, Adeilad Ogwr, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

Rhif ffôn:+44 (0)2920 417166

Cyfeiriad e-bost: sberesford@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Graddiodd Sylvie Beresford o Brifysgol Besançon yn nwyrain Ffrainc gyda Gradd Anrhydedd mewn Saesneg a Llenyddiaeth Gymarol. Symudodd i'r DU i ddysgu Ffrangeg am flwyddyn ym Mangor (Gogledd Iwerddon) ac wedi hynny am ddwy flynedd yng Ngholeg y Celfyddydau a Thechnoleg Swydd Gaergrawnt, sydd bellach yn Brifysgol Anglia Ruskin. Ysgrifennodd ei thesis Meistr ar gyfraniad Virginia Woolf yn y Mudiad Ffeministaidd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yn dilyn hynny, dyfarnwyd ei MPhil i Sylvie a oedd yn canolbwyntio ar Astudiaethau Celtaidd Diwedd y 18fed Ganrif gyda dadansoddiad o'r nofel gan Thomas Flanagan The Year of the French". Roedd ei hymchwil hefyd yn cynnwys dehongliad o "Partners in Revolution: The United Irishmen and France" gan Marianne Elliott.

Enillodd Sylvie TAR (AB) yn Athrofa Addysg Uwch Caerdydd, ac yna ymunodd â'r Adran Astudiaethau Ychwanegol (Canolfan Dysgu Gydol Oes Caerdydd erbyn hyn) lle bu'n dysgu Ffrangeg ar bob lefel.

Mae Sylvie wedi cyfrannu at nifer o bapurau academaidd e.e., ar drafnidiaeth a rheoli parthau arfordirol yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi cyfieithu llyfr a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth Awyr Arbennig (SAS). Mae wedi gweithio fel cyfieithydd cynhadledd a chyfieithydd ar gyfer nifer o sefydliadau, yn enwedig Heddlu De Cymru a'r Swyddfa Gartref. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn tua 30 o gwmnïau yn Ffrainc ac yn y DU fel ymgynghorydd iaith a chynghorydd ac wedi hyfforddi uwch arholwyr yn y Swyddfa Batentau.

Yn ogystal, mae Sylvie wedi gweithio fel hyfforddwr llais i gantorion opera hyfforddi Coleg Cerdd a Drama Cymru i ganu yn Ffrangeg fel rhan o'u hasesiad Gradd Anrhydedd blwyddyn olaf.

Cyn cymryd swydd llawn amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, bu Sylvie yn gweithio yng Ngholeg Glan Hafren, sydd bellach yn Goleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) fel Darlithydd mewn Ffrangeg lle'r oedd hefyd yn Arweinydd Tîm Ieithoedd.

Yn ogystal, dysgodd Sylvie fodiwlau annibynnol i israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd am nifer o flynyddoedd. Roedd y rhain yn cynnwys modiwlau arbenigol ar gyfer Peirianwyr, Myfyrwyr Meddygol, a Myfyrwyr Rheoli Busnes a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Dyfarnwyd Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymchwil Gymdeithasol Gymhwysol i Sylvie yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC).

Yn allanol, mae'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (HEA) ac yn Arholwr ar lefelau uwch ac atodol ar gyfer DELF a DALF yr the Institut Français (Llundain) ac ar gyfer y Diplôme de Français Professionnel (DFP) B2 a C1 o'r Chambre de Commerce et d'Industrie.

Addysgu.

Ar hyn o bryd mae Sylvie yn dysgu Ffrangeg Busnes ar lefelau 4, 5 a 6 yn y rhaglen Rheoli Busnes Rhyngwladol lle mae'n Diwtor Blwyddyn 1.

Mae hi hefyd yn dysgu Gweithio mewn Rheolaeth a Phrofiad Gwaith o fewn y rhaglen Busnes a Rheolaeth.

Ymchwil

Ei maes ymchwil presennol yw llwybr addysgu Ieithoedd Tramor Modern mewn Sefydliadau Addysg Uwch sy'n cymryd persbectif rhyngwladol. Ei diddordeb arbennig yw gwerth ychwanegol hyfedredd iaith a chyflogadwyedd graddedigion.

Hefyd, mae Sylvie yn cynnal ymchwil ad hoc i ddimensiynau diwylliannol ac ymddygiadol amgylcheddau rhyngwladol.

Cyhoeddiadau allweddol

Stephen Pettit, Anthony Beresford, Michael Whiting, Ruth Banomyong, Sylvie Beresford (2014) Chapter 7 in: Humanitarian Logistics – Meeting the challenge of preparing for and responding to disasters, Kogan Page, 320 pp.

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Mae Sylvie, ochr yn ochr â'i chydweithwyr yn y Tîm Ieithoedd, yn cynrychioli Ysgol Reolaeth Caerdydd yng Ngrŵp Llywio Llwybrau at Ieithoedd Cymru lle mae'n mynychu cyfarfodydd ynghyd â chynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Coleg Dewi Sant, Prifysgol Aberystwyth, CILT Cymru, CCAUC, y Comisiwn Ewropeaidd, y Cyngor Prydeinig a Phrifysgol Bangor.

Dolenni allanol