Swyddog Cymorth Ysgol (Gweithgareddau Oddi ar y Campws a Symudedd Myfyrwyr)
Adran: Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol
E-bost: lreid@cardiffmet.ac.uk
Yn gweithio yn Ysgol Reoli Caerdydd, rwy'n gyfrifol am reoli'r holl weithgareddau oddi ar y campws a symudedd myfyrwyr ar gyfer staff a myfyrwyr sy'n teithio yn y DU a thramor. Rwyf hefyd yn cefnogi gweithgaredd gweithrediadau busnes ehangach ac yn arwain ar wahanol brosiectau o fewn yr ysgol.
Dyletswyddau allweddol:
- Cyflwyno gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys staff, myfyrwyr a phartneriaid rhyngwladol
- Cynllunio, trefnu a darparu sesiynau briffio gweithgareddau ar gyfer staff a myfyrwyr sydd ynghlwm â gweithgareddau oddi ar y campws
- Arwain a rheoli pob ymweliad gan gynnwys cael dyfynbrisiau, cysylltu â Llysgenadaethau perthnasol ynghylch gofynion fisa, trefnu taliadau myfyrwyr ar y cyd ag i-zone y Brifysgol
- Gwneud yr holl drefniadau teithio, llety a chynhadledd / rhaglen ar gyfer staff a myfyrwyr yn yr ysgol
- Rheoli cysoni gweithgareddau (gan gynnwys gweithgareddau a ariennir gan symudedd) a sicrhau bod gwariant o fewn y terfynau sydd wedi'u cymeradwyo.
- Dirprwyo ar ran y Swyddog Gweithrediadau Busnes yn ei absenoldeb.
Dechreuais weithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2007, a chyn fy rôl bresennol, roeddwn wedi fy lleoli o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr (5 mlynedd) fel Gweinyddwr Cymorth i Fyfyrwyr. Yn y rôl hon, cefais brofiad o ddelio ag ymholiadau cyllido myfyrwyr, cyngor caledi a chydlynu'r Gwasanaeth Cwnsela lle datblygais system ar-lein sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad at gwnsela heb gyfyngiadau oriau swyddfa. Arweiniodd y system ar-lein hon at ostyngiad yn amser aros cleientiaid ac fe'i defnyddiwyd fel model ar gyfer gwasanaethau eraill.
Cyn gweithio o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr, bûm yn gweithio yn y Gwasanaethau Llety (3 blynedd) yn Neuaddau Preswyl Plas Gwyn yn delio ag ymholiadau llety ac yn cynorthwyo'r Rheolwr Neuaddau mewn gweithrediadau dyddiol.