Darlithydd mewn Cyllid
Adran: Cyfrifeg, Economeg a Chyllid
Ffôn: +44(0)29 2020 5638
E-bost: jstockford@cardiffmet.ac.uk
JGraddiodd Judith Stockford o Brifysgol Bournemouth ym 1987 gyda gradd Anrhydedd mewn Astudiaethau Busnes BA. Llwyddodd i gwblhau’r arholiadau proffesiynol sy’n ofynnol i ddod yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli , wrth iddi weithio mewn busnesau gweithgynhyrchu.
Ar ôl 15 mlynedd, cychwynnodd Judith ar yrfa addysgu yn 2003 mewn Coleg Addysg Bellach, gan ddysgu ar raglenni, gan gynnwys cymwysterau CIMA, AAT a Lefel 3 mewn Cyllid, Cyfrifeg ac Astudiaethau Busnes. Yn 2006, cwblhaodd Judith Dystysgrif Addysgu Ôl-raddedig yn llwyddiannus. Yn 2013, ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel darlithydd mewn Cyllid, gan arwain modiwlau yn amrywio o lefel Sylfaen i lefel Meistr. Daeth yn gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA) yn 2013.
Mae ffocws ymchwil Judith ar Ddyled Personol, Cyllid Cynaliadwy ac Undebau Credyd. Ar hyn o bryd mae hi'n cwblhau PhD.
Diddordebau Ymchwil:
• Dyled Bersonol
• Cyllid Cynaliadwy
• Undebau Credyd
• Addysg mewn Cyllid Personol mewn ysgolion a'r gweithle