Skip to main content

Gary Samuel

Uwch Ddarlithydd mewn Busnes a Rheolaeth

Adran: Marchnata a Strategaeth

Rhif/lleoliad swyddfa: 01.41E, Adeilad Ogwr, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

Rhif ffôn:+44 (0)29 2041 6370

Cyfeiriad e-bost: gsamuel@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Dechreuodd Gary ei yrfa academaidd yn 2012 ac ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2014.

Cyn hyn, bu Gary’n arwain o fewn y sector cyhoeddus, yn y GIG ac mewn llywodraeth leol, gan weithio ar nifer o raglenni datblygu a moderneiddio gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan Gary hefyd brofiad o'r trydydd sector ar ôl gweithio i elusen gofrestredig sy'n cefnogi adfywio economaidd. Mae hefyd wedi arwain nifer o fentrau cymdeithasol.

Addysgu.

Mae Gary yn dysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ac mae'n arweinydd modiwl ar gyfer modiwlau ar lefelau 4, 5, 6 a 7.

Mae Gary yn goruchwylio traethodau hir lefel Meistr ar gyfer y radd MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol ac mae hefyd wedi goruchwylio lansio prosiect menter ar gyfer myfyrwyr gradd BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth israddedig.

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Gary yn perthyn i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac yn enwedig gwaith a chyfraniad mentrau cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae Gary yn ymgymryd â Doethur mewn Rheolaeth, sy'n canolbwyntio ar ymchwil fel trosglwyddo asedau cymunedol yng Nghymru.

Cyhoeddiadau allweddol

Cyflwyniadau cynhadledd

Murphy, L. and Samuel, G. (2017) ‘Help or hindrance, the role of social enterprise in the Communities First programme’. Advances in Management and Informatics Conference. Cardiff

Samuel, G. (2020) ‘A mixed methods approach to critically evaluating participation and non-participation in Community Asset Transfers (CAT) in Wales’. Advances in Management and Informatics Conference. Cardiff

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Dolenni allanol