Uwch-Ddarlithydd mewn Lletygarwch
Adran: Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau
Rhif Ffôn: +44(0)29 2041 6380
Cyfeiriad E-bost: edale@cardiffmet.ac.uk
Mae Elspeth yn Uwch ddarlithydd yn yr Adran Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau ac ar hyn o bryd hi yw cydlynydd y Profiad Gwaith Diwydiannol ar gyfer holl fyfyrwyr Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Hi sy'n gyfrifol am gysylltu â chyflogwyr y diwydiant yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol cyn ac ar ôl profiad y myfyrwyr a chreu cysylltiadau newydd gyda diwydiant ar gyfer darpar fyfyrwyr. Mae hi'n cynnig arweiniad academaidd proffesiynol a chefnogaeth a gofal bugeiliol i’r grwpiau hyn o fyfyrwyr wrth iddynt ymdrechu i ennill profiad gwaith gwerthfawr a datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.
Mae gan Elspeth brofiad helaeth yn y diwydiant Lletygarwch, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn gyn fyfyriwr o’r sefydliad hwn, mae hi bellach yn dilyn ei gyrfa academaidd yma gan rannu ei chyfoeth o wybodaeth a phrofiad. Y pynciau y mae’n arbenigo ynddynt yw Bwyd a Diod, Gwin a Gwirodydd, Gofal Cwsmeriaid, Rheoli’r Fasnach Drwyddedig a rheoli Adnoddau Dynol. Cwblhaodd MBA a'i TAR wrth adael y diwydiant, a'i phrif faes ymchwil oedd Rheoli Adnoddau Dynol. Mae Elspeth hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu cyrsiau byr yn yr Ysgol ar gyfer myfyrwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Ymchwil
Diddordebau ymchwil Elspeth yw Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnadoedd Llafur, Timau, Amrywiaeth Amlddiwylliannol yn y gweithlu, delwedd a phroffil Diwydiant. Mae Elspeth wedi ymrestru ar PhD sy’n archwilio Deinameg Timau Amlddiwylliannol yn y Diwydiant Lletygarwch ar hyn o bryd. Mae hi hefyd yn cydweithio mewn meysydd ymchwil fel ymwybyddiaeth ynghylch alcohol, ei yfed ac ymyrraeth wrth iddo gael ei weini. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda chydweithwyr ar brosiect pedagogaidd sy’n archwilio addysg gwin a rhwystrau i ddysgu. Elspeth hefyd yw Cynrychiolydd Sefydliadol T.H.E. C.S.M. ar gyfer rhwydwaith HLST yr Academi Addysg Uwch. Mae meysydd diddordeb o fewn y rôl hon yn canolbwyntio ar hwyluso hyfforddiant, cyswllt ag addysg a diwydiant, ymchwil a hyrwyddo syniadau newydd ac arloesol sydd wedyn yn cael eu rhwydweithio ar draws addysg a diwydiant. Mae hi hefyd yn aelod o Grŵp Diddordeb Arbennig Gemau Olympaidd HLST AAU - Dod â 2012 i'r ystafell ddosbarth.
Cyhoeddiadau
Trafodion Cynadleddau
Dale,E. (2009) The Language of Wine: Technical Language
Acquisition and Barriers to Learning. Presented at 3rd
International Conference for Critical Tourism Studies. Zadar,
Croatia. June
Dale, E., Ritchie, C., Lawson, S. & Flynn M. (2008) Wine Trade
Demands or Intergenerational Distance in Teaching. Where are
the Barriers to New Wine Consumers and Professionals?
Presentation for ICCAS 08 (Sixth International Conference on
Culinary Arts and Sciences) – Global, National and Local
Perspectives. Clarion Hotel Stavanger, Norway. June
Ritchie, C. Dale, E., Lawson, S. & Flynn, M. (2007) Intergenerational Distance, Language, Industry Demands:
Where Are The Barriers To Learning? Presented at EuroChrie
Conference Leeds. October
Ritchie, C. Dale, E., Lawson, S. & Flynn, M. (2007) Intergenerational Distance in Teaching and Learning: Using the
WSET Intermediate Course to Study Language and
Communication Barriers in Intergenerational Learning.
Presented at CHME Conference, Oxford Brookes University,
Oxford. May.