Cynghorydd Lleoli (Ymgysylltu â Chyflogwyr) ar gyfer Ysgol Reoli Caerdydd ac Ysgol Technolegau Caerdydd
Adran: Gwasanaethau Myfyrwyr Canolog
Rhif Ffôn: +44(0)29 2041 5801
E-bost: ewilliams@cardiffmet.ac.uk
Yn flaenorol, bu Elaine Williams yn gweithio fel Tiwtor Personol a darlithydd yn yr Adran Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau am gyfnod o 6 blynedd. Yn ei rôl bresennol fel Cynghorydd Lleoli (Ymgysylltu â Chyflogwyr) mae'n canolbwyntio ar adeiladu cysylltiadau o fewn y gymuned fusnes leol gan gynnig cefnogaeth trwy amrywiaeth o fentrau fel Lleoliadau, Interniaethau a gweithgareddau Ymchwil a Menter.
Dechreuodd Elaine ar yrfa mewn Busnes a Marchnata ar ôl graddio o Polytechnig Newcastle-upon-Tyne. Treuliwyd rhan fawr o fywyd gwaith Elaine yn Ne Affrica a Sbaen lle ac mae hi wedi gweithio i amrywiaeth o gwmnïau Cenedlaethol a Rhyngwladol gan gynnwys The Anglo America Corporation, Coopers a Lybrand a The Arab Bank. Yn ystod ei chyfnod yn Ne Affrica bu’n gweithio mewn rolau Gweinyddol a Marchnata a chafodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Rheoli Marchnata. Ers hynny mae hi wedi cwblhau BSc mewn Busnes a Gweinyddiaeth, TAR mewn Addysg ôl-orfodol, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol, cymhwyster CELTA, PRINCE2 mewn Rheoli Prosiectau ac mae'n Gymrawd yr AAU. Ar hyn o bryd mae Elaine yn y broses o gael ei MBA Exec y mae'n gobeithio ei gwblhau y flwyddyn nesaf.
Mae Elaine wedi bod yn berchen ar ac yn rhedeg ei gwesty ei hun yn ogystal â gweithio fel ymgynghorydd ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth a Hamdden a gall gynnig cyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn y maes hwn. Mae ei phrofiad mewn marchnata, gweithrediadau busnes a hyfforddi a datblygu staff yn arbennig o gryf ym maes Rheoli Lletygarwch.
Dechreuodd Elaine ei gyrfa ddarlithio gydag YRC yn yr adran Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau yn 2008 lle bu'n dysgu ar amrywiaeth o fodiwlau ar y rhaglen radd Lletygarwch Rhyngwladol. Yn ystod y saith mlynedd diwethaf mae hi hefyd wedi dysgu mewn colegau AB ac mewn ysgolion iaith preifat.
Mae Elaine wedi gweithio i'r uned Tiwtora Personol a Phrofiad Gwaith yn YRC yn ogystal â chyflwyno seminarau a darlithoedd ar y rhaglenni gradd Sylfaen, Lefel 4 a 5. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda'r Tîm Ehangu Mynediad gan gyflwyno sgiliau Iaith Saesneg fel rhan o'r fenter Cymunedau yn Gyntaf gan helpu ystod amrywiol o oedolion i wireddu eu potensial o ran addysg a chyflogadwyedd.
Ymchwil
Poster: 'Learning in Theory and Practice''
Adroddiad: 'A Comparison and Analysis for National Benchmark Statements set by the Quality Assurance Agency (QAA) for Hospitality, Leisure, Sports and Tourism Management'
Astudiaeth Achos: 'Proffil dysgwr
Astudiaeth Achos: 'Cynllunio ac Asesu Dysgu ar Lefel 4 mewn Addysg Uwch'
Aelodaeth:
Cydymaith yr Academi Addysg Uwch (yn aros)
Aelod cyswllt o'r Sefydliad Lletygarwch