Darlithydd Cyllid
Adran: Cyfrifeg, Economeg a Chyllid
Rhif Ffôn: +44(0)29 2020 5705
E-bost:
srowe@cardiffmet.ac.uk
Ar ôl cwblhau ei gradd israddedig mewn Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth, penderfynodd Surraya barhau gyda'i chymwysterau academaidd drwy gwblhau ei gradd ôl-radd mewn Cyllid Rhyngwladol hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ennill y radd uchaf yn ei dosbarth graddio. Arweiniodd hyn at leoliad chwe mis ar gymrodoriaeth addysgu yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn dilyn hyn dechreuodd ei gyrfa yn yr adran gyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol lle bu'n rhan o dîm gweithredu Agresso Business World (ABW). Pan oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, dechreuodd ei PhD mewn Bancio a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor ac yna symudodd yn ôl i'r byd academaidd. Cyn dechrau ym Met Caerdydd bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw am bron i 2 flynedd.
Ymchwil
Diddordebau ymchwil Surraya yw bancio a chyllid, ac yn fwy penodol statws credyd. Teitl ei PhD oedd barnau asiantaethau statws credyd a'u heffaith yn y sector bancio.
Cyhoeddiadau
Prosiectau
Csyslltiadau allanol