Pennaeth Adran (Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith)
Enw: Dr Aylwin Yafele
Teitl Swydd: Pennaeth Adran (Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith)
Rhif ffôn:02920415670<
Cyfeiriad E-bostayafele@cardiffmet.ac.uk
Proffil
Dr Aylwin Yafele yw Pennaeth yr Adran Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith yn Ysgol Reoli Caerdydd. Mae ei gefndir mewn Adrodd Ariannol; cwblhaodd ei PhD mewn Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Bournemouth yn 2012 lle ymgymerodd â'i swydd academaidd gyntaf fel Darlithydd mewn Cyfrifeg Ariannol.
Aeth Dr Aylwin Yafele ymlaen i ymuno â Phrifysgol Gorllewin Lloegr gan ymgymryd â sawl rôl yno gan gynnwys Pennaeth Cyswllt Adran, Arweinydd Symudedd Rhyngwladol y Gyfadran, Is-gadeirydd Bwrdd y Gyfadran, Aelod o'r Bwrdd Academaidd a Llywodraethwr y Brifysgol.
Penodwyd Dr Aylwin Yafele yn Bennaeth Adran ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2020. Mae ganddo brofiad helaeth ar draws tirwedd Addysg Uwch yn y DU a thramor. Mae ganddo sawl Cyfarwyddiaeth Anweithredol ac mae'n Gynghorydd Academi.