Ymrwymiadau Addysgu Cyfredol
(Ôl-raddedig - L7) Arweinydd Modiwl (MBA) Rheoli Strategol (MBA 7002)
(Ôl-raddedig - L7) Arweinydd Modiwl - (MBA) Arweinydd Llwybr ar gyfer MBA mewn Cyllid Islamaidd
(Ôl-raddedig - L7) Arweinydd Modiwl - (MBA, MSc) Egwyddorion Cyllid Islamaidd (MSM 7028)
(Ôl-raddedig - L7) Arweinydd Modiwl - (MBA, MSc) Bancio Buddsoddi Islamaidd (MSM 7027)
(Ôl-raddedig - L7 - TNE) Arweinydd Modiwl - (MBA) Cyfrifeg ar gyfer Gwneuthurwyr Penderfyniadau (MBA 7001)
(Ôl-raddedig - L7 - TNE) Arweinydd Modiwl - (MBA) Rheoli Cyllid - (MBA 7005)
(Israddedig - L5) Arweinydd Modiwl - Cyfrifeg Ariannol mewn Cyllid Islamaidd - (BAC 5020)
Ymrwymiadau Addysgu yn y Gorffennol
(Ôl-raddedig - L7 - TNE) Arweinydd Modiwl - (MBA) Cyfrifeg ar gyfer Gwneuthurwyr Penderfyniadau - (MBA 7001)
(Ôl-raddedig - L7) (MBA) Dulliau Ymchwil (MBA 7001), yn rhan o dîm darlithio - ‘Dadansoddiad Meintiol' a 'Dylunio Holiaduron'
(Ôl-raddedig - L7) Meistri yn y Gyfraith (LLM) Modiwl Cyllid Islamaidd (contractau Shariah)
(Addysg i Swyddogion Gweithredol) MBA i Swyddogion Gweithredol - Modiwl Cyllid Islamaidd a Bancio
(Israddedig - L4) Arweinydd Modiwl - Busnes mewn Cyd-destun (BSP 4001)
(Israddedig - L5) Arweinydd Modiwl - Yr Economi Wleidyddol Ryngwladol (BSP 5003)
Ymchwil
Asif yw Cyd-Brif Olygydd yr International Journal of Islamic Marketing and Business Strategy (IGI). Mae hefyd yn adolygydd llyfrau ar gyfer ystod o gyhoeddwyr rhyngwladol gan gynnwys Kogan Page, Palgrave a Cengage Learning.
Mae ei ddiddordebau ysgolheigaidd yn amrywio o’r gwyddorau cymdeithasol, entrepreneuriaeth i ferched, rheoli prosiectau i fancio a chyllid, cyllid Islamaidd, yn enwedig arferion trawsffiniol cyllid Islamaidd sy’n cydymffurfio â Shariah.
Mae maes bancio a chyllid wedi bod yn ffocws ei waith ysgolheigaidd, pedagogaidd ac entrepreneuraidd dros y degawd diwethaf. Ar ben hynny, mae ar hyn o bryd yn cwblhau PhD ym maes ‘Bancio a Rheolaeth Ariannol, Cyllid Islamaidd, gan ymchwilio i ddadansoddiad cymharol rhwng banciau Malaysia a Bahrain'. Mae'r banciau yn cael eu gweithredu mewn gwledydd Islamaidd; bu cynnydd sylweddol mewn bancio a buddsoddiadau Islamaidd dros y ddau ddegawd diwethaf. Yn enwedig yn sgil yr argyfwng ariannol diweddar (gorfod rhoi help llaw i'r banciau yn y byd datblygedig), mae ei waith ymchwil yn anelu at astudio strwythur cyfalaf y banciau Islamaidd.
Cynadleddau:
Gweithgareddau, Darlithoedd, Siarad Cyhoeddus a Datblygiad Proffesiynol
1. Cymerodd ran yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Cyllid Islamaidd 1af, Caerlŷr (Edbiz Consulting Ltd - (Medi 2013)
2. Mynychodd 9fed Fforwm Economaidd Islamaidd y byd (WIFE), Llundain - (Hydref 2013)
3. Mynychodd y 13eg Uwchgynhadledd Cyllid Islamaidd, Llundain - (Chwefror 2014)
4. Mynychodd Uwchgynhadledd Cyllid Islamaidd y DU-Bahrain, Y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (FCO), Llundain - (Ebrill 2014)
5. Y Wobr Frenhinol am Gyllid Islamaidd - Kuala Lumpur, Malaysia - (Medi 2014)
6. IBFC (Canolfan Bancio a Chyllid Islamaidd) - Prifysgol Caerdydd - (Tachwedd 2014)
7. Cyflwynodd ddiwrnod llawn o weithdy Cyllid Islamaidd yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad - Llundain (Mynychwyr: Banc Lloegr, Trysorlys y DU, HMRC, FCA) - (Mawrth 2015)
8. Cyflwynodd ddarlith yn y Gynhadledd Cyllid Islamaidd - Ysgol Reoli FAST, NUCES Islamabad, Pacistan (Testun: Cyllid Islamaidd: Persbectif y DU) - (25 Ebrill, 2015)
9. Cyflwynodd seminar yn AAST (Academi Arabaidd Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Astudiaethau Morwrol) Alexandria - Yr Aifft (29 Ebrill, 2015)
10. Mynychodd Fforwm Cyllid Foesegol Byd-eang (GEFF) - Caeredin, Yr Alban (1 a 2 Medi, 2015)
11. Mynychodd Talent Cyllid Islamaidd Dwyrain a Gorllewin - Cynhadledd Addysgwyr UEL, Canary Wharf - Llundain (11 Tachwedd, 2015)
12. Trefnodd a chyd-gyflwynodd ddarlith gyhoeddus ar Ewyllysiau Islamaidd a Chynllunio Treth Stadau yn Dar-ul-Isra (Canolfan Gymunedol Mwslimaidd, Caerdydd, Cymru) - (Ebrill 2017)
13. Cymerais ran mewn trafodaeth o amgylch y bwrdd gyda Andy Haldane - Prif Economegydd (Banc Lloegr) yn Dar-ul-Isra (Canolfan Gymunedol Fwslimaidd, Caerdydd, Cymru) lle cynigiais gyllid di-log i fyfyrwyr (Islamaidd) a benthyciadau i ddechrau busnesau Islamaidd - ( Mehefin 2017)
14. Mynychais ICMGR - Cynhadledd Cyllid a Buddsoddi Moesegol - Edinburgh Napier - (Mai 19, 2017)
15. Gwirfoddolais yn y 3ydd IFPL (rhaglen Arweinyddiaeth Cyllid Islamaidd), Coleg Claire, Prifysgol Caergrawnt, (Awst 2017)
16. Mynychais 'Weithdy Darlithwyr Economaidd' (Gweithdy GTA) - Prifysgol Manceinion - (Medi 2017)
17. Sefydlais 'International Journal of Islamic Marketing and Business Strategy' (IGI) a deuthum yn Gyd-Brif Olygydd y Cyfnodolyn Academaidd hwn - (Tachwedd 2017)
18. Cwblheais 'Cysyniadau Marchnad Bloomberg' - tystysgrif (Chwefror 2018)
19. Cwblheais 'HEA - Cwrs Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Arholwyr Allanol' - (Mai 2018)
20. Cymerais ran yn Nosbarth Meistr TAKAFUL (Yswiriant Islamaidd) yn Norton Rose Fulbright, cwmni cyfreithiol - Llundain (Gorffennaf 2018)
21. Tŷ'r Arglwyddi - Llundain, Ystafell Bwyllgor 3 - mynychais seminar ar Gyllid Islamaidd - (Gorffennaf 2018)
22. Cyflwynais weithdy i gyfadran academaidd Coleg y Gwlff yn Muscat, Oman ar addysgeg yn canolbwyntio ar y trawsnewid o ddysgu ar yr wyneb i ddysgu dwfn - (Medi 2018)
23. Cyflwynais ddarlithoedd gwadd i fyfyrwyr MBA proffesiynol - darlithoedd ar gampysau Colombo a Kandy ICBT (Coleg Rhyngwladol Busnes a Thechnoleg) ar gyflogadwyedd myfyrwyr a bywyd ar ôl MBA - (Hydref 2018)
Cyhoeddiadau
Amzad Hossain, Kamal Naser, Asif Zaman, Rana Nusaibah (2009).Factors Influencing Women Business Development in The Developing Countries: Evidence from Emerging Economy.
The International Journal of Organisational analysis U.K. Vol. 17 No.3
http://www.emeraldinsight.com/doi/full/10.1108/19348830910974923
Link: http://dx/doi.org/10.1108/19348830910974923
Amzad Hossain, Kamal Naser, Asif Zaman (2009).Differences Between Public and Private University Women Graduates in Developing Small Enterprise: Evidence From An Emerging Economy.
The Journal of Applied Business and Economics, USA. Vol. 9 No.3
http://search.proquest.com/openview/18cb3133b5dcc74f6d6210a62ae2b7bb/1?pq-origsite=gscholar&cbl=38282
Corporate Publications
Asif Zaman, (2017). Islamic Finance Education: A Road to Economic Prosperity & Sustainability (Cover Story). The Learning Curve 2017: 16-17. Web. 13May 2017 (The Learning Curve Education Magazine https://www.thechopras.com/discover/media-centre/our-publication.html)
Asif Zaman, (2017). The Institution of HISBA and Shari'A Assurance, ISFIRE: 2017: 10-13 Print June 2017 (ISFIRE London - Islamic Finance Review http://isfire.net/)
Cyhoeddiadau ar y Gweill
Asif Zaman, Rafik Omar, Farooq Chudry, Eleri Jones (2019). Defining Islamic Banking Economic Rent competitive advantage - (redefining the market equilibrium)
Darlithoedd Proffesiynol a roddwyd - y Llywodraeth, y Byd Academaidd a'r Cyhoedd
Mawrth 2015 Llundain: Trysorlys y DU (FCO - Y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad) Llundain
Yn 2015 cyflwynais yn llwyddiannus weithdy sesiwn gaeedig saith awr ar ddatblygu polisi Cyllid Islamaidd o fewn fframwaith ariannol y DU yn FCO - Llundain
Cynulleidfa: Banc Lloegr, Trysorlys y DU, adran ymgyfreitha’r DU, Cyllid a Thollau EM, FCA ac aelodau staff FCA
Ebrill 2015 Yr Aifft: AAST (Academi Arabaidd Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Astudiaethau Morwrol - Alexandria - Yr Aifft). Cyflwynais ddarlith wadd ar Economeg a Chyllid Islamaidd i'r holl fyfyrwyr yn y brifysgol a’r gyfadran academaidd
Ebrill 2015 Pacistan: Darlith Cynhadledd trwy Skype (Testun: Cyllid Islamaidd: Persbectif y DU) - Islamabad (Pacistan) - Ysgol Reoli FAST, NUCES Islamabad, Pacistan
Ebrill 2017 Caerdydd, y DU: Trefnais a chyd-gyflwynais ddarlith gyhoeddus ar Ewyllysiau Islamaidd a Chynllunio Trethi Stadau yn Dar-ul-Isra (Canolfan Gymunedol Fwslimaidd, Caerdydd, Cymru) (Ebrill 2017)
Mehefin 2017 Caerdydd, y DU: Cymerais ran mewn trafodaeth bord gron gyda Andy Haldane, Prif Economegydd (Banc Lloegr) yn Dar-ul-Isra (Canolfan Gymunedol Fwslimaidd, Caerdydd, Cymru) lle cynigiais gyllid di-log i fyfyrwyr (Islamaidd) a benthyciadau dechrau busnes Islamaidd
Medi 2018 Muscat, Swltanad Oman: Cyflwynais ddarlith arbennig ar y cyd i gyfadran academaidd Coleg y Gwlff yn Muscat, Oman ar addysgeg yn canolbwyntio ar y trawsnewid o ddysgu ar yr wyneb i ddysgu dwfn
Hydref 2018 Sri Lanka: Cyflwynais ddarlithoedd gwadd MBA ar gampysau Colombo a Kandy ICBT (Coleg Rhyngwladol Busnes a Thechnoleg) ar gyflogadwyedd myfyrwyr a bywyd ar ôl MBA
Prosiectau
Ar wahân i'w brosiect ymchwil mae’n gweithio ar hyn o bryd ar ddatblygu MSc Cyllid Islamaidd a Rheolaeth a chyrsiau byr mewn Cyllid Islamaidd ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Cysylltiadau allanol
Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) (CIMA - Ymgeisydd) ers 2017
Aelod o (AAOIFI) Auditing and Auditing Organisation for Islamic Finance Institution (AAOIFI) Bahrain er Chwefror 2013
Dros y blynyddoedd, mae Asif wedi datblygu diddordeb brwd yn yr economi ryngwladol a gwleidyddol a'r cyfryngau. Yn arbennig mae’n dilyn y sector ariannol yn glos iawn.
Yn ddiweddar mae wedi cael ei benodi fel 'Uwch Ymgynghorydd ac yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol’ ar gyfer Canolfan Ryngwladol Amddiffyn a Rhyddid Newyddiadurwyr (ICPFJ) lle mae'n cyfrannu ymchwil wyddonol i hyrwyddo adroddiadau credadwy a diduedd.
Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys cerdded, coginio bwydydd Indiaidd a dwyreiniol. Mae'n mwynhau estyn croeso i deulu a ffrindiau. Mae Asif hefyd yn beilot preifat adenydd sefydlog (awyrennau) profiadol ac mae bob amser yn mwynhau hedfan awyrennau ysgafn a chanolig fel gweithgaredd hamdden gyda ffrindiau a theulu.