Mae Kathryn Lewis yn ddarlithydd mewn Marchnata Ffasiwn. Dechreuodd Kathryn ei gyrfa gyda BA dosbarth cyntaf (anrhydedd) mewn Dylunio Ffasiwn. Yn ystod ei gradd israddedig enillodd 'Casgliad Graddedigion y Flwyddyn' a 'Dylunydd Mwyaf Arloesol'.
Mae Kathryn wedi cwblhau cwrs Ôl-raddedig mewn Addysg a Hyfforddiant gyda phrofiad mewn addysgu mewn addysg bellach ac uwch. Mae ei MA mewn Cyfathrebu Gweledol ac mae ymchwil yn canolbwyntio ar ffasiwn cynaliadwy a diwylliant digidol.
Dechreuodd Kathryn ei gyrfa fel marchnatwr gweledol i fanwerthwr rhyngwladol ar y stryd fawr. Yn ddiweddarach bu'n gweithio mewn cynnwys ar-lein ac optimeiddio safleoedd i fanwerthwr ffasiwn byd-eang lle bu'n rheoli marchnata ar-lein, tudalennau chwilio a chynnwys tueddiadau allweddol ar gyfer nifer o diriogaethau byd-eang. Mae ei phrofiad yn y diwydiant ffasiwn yn amrywio o e-fasnach, marchnata digidol a rheoli brand i gysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.