Ar ôl 15 mlynedd yn gweithio fel cyfrifydd, cychwynnodd Judith ar yrfa addysgu yn 2003 mewn Coleg Addysg Bellach, gan addysgu ar raglenni, gan gynnwys CIMA, AAT a chymwysterau Lefel 3 mewn Cyllid, Cyfrifeg ac Astudiaethau Busnes. Yn 2006, cwblhaodd Judith Dystysgrif Addysgu Ôl-raddedig yn llwyddiannus. Yn 2013, ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel darlithydd mewn Cyllid, gan arwain modiwlau yn amrywio o Sylfaen i Lefel Meistr. Daeth yn gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA) yn 2013.